Hyfforddiant a digwyddiadau
Gwybodaeth am ein digwyddiadau a gweithgareddau ymgysylltu.
Cynnwys
Digwyddiadau Ardoll Ymwelwyr
Paratowch ar gyfer yr Ardoll Ymwelwyr yng Nghaerdydd
Rydym yn cynnal sesiynau 'Paratowch' am ddim i helpu darparwyr llety ymwelwyr yng Nghaerdydd i baratoi ar gyfer y newidiadau sydd ar y ffordd.
Mae'r sesiynau hyn ar gyfer unrhyw un sy'n darparu llety ymwelwyr yng Nghaerdydd, boed yn rhedeg gwesty, llety tymor byr, maes gwersylla, neu unrhyw fath arall o lety ymwelwyr.
Rydym yn cynnal y rhain ar-lein ac wyneb yn wyneb, fel y gallwch ddewis beth sy'n gweddu orau i chi.
Bydd y sesiynau yn ymdrin â:
- trosolwg o'r hyn y mae'r Ardoll Ymwelwyr yn ei olygu i'ch busnes
- canllawiau ymarferol ar yr hyn y mae angen i chi ei wneud i baratoi
- atebion i'ch cwestiynau gan arbenigwyr Awdurdod Cyllid Cymru (ACC)
Byddwch yn gallu gofyn cwestiynau drwy gydol y sesiwn, gyda'n tîm wrth law i helpu. Cynhelir y sesiynau yn ddwyieithog yn Saesneg a Chymraeg.
Digwyddiad wyneb yn wyneb
Gweminar ar-lein
Gweminarau blaenorol
Canllaw ychwanegol
Am ragor o ganllawiau, darllenwch Paratowch ar gyfer yr Ardoll Ymwelwyr: canllaw cyflym i ddarparwyr llety yng Nghaerdydd.
Digwyddiadau cofrestru llety ymwelwyr
Gweithdai: sut i gofrestru eich llety ymwelwyr
Rydym yn cynnal gweithdai ar-lein am ddim i’ch helpu i gofrestru eich llety ymwelwyr yng Nghymru.
Mae’r gweithdai hyn ar gyfer unrhyw un sy’n derbyn archebion ar gyfer arosiadau dros nos yng Nghymru, p’un a ydych yn lletya’n achlysurol, yn dymhorol neu drwy gydol y flwyddyn.
Bydd y gweithdai yn cynnwys:
- canllaw cam wrth gam drwy’r broses gofrestru
- cyngor ymarferol ar yr hyn sydd ei angen arnoch i gwblhau eich cofrestriad
- atebion i’ch cwestiynau gan arbenigwyr Awdurdod Cyllid Cymru (ACC)
Byddwch yn gallu cofrestru eich llety ymwelwyr yn ystod y gweithdy, gyda’n tîm ar gael i’ch helpu drwy gydol y broses.
Cofrestrwch ar gyfer gweithdai a gyflwynir yn Saesneg
- Dydd Mawrth 8 Rhagfyr 2026, 1pm i 1:45pm Cofrestrwch ar Eventbrite.
- Dydd Iau 7 Ionawr 2027, 6pm i 6:45pm Cofrestrwch ar Eventbrite.
- Dydd Mawrth 2 Chwefror 2027, 3pm i 3:45pm Cofrestrwch ar Eventbrite. Dydd Mawrth 2 Chwefror 2027, 3pm i 3:45pm Cofrestrwch ar Eventbrite.
- Dydd Iau 4 Mawrth 2027, 2pm i 2:45pm. Cofrestrwch ar Eventbrite.
- Dydd Llun 29 Mawrth 2027, 6pm i 6:45pm. Cofrestrwch ar Eventbrite.
- Dydd Mercher 31 Mawrth 2027, 3pm i 3:45pm. Cofrestrwch ar Eventbrite.
Cofrestrwch ar gyfer gweithdai a gyflwynir yn Gymraeg
- Dydd Mawrth 16 Chwefror 2027, 1pm i 1:45pm Cofrestrwch ar Eventbrite.
- Dydd Mercher 10 Mawrth 2027, 6pm i 6:45pm. Cofrestrwch ar Eventbrite.
Gweminarau blaenorol
- Cofrestr cenedlaethol i llety ymwelwyr a’r Ardoll Ymwelwyr: 24 Mawrth 2026 (Gweminarau cyfrwng Saesneg)
- Cofrestr cenedlaethol i llety ymwelwyr a’r Ardoll Ymwelwyr: 17 Mawrth 2026 (Gweminarau cyfrwng Cymraeg)
Canllaw ychwanegol
Am ragor o ganllawiau, darllenwch Cofrestru llety ymwelwyr: trosolwg
Digwyddiadau Fforwm Treth Trafodiadau Tir (TTT)
Fforwm Treth Trafodiadau Tir (TTT)
Rydyn ni'n cynnal fforwm treth rhad ac am ddim sy'n canolbwyntio ar agweddau ar TTT lle mae cyfreithwyr a thrawsgludwyr wedi gofyn am ragor o hyfforddiant yn eu cylch.
Bydd y digwyddiad yn cael ei gynnal yng Nghaerdydd ddydd Mawrth 22 Medi.
Mae'r fforwm ar gyfer:
- pobl sy'n ffeilio ffurflenni treth TTT neu'n talu TTT gydag ACC
- cyfreithwyr
- trawsgludwyr
Bydd y fforwm yn canolbwyntio ar:
- addas i'w ddefnyddio
- trosglwyddo ecwiti
- camgymeriadau cyffredin mewn trafodiadau cyfradd uwch
Gallwch hefyd gwrdd ag arbenigwyr technegol o ACC i gael sgwrs a rhoi adborth am ein gwasanaethau.
Gallwch archebu eich lle ar Eventbrite.
Cysylltwch â ni
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am hyfforddiant neu ddigwyddiadau, cysylltwch â ni drwy:
- ffôn: 03000 254 000
- ebost: digwyddiadauhyfforddi@acc.llyw.cymru
Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.
