Neidio i'r prif gynnwy

Rownd derfynol

Russell Beale

Bod yn Beiriannydd Sifil Siartredig yw nod Russell Beale ac mae eisoes wedi ennill gwobr yn y maes.

Mae’r dyn ifanc 21 oed o Bont-y-pŵl, a enillodd wobr Prentis y Flwyddyn 2017 gan y CITB yng Nghymru, yn gweithio i VINCI Construction Grands Projet ac ar hyn o bryd mae'n gwneud gwaith pwysig yn paratoi ar gyfer ffordd liniaru’r M4 yng Nghasnewydd.

Trwy’r darparwr hyfforddiant CITB, mae Russell wedi cwblhau Prentisiaeth mewn Peirianneg Sifil ar gyfer Technegwyr a Diploma BTEC Lefel 3 mewn Adeiladu a’r Amgylchedd Adeiledig. Ar hyn o bryd mae’n astudio ar gyfer HNC a bydd yn symud ymlaen i wneud gradd BEng (Anrhydedd) ym Mhrifysgol De Cymru.

Mae wedi defnyddio’i wybodaeth i foderneiddio technegau a gweithdrefnau yn ei waith, ac i baratoi llawlyfrau hyfforddi a chyflwyniadau, ac arwain sesiynau hyfforddi.