Neidio i'r prif gynnwy

Mae'r ymchwil hon yn dangos agweddau tuag at wyddoniaeth ymhlith y cyhoedd yng Nghymru drwy arolwg. Mae hyn yn cynnwys eu hagweddau, eu dealltwriaeth a'u hymgysylltiad â gwyddoniaeth a thechnoleg.

Mae’r arolwg yn dangos bod agwedd y cyhoedd i wyddoniaeth a thechnoleg yn bositif iawn ar y cyfan.

Y datganiadau y cafwyd y lefelau uchaf yn cytuno â hwy oedd y rhai hynny oedd yn cysylltu gwyddoniaeth gyda llewyrch a thwf economaidd Cymru.

Cafodd pwysigrwydd addysg wyddonol ei bwysleisio ymhlith y cyhoedd. Byddai’r mwyafrif llethol o atebwyr yn hoffi gweld Llywodraeth Cymru yn buddsoddi mwy mewn ymchwil ac addysg wyddonol. Roedd y rhan fwyaf o atebwyr yn ystyried bod diddordeb pobl ifanc mewn gwyddoniaeth yn fater pwysig i ddyfodol Cymru.

Gwnaethpwyd cymariaethau rhwng y gwaith ymchwil hwn ac arolygon o wledydd eraill, oedd â’r un cwestiynau. Ar y cyfan, roedd lefelau tebyg yn cytuno ac anghytuno ar draws yr arolygon hyn.

Adroddiadau

Agweddau'r cyhoedd at wyddoniaeth yng Nghymru , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 816 KB

PDF
816 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Cyswllt

Isabella Malet-Lambert

Rhif ffôn: 0300 062 8250

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.