Neidio i'r prif gynnwy

Enyllidd

Cyngor Rhondda Cynon Taf

Mae Cyngor Rhondda Cynon Taf yn cydweithio â nifer o bartneriaid allanol, yn cynnwys Coleg Pen-y-bont a Choleg y Cymoedd, i gynnig dros 20 o brentisiaethau mewn gyrfaoedd amrywiol fel peirianneg, garddwriaeth, iechyd a gofal cymdeithasol, ffitrwydd, mecaneg, a sain a goleuo technegol a llwyfannu.

Caiff yr 85 prentis sydd gan y cyngor ar hyn o bryd gydweithio â mentoriaid profiadol ac mae gan bawb gydlynydd i’w helpu i ddatblygu’n unigolyn medrus iawn sydd â rhagolygon am yrfa faith gyda'r Cyngor.

Cefnogir y prentisiaid gan Reolwr Cyflogaeth, Addysg a Hyfforddiant y Cyngor, Sian Woolson, a ddywedodd: “Rydyn ni’n edrych ar brentisiaeth fel dechrau taith sy’n ymestyn y tu hwnt i’r cyfnod cychwynnol o ddwy flynedd. O ganlyniad i hynny, mae dros 90% o’n prentisiaid yn cael cyfleoedd pellach i weithio ac i ddysgu ac mae’r mwyafrif mawr yn aros gyda ni.”