Neidio i'r prif gynnwy

Gwybodaeth am y cynllun peilot a ddarparodd incwm sylfaenol rheolaidd i garfan o bobl ifanc â phrofiad o ofal am 24 mis ar ôl eu pen-blwydd yn 18 oed.

Sut y lluniwyd y cynllun peilot

Roedd y cynllun peilot Incwm Sylfaenol ar gyfer Pobl Ifanc sy'n Gadael Gofal yng Nghymru yn gynllun ar gyfer pobl ifanc â phrofiad o ofal a oedd yn gadael gofal ac yn troi'n 18 oed rhwng 1 Gorffennaf 2022 a 30 Mehefin 2023. 

Bu'r cynllun peilot yn rhedeg am 3 blynedd, gyda phob aelod o'r garfan yn cael taliad incwm sylfaenol o £1,280 y mis (£1,600, cyn treth) am gyfnod o 24 mis o'r mis ar ôl eu pen-blwydd yn 18 oed. Daeth y cynllun peilot i ben yn ffurfiol ym mis Mehefin 2025, gyda gweithgareddau gwerthuso yn parhau hyd at 2027. 

Roedd y cynllun peilot yn ategu cynlluniau eraill Llywodraeth Cymru ar gyfer pobl sy'n gadael gofal, megis eithrio rhag y Dreth Gyngor a sefydlu Cronfa Dydd Gŵyl Dewi. Roedd Llywodraeth Cymru yn gweld incwm sylfaenol fel buddsoddiad uniongyrchol yn y derbynwyr, gan roi'r lle iddynt ffynnu tra'n sicrhau eu hanghenion sylfaenol.

Sut y cyflwynwyd y cynllun peilot

Cafodd y rhai a oedd yn gymwys i gymryd rhan eu clustnodi gan eu hawdurdodau lleol, a rhoddwyd gwybodaeth ac arweiniad iddynt am y cynllun peilot cyn eu pen-blwydd yn 18 oed. Cawsant eu gwahodd i gymryd rhan mewn trafodaethau cychwynnol i weld os oedd ymuno â'r cynllun peilot yn fanteisiol iddynt. Yna cyflwynwyd ffurflenni cofrestru mewn pryd i dderbyn eu taliad cyntaf o'r mis ar ôl eu pen-blwydd yn 18 oed. 

Ymunodd rhai pobl ifanc â'r cynllun peilot yn hwyrach na'r disgwyl oherwydd rhesymau gweinyddol neu bersonol. Derbyniodd y bobl ifanc hyn werth 24 mis o daliadau beth bynnag.

Cyfrifoldeb timau gwasanaethau cymdeithasol awdurdodau lleol ledled Cymru oedd cyflawni'r cynllun peilot o ddydd i ddydd. Timau gwasanaethau cymdeithasol oedd y rhyngwyneb rhwng y bobl ifanc a'r cynllun peilot, gan barhau i gefnogi'r bobl ifanc fel y byddent yn gwneud i unrhyw berson ifanc arall sy'n gadael gofal neu sydd â phrofiad o ofal. Ymhlith y rhanddeiliaid pwysig eraill a gyflawnodd agweddau ar y cynllun peilot roedd NEC Software Solutions, a weinyddodd y taliadau, a Cyngor ar Bopeth, a ddarparodd gyngor a chefnogaeth ychwanegol i bobl ifanc, gan gynnwys trafodaethau cychwynnol i weld os byddai'r cynllun yn fanteisiol a chyngor cyffredinol arall. Bu Voices from Care Cymru yn trefnu ac yn cadeirio cyfarfodydd rheolaidd i ymarferwyr yn ogystal â darparu cymorth i bobl ifanc.

Os oedd person ifanc a oedd yn derbyn incwm sylfaenol yn parhau i fod o dan ofal awdurdod lleol yng Nghymru, roedd yn parhau i dderbyn yr incwm sylfaenol waeth ble roedd yn dewis byw ar ôl ei ben-blwydd yn 18 oed. Roedd hyn yn sicrhau y gallai pobl ifanc symud i astudio neu ar gyfer gwaith heb i'r cynllun peilot incwm sylfaenol effeithio ar eu dewisiadau.

Sut y gwnaethpwyd y taliadau

Nid oedd unrhyw amodau na gofynion ynghlwm wrth y taliad. Gallai unigolion weithio ac ennill incwm ychwanegol heb unrhyw effaith ar eu taliadau incwm sylfaenol.

Roedd yr un swm yn cael ei dalu i bawb ac nid oedd yn cael ei addasu yn ystod y cynllun peilot. Roedd y taliadau yn cael eu gwneud i unigolion ac nid i aelwydydd.

Nid oedd unrhyw gyfyngiadau ar sut y gallai pobl ddewis gwario eu taliad incwm sylfaenol. 

Roedd pawb fu'n cymryd rhan yn y cynllun peilot yn cael taliad o £1,600 y mis, cyn treth, am gyfnod o 24 mis. Cadarnhaodd Cyllid a Thollau EF a'r Adran Gwaith a Phensiynau bod y taliad yn gysylltiedig â'r system dreth a budd-daliadau ac y byddai'n cael ei ystyried yn incwm. Trethwyd yr incwm o'r cychwyn ar y gyfradd dreth sylfaenol (20%), gan olygu bod derbynwyr wedi cael £1,280 y mis ar ôl treth. 

Dechreuodd y taliadau'r mis ar ôl pen-blwydd y derbynnydd yn 18 oed, neu'r mis ar ôl iddynt gofrestru'n hwyr. 

Roedd rhai amgylchiadau yn golygu nad oedd unigolion yn derbyn gwerth 24 mis llawn o daliadau. Er enghraifft, os oedd unigolyn yn mynd i'r ddalfa, roedd ei daliad yn cael ei atal nes iddo gael ei ryddhau. 

Roedd yn ofynnol i bob derbynnydd cymwys gael cyfrif banc yn y DU i dderbyn y taliadau incwm sylfaenol. Cafodd darparwr talu trydydd parti ei gontractio i weinyddu'r taliadau i unigolion ac i ymdrin ag ymholiadau ynghylch y taliadau. 

Wrth gofrestru, gallai derbynwyr ddewis p'un ai i dderbyn eu taliad mewn 1 neu 2 randaliad y mis. Gellid newid yr amlder talu hwn ar unrhyw adeg yn ystod y peilot. Gallai'r derbynwyr hefyd ddewis tynnu taliadau rhent o'u hincwm sylfaenol gan eu talu'n uniongyrchol i landlordiaid.

Sut y cefnogwyd y derbynwyr

Cyn iddynt wneud unrhyw benderfyniad ynghylch ymuno â’r cynllun peilot, gwahoddwyd ymgeiswyr cymwys i sesiynau gyda chynghorydd annibynnol lle cafwyd cyfle i drafod y broses ymgeisio/taliadau, ac effeithiau posibl hyn ar eu hawl i fudd-daliadau, eu haddysg, cyflogaeth ac unrhyw faterion perthnasol eraill. Roedd hyn yn eu galluogi i wneud dewis gwybodus.

Sut mae'r cynllun peilot yn cael ei werthuso

Mae’r gwerthusiad yn cael ei arwain gan Ganolfan Ymchwil a Datblygu Gofal Cymdeithasol Plant (CASCADE) ym Mhrifysgol Caerdydd gyda phartneriaid ym Mhrifysgol Rhydychen, Prifysgol Caerefrog, Kings College Llundain, a Phrifysgol Northumbria.

Bydd yn rhedeg tan 2027, gan adrodd yn flynyddol drwy gydol y cyfnod hwn. Bydd fframwaith gwerthuso mwy hirdymor sy’n defnyddio data gweinyddol yn cael ei ddatblygu i’n galluogi i ddeall effaith y cynllun peilot ar fywydau’r rhai sy’n cymryd rhan y tu hwnt i 2027. 

Mae'r gwerthusiad yn cael ei reoli gan swyddogion o broffesiwn Ymchwil Gymdeithasol Llywodraeth Cymru.

Rhagor o wybodaeth am werthusiad y cynllun peilot.