Neidio i'r prif gynnwy

Y nod dros Gymru gydnerth

Cenedl sy’n cynnal ac yn gwella amgylchedd naturiol bioamrywiol gydag ecosystemau iach gweithredol sy’n cynnal cydnerthedd cymdeithasol, economaidd ac ecolegol ynghyd â’r gallu i addasu i newid (er enghraifft, newid yn yr hinsawdd).

Mae llawer o’r dangosyddion cenedlaethol a ddefnyddir i fesur cynnydd tuag at y nod hwn yn ddangosyddion hirdymor sy’n mesur newid graddol yn yr amgylchedd ffisegol (er enghraifft, bioamrywiaeth, ansawdd aer, ynni adnewyddadwy, ecosystemau iach ac ailgylchu). Gan fod y dangosyddion cenedlaethol hyn yn seiliedig ar yr amgylchedd ffisegol yn hytrach na phobl, prin yw’r data sydd ar gael am blant a phobl ifanc.

Climate change

Mae canlyniadau’r Arolwg Cenedlaethol ar gyfer 2021-22 yn dangos bod y mwyafrif helaeth o bobl ifanc 16 i 24 oed (98%) yn credu bod hinsawdd y byd yn newid. Roedd 79% o bobl 16 i 24 oed yn eithaf pryderus neu’n bryderus iawn am newid yn yr hinsawdd, sy’n cyd-fynd â’r canlyniadau yn 2020-21 (73%) ac yn 2018-19 (78%), a chynnydd o’i gymharu â’r 65% yn 2016-17.

Yn 2021-22, mae 66% o bobl ifanc 16 i 24 oed yn meddwl bod newid yn yr hinsawdd yn ganlyniad i weithgarwch dynol yn bennaf neu’n gyfan gwbl. Mae 97% yn meddwl bod gweithgarwch dynol yn gysylltiedig i ryw raddau â newid hinsawdd y byd.

Ym mis Mai 2020, oherwydd pandemig COVID-19, newidiodd yr Arolwg Cenedlaethol y modd o gyfweld o sesiynau wyneb yn wyneb i rai dros y ffôn. Newidiwyd geiriad rhai cwestiynau hefyd i fod yn fwy addas i’r modd. Am y rhesymau hyn, nid yw bob amser yn bosibl gwneud cymariaethau uniongyrchol ar draws blynyddoedd ond, lle bo hynny’n berthnasol, cynhwysir canlyniadau blynyddoedd blaenorol i ychwanegu cyd-destun.

Mae data o Astudiaeth Aml-Garfan WISERD 2022 yn dangos bod dros ddwy ran o dair o blant a gymerodd ran yn yr astudiaeth yn poeni o leiaf rhywfaint am newid hinsawdd, gyda menywod a phlant hŷn yn dangos lefelau uwch o boeni. Mae dros hanner y plant yn yr astudiaeth (56%) yn teimlo ei bod hi'n fater brys iawn ein bod yn gwneud rhywbeth am newid yn yr hinsawdd, gyda 37% arall yn teimlo bod hyn yn fater eithaf brys. Mae dros dri chwarter o blant yn teimlo bod gan bawb ran i'w chwarae i warchod yr amgylchedd.

Ffynonellau data a darllen pellach

Mae Arolwg Cenedlaethol Cymru yn darparu data ar safbwyntiau pobl ar faterion amgylcheddol.

Astudiaeth Aml-Garfan WISERD 2022, Prifysgol Caerdydd

Mae’r Adroddiad ar Sefyllfa Adnoddau Naturiol 2020 (Cyfoeth Naturiol Cymru)  yn darparu asesiad cynhwysfawr o’r graddau y mae adnoddau naturiol yn cael eu rheoli’n gynaliadwy.