Lynne Neagle AS Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg
Cynnwys
Cyfrifoldebau'r Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg
Cynnwys
Cyfrifoldebau
- Llywodraethu ysgolion, trefniadaeth ysgolion a derbyniadau i ysgolion
- Safonau ysgolion, gwelliannau a chyrhaeddiad disgyblion, gan gynnwys y System Genedlaethol ar gyfer Categoreiddio Ysgolion
- Cylch gwaith Estyn
- Cyllido ysgolion
- Y cwricwlwm ac asesu hyd at a chan gynnwys Safon Uwch
- Addysg cyfrwng Cymraeg a dwyieithog
- Addysg a gofal plentyndod cynnar
- Anghenion dysgu ychwanegol, gan gynnwys anghenion disgyblion sydd ag anawsterau dysgu difrifol, cymhleth a/neu benodol, disgyblion anabl, a disgyblion mwy abl a thalentog
- Cymorth i bobl â Dyslecsia
- Diogelu a chynhwysiant mewn ysgolion, gan gynnwys diogelwch ar y rhyngrwyd
- Cwynion ynghylch Awdurdodau Addysg Lleol a chyrff llywodraethu ysgolion
- Cyflwyno a rheoli'r rhaglen addysg ac Ysgolion yr 21ain Ganrif
- Cymwysterau Cymru
- Hyfforddi a datblygu'r gweithlu addysg, gan gynnwys hyfforddiant cychwynnol athrawon
- Cyflog ac Amodau Athrawon
- Addysg Bellach
- Cymorth i fyfyrwyr Addysg Bellach: y Lwfans Cynhaliaeth Addysg a Grant Dysgu Llywodraeth Cymru
- Polisi gwaith ieuenctid
- Dysgu oedolion yn y gymuned
- Y Fframwaith Credydau a Chymwysterau gan gynnwys cymwysterau sgiliau galwedigaethol, allweddol a hanfodol
- Dysgu Carcharorion
- Polisi, strategaeth a chyllido Addysg Uwch
- Addysg Drydyddol, gan gynnwys diwygio'r cwricwlwm ôl-16 a'r Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil
- Strategaeth a dysgu rhyngwladol, gan gynnwys y Rhaglen Cyfnewid Dysgu Rhyngwladol a Chymru Fyd-eang
- Addysg Feddygol (ac eithrio hyfforddiant ôl-radd)
Bywgraffiad
Ganed Lynne Neagle ym Merthyr Tudful ac fe'i haddysgwyd yn Ysgol Uwchradd Cyfarthfa a Phrifysgol Reading.
Cyn iddi gael ei hethol i'r Senedd ym 1999, gweithiodd Lynne mewn nifer o swyddi o fewn y sector gwirfoddol yng Nghymru, i sefydliadau fel Shelter Cymru, Mind a CAB. Roedd hi'n Swyddog Datblygu Gofalwyr gyda Gweithredu Gwirfoddol Caerdydd a gweithiodd hefyd fel ymchwilydd i Glenys Kinnock ASE.
Lynne oedd Cadeirydd Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg y Senedd yn y Bumed Senedd.
Fe'i penodwyd yn Ddirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant ar 13 Mai 2021. Ar 21 Mawrth 2024, penodwyd Lynne yn Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg.