Neidio i'r prif gynnwy

Rownd derfynol

Corey Jones

Mae prentisiaeth Corey Jones o Wrecsam gydag un o brif archfarchnadoedd Prydain wedi ei helpu i ddringo’r ysgol i swydd reoli o fewn ei dair blynedd gyntaf. Enillodd Ddiploma Lefel 3 mewn Sgiliau Manwerthu ac mae’r dyn ifanc 22 oed wedi dringo o fod yn gynorthwyydd siop yn y flwyddyn gyntaf i fod yn rheolwr cynorthwyol siop y cwmni yn yr Wyddgrug ar ôl dilyn hyfforddiant rheoli. 

Caiff rhaglen Brentisiaethau Aldi ei chyflenwi gyda chymorth y darparwr hyfforddiant First4Skills ac ITEC Skills & Employment. Yn ei flwyddyn olaf, gan ei fod yn sylweddoli pa mor bwysig yw’r hyfforddiant a’r sgiliau a gafodd, daeth yn fentor ar gyfer prentis newydd.