Neidio i'r prif gynnwy

Enillydd

Jayne Williams

Mae’r Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd bob amser yn troi at Jayne Williams i annog pobl i wmeud prentisiaethau, diolch i’w brwdfrydedd dros ddysgu a datblygu.

Mae swydd Jayne, 58, o Gasnewydd, fel clerc llys wedi'i ehangu i gynnwys hyfforddi staff, mentora, hwyluso a chyrsiau academi. Yn y flwyddyn ddiwethaf, helpodd i hyfforddi 690 o gydweithwyr y Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd drwy weithdai ar-lein.

Maen nhw’n cyfeirio pobl ati hi – y cyntaf o weithwyr y Gwasanaeth i gwblhau Prentisiaeth Uwch (Lefel 4) mewn Cyngor ac Arweiniad, gan y darparwr hyfforddiant ACT.

Fodd bynnag, nid dyna yw diwedd taith ddysgu Jayne. Yn awr, mae’n llygadu cymhwyster gan y Sefydliad Siartredig Personél a Datblygu neu Brentisiaeth Uwch (Lefel 5) mewn Dysgu a Datblygu.