Neidio i'r prif gynnwy

Rebecca Evans AS, Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol

Cyhoeddwyd gyntaf:
15 Chwefror 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:

Heddiw, mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi crynodeb o’r canfyddiadau yn sgil cynnal ymarfer darganfod ynghylch sefydlu canolfan ragoriaeth ym maes caffael.

Cyhoeddwyd adroddiad “Caffael llesiant yng Nghymru” gan Gomisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol ar 25 Chwefror 2021. Un o argymhellion allweddol yr adroddiad hwn oedd sefydlu Canolfan Ragoriaeth Gaffael (PCoE).

Comisiynodd y Dirprwy Weinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth bryd hynny banel caffael arbenigol hefyd i lunio papur ar ddatblygu Canolfan Ragoriaeth ar gyfer Caffael. Cyflwynwyd y papur hwn ar 26 Chwefror 2021.

Rydym wedi bod yn gweithio gyda’n holl randdeiliaid yn sector cyhoeddus Cymru i ddeall sut orau i roi dau argymhelliad y Comisiynydd ar waith. Rwy’n gwerthfawrogi’n fawr gyfraniad brwd y rhanddeiliaid sy’n cynnwys edrych ar gyflenwyr ac ar yr hyn y mae gwledydd eraill yn ei wneud.

Mae’r ymarfer wedi cynnig nifer o argymhellion gan gynnwys sefydlu trefn lywodraethu sy’n seiliedig ar gymuned a chynnal peilot/cymal Alffa i brofi’r argymhelliad i sefydlu canolfan ragoriaeth caffael, i ddechrau fel cyfres o wasanaethau.

Dyma’r gwasanaethau fydd yn cael eu profi:

  • Gwasanaeth 1 – Creu cymuned
  • Gwasanaeth 2 – Rhannu’r Arferion Gorau
  • Gwasanaeth 3 – Datblygu dealltwriaeth
  • Gwasanaeth 4 – Cefnogi Hyfforddiant

Rwy’ wedi cytuno bod y peilot/cymal Alffa yn cael mynd yn ei flaen a chaiff cyflenwr ei gaffael i gynnal y gwasanaethau hyn yn y tymor byr.

Ceir rhagor o fanylion yn y crynodeb o’r canfyddiadau. Gobeithio y cewch y canfyddiadau’n ddefnyddiol a’u bod yn eich helpu i ddeall y trywydd rydym yn ei ddilyn, pa mor bell rydym eisoes wedi teithio a beth sydd eto angen ei wneud. Y mae ar gael ichi ei weld yma:

Adroddiad darganfod: crynodeb gweithredol

Adroddiad darganfod