Neidio i'r prif gynnwy

Enillydd

Convey Law

Mae gan Convey Law gynlluniau uchelgeisiol i dyfu hyd at 50% yn 2021 trwy Raglen Brentisiaethau fewnol ddyfeisgar a ddisgrifir gan y rheolwr gyfarwyddwr fel un drawsnewidiol.

Datblygodd y cwmni o Gasnewydd y dull hwn o weithredu ar ôl cael anhawster i recriwtio trawsgludwyr.  Gwelodd ei bod yn well hyfforddi prentisiaid yn y dulliau diweddaraf a’u helpu i ddysgu mewn ffordd sy’n adlewyrchu gwerthoedd a dulliau gweithredu’r cwmni.

Trwy bartneriaeth gyllido â Choleg Caerdydd a’r Fro, aeth Convey Law ati i greu The Conveyancing Academy yn 2014 a bu hynny’n help i’r cwmni gyrraedd ei dargedau recriwtio, gyda nifer y trawsgludwyr yn codi o 25 yn 2019 i 55 yn 2020. Dyblwyd nifer y prentisiaid o 15 i 30 mewn blwyddyn.

“Mae ein Rhaglen Brentisiaethau yn arwain at yrfa broffesiynol sy’n rhoi boddhad. Gall newid bywydau trwy gynnig rhagolygon am yrfa well dros gyfnod maith,”

meddai Lloyd Davies, rheolwr gyfarwyddwr.