Neidio i'r prif gynnwy

Y nod ar gyfer Cymru iachach

Cymdeithas lle mae llesiant corfforol a meddyliol pobl cystal â phosibl a lle mae modd deall dewisiadau ac ymddygiad sydd o fudd i iechyd yn y dyfodol.

Babanod pwysau geni isel

Mae canran y babanod pwysau geni isel wedi aros yn gymharol sefydlog dros y gyfres amser, fel arfer yn amrywio rhwng 5% a 6%. Cofnodwyd y ffigurau isaf erioed yn 2014 a 2015, ac ers hynny gwelwyd cynnydd bychan, gyda'r nifer uchaf erioed yn 2020 (6.1%) cyn gostwng eto yn 2021 (5.8%).

Yn 2021, roedd gan ganran ychydig yn uwch o fabanod benywaidd bwysau geni isel (6.2%) o’i gymharu â babanod gwrywaidd (5.3%). Mae hyn yn weddol gyson â’r duedd dros dymor hirach.

Image
Siart linell yn dangos canran y genedigaethau sengl byw a oedd yn pwyso o dan 2,500g. Mae'r gyfradd wedi amrywio rhwng 5% a 6% yn ystod y cyfnod amser, gyda rhywfaint o duedd am i fyny ers 2014.

Iechyd mamau

Yn 2021, cafodd 15% o fenywod beichiog eu cofnodi fel ysmygwyr yn eu hasesiad cychwynnol. Mae hyn yn cyflymu’r duedd ar i lawr ers i ddata gael ei gasglu am y tro cyntaf yn 2016, ac mae’n ddau bwynt canran yn is nag yn y flwyddyn flaenorol. Fodd bynnag, mae’n bosibl bod y ffaith bod bron yr holl ddata yn cael ei hunan-adrodd yn effeithio ar y gostyngiad mawr yn 2021, yn hytrach na bod carbon monocsid yn cael ei fonitro.

Roedd cyfran uwch o fenywod iau yn dweud eu bod yn ysmygu yn yr asesiad cychwynnol o’i gymharu â menywod hŷn. Cofnodwyd bod traean o fenywod rhwng 16 a 19 oed yn ysmygu yn yr asesiad cychwynnol o’i gymharu ag un o bob deg o fenywod 30 oed neu hŷn. Mae cyfraddau ysmygu yn yr asesiad cychwynnol wedi gostwng dros y pum mlynedd diwethaf ar gyfer pob grŵp oedran, (ac eithrio’r rhai o dan 16 oed, sy’n ddarostyngedig i anwadalrwydd oherwydd y nifer isel o fenywod yn y grŵp hwn).

Gwelwyd manteision iechyd i fabanod a’u mamau yn sgil bwydo ar y fron. Roedd y data blynyddol diweddaraf ynghylch canran y babanod sy’n cael eu bwydo ar y fron adeg geni tua 64% yn 2021. Mae hyn 3 pwynt canran yn uwch nag yn 2016. Mae babanod mamau hŷn yn fwy tebygol o gael eu bwydo ar y fron na rhai mamau iau.

Roedd beichiogi yn yr arddegau wedi cyrraedd y lefel isaf erioed yn 2020, gyda 66.6 beichiogiad am bob 1,000 o fenywod. Mae Cymru hefyd wedi gweld gostyngiad sylweddol ers 2009, i lawr 11% o 74.7 beichiogiad am bob 1,000 o fenywod.

Ymddygiadau ffordd iach o fyw

Nod y garreg filltir genedlaethol ar ymddygiad iach plant yw cynyddu canran y plant sydd â dau ymddygiad iach neu fwy i 94% erbyn 2035 ac i dros 99% erbyn 2050.

Dangosodd arolwg Iechyd a Lles Myfyrwyr y Rhwydwaith Ymchwil Iechyd mewn Ysgolion fod canran y plant 11 i 16 oed sy’n cyrraedd y garreg filltir genedlaethol yn dal yn 88% yn 2019 ac mae wedi aros yn sefydlog ers dechrau casglu data yn ystod blwyddyn academaidd 2013/14.

Mae ymddygiadau fordd iach o fyw yn cynnwys peidio ag ysmygu, peidio ag yfed alcohol neu beidio â’i yfed yn aml, bwyta ffrwythau neu lysiau bob dydd a bod yn gorfforol egnïol am awr neu fwy, saith diwrnod yr wythnos.

Yn 2019, roedd 95% o’r rhai rhwng 11 i 16 oed yn dweud nad oeddent yn ysmygu a dywedodd 81% nad oeddent yn yfed alcohol neu nad oeddent yn ei yfed yn aml. Dywedodd 48% eu bod yn bwyta ffrwythau neu lysiau bob dydd a nododd 18% eu bod wedi bod yn gorfforol egnïol am awr neu fwy, saith diwrnod yr wythnos

Yn 2019, gostyngodd canran y plant â dau ymddygiad ffordd iach o fyw neu fwy yn ôl oedran yn yr ysgol uwchradd ac i raddau llai yn ôl golud teuluol is. Fodd bynnag, nid oedd gwahaniaethau mawr rhwng menywod a bechgyn.

Roedd y lefelau gweithgarwch corfforol yr adroddwyd amdanynt yn gostwng yn ôl oedran yn yr ysgol uwchradd. Mae bechgyn a phlant sy’n dod o gefndir o olud teuluol uchel yn fwy egnïol bob dydd.

Mae canran y plant sy'n dweud eu bod yn bwyta ffrwythau neu lysiau bob dydd hefyd yn gostwng yn ôl oedran yn yr ysgol uwchradd, gyda menywod a phlant sy’n dod o gefndir o olud teuluol uchel yn fwy tebygol o fwyta ffrwythau neu lysiau bob dydd.

Gostyngodd canran y plant sy'n dweud nad ydynt yn ysmygu yn ôl oedran yn yr ysgol uwchradd. Roedd menywod a phlant o gefndir o olud teuluol uchel yn fwy tebygol o ddweud nad oeddent yn ysmygu.

Gostyngodd canran y plant sy'n dweud nad ydynt byth neu’n anaml yn yfed alcohol yn ôl oedran yn yr ysgol uwchradd. Nid oedd llawer o wahaniaeth rhwng bechgyn a menywod. Fodd bynnag, roedd y rhai o gefndir o olud teuluol isel yn fwy tebygol o ddweud nad oeddent byth neu’n anaml yn yfed alcohol (o’i gymharu â golud teuluol uchel).

Yn 2019, roedd tua thraean o blant ysgol uwchradd yn cerdded neu’n beicio i’r ysgol, gyda chyfran ychydig yn uwch o fechgyn na menywod yn cerdded neu’n beicio i’r ysgol.

Mae rhaglen mesur plant 2018-19 yn dangos bod gan ychydig dros saith o bob deg plentyn yng Nghymru bwysau iach a bod plant oed derbyn yn llawer mwy tebygol na chyfartaledd Cymru o fod yn ordew os ydynt yn byw mewn ardaloedd lle mae mwy o amddifadedd. Mae bechgyn yn fwy tebygol o fod yn ordew neu dros bwysau yn yr ysgol, gyda’r bwlch yn ehangu yn ystod yr ysgol uwchradd.

Image
Siart sy'n dangos canran y plant yn dilyn dau neu fwy o ymddygiadau ffordd iach o fyw ar gyfer y flwyddyn academaidd 2019 i 2020. Gyda chanran y rhai sy'n dilyn dau ymddygiad ffordd iach o fyw neu fwy yn gostwng o Flwyddyn 7 i Flwyddyn 11
Image
Siart linell yn dangos  canran y plant sy'n yfed, ddim yn ysmygu, yn actif bob dydd ac yn bwyta ffrwythau a llysiau bob dydd, a byth yn yfed alcohol neu ddim yn yfed alcohol yn aml, rhwng blynyddoedd academaidd 2013/14 a 2019/20.

 

Profiadau niweidiol yn ystod plentyndod

Mae canlyniadau astudiaeth Profiadau Niweidiol mewn Plentyndod (ACE) Cymru yn dangos wrth gymharu pobl a ddioddefodd 4 neu fwy o brofiadau niweidiol yn ystod plentyndod â'r rhai na ddioddefodd ddim. Roedd y rhai a ddioddefodd yn fwy tebygol o brofi yfed risg uchel pan oedd yn oedolyn, o fod yn ysmygwr, i fod yn rhan o drais yn ystod y flwyddyn ddiwethaf ac yn fwy tebygol o fod wedi cael eu trin am salwch meddwl. Roedd cael rhai adnoddau gwytnwch yn fwy na haneru risgiau o salwch meddwl cyfredol yn y rhai sydd â phedwar neu fwy o ACE.

Iechyd meddwl a lles

Mae data dangosyddion cenedlaethol ar gyfer plant rhwng 10 a 15 oed a gasglwyd cyn y pandemig (blwyddyn academaidd 2019/20) yn dangos mai ychydig o newid sydd wedi bod yn sgôr gymedrig yr Holiadur Cryfderau ac Anawsterau ers blwyddyn academaidd 2013/14.

Fodd bynnag, mae data mwy diweddar o arolwg Iechyd a Lles Myfyrwyr y Rhwydwaith Ymchwil Iechyd mewn Ysgolion sy’n cymharu canfyddiadau o’r cyfnod cyn y pandemig ac yn ystod y pandemig (2019 i 2021) wedi darganfod gostyngiad yn y lles meddyliol cyfartalog i bobl ifanc 11 i 16 oed, gan defnyddio Graddfa Llesiant Meddyliol Warwick-Edinburgh.

Roedd sgôr gyfartalog SWEMWBS ar gyfer plant rhwng 11 i 16 oed ychydig yn is yn 2021 (23.0) o’i gymharu â 2019 (23.7). Er ei fod yn ymddangos fel gostyngiad bach, o ystyried y sampl fawr mae’n ddirywiad arwyddocaol yn ystadegol mewn llesiant meddyliol.Mae tueddiadau yn ôl ethnigrwydd yn dangos gostyngiad cymharol llai mewn llesiant meddyliol rhwng 2019 a 2021 ymysg myfyrwyr Du, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig o’i gymharu â myfyrwyr Gwyn. Mae data o flwyddyn academaidd 2019/20 yn dangos bod defnyddio cyfryngau cymdeithasol mewn ffordd broblemus, ar gyfartaledd, yn cynyddu gydag oedran (o flwyddyn 7 i flwyddyn 10) a’i fod yn uwch ymysg merched na bechgyn. 

Dywedodd cyfran gymharol fach o’r glasoed eu bod wedi bod yn rhan o seiberfwlio (tua un o bob deg). Fodd bynnag, dywedodd cyfran fwy eu bod wedi profi seiberfwlio (bron i un o bob pump). Ychydig iawn o wahaniaeth oedd rhwng y profiad o seiberfwlio yn ôl oedran, ond roedd merched yn fwy tebygol na bechgyn o fod wedi dweud eu bod yn cael eu seiberfwlio.

Image
Siart far yn dangos canran y plant sy'n defnyddio'r cyfryngau cymdeithasol mewn ffordd broblemus, yn ôl merched a bechgyn a grŵp oedran.

Ffynonellau data a darllen pellach