Neidio i'r prif gynnwy

Rownd derfynol

Persimmon Homes West Wales

Mae cwmni adeiladu o Abertawe wedi creu ei lwybr gyrfaoedd ei hunan trwy lunio modelau hyfforddi pwrpasol i lenwi’r bwlch sgiliau cynyddol yn y diwydiant.

Crëwyd tua 150 o swyddi newydd gan Persimmon Homes West Wales ar gyfer prentisiaid ar ddechrau eu gyrfaoedd ac ar gyfer rhai sy’n dymuno ailhyfforddi er mwyn gweithio yn y sector adeiladu.

Yn ôl y cwmni, sydd mewn partneriaeth â Choleg Penybont, mae twf organig mewn adnoddau mewnol a chyfleoedd i symud ymlaen yn eich gyrfa yn helpu i recriwtio a chadw’r doniau lleol gorau oll.

Gall dysgwyr o bob oed ganfod man cychwyn er mwyn llywio'u gyrfa trwy gyfleoedd tryloyw ar gyfer prentisiaethau, yn amrywio o grefftau ar Lefelau 2 a 3 i Brentisiaeth Uwch (Lefel 4) mewn Rheoli Safle Adeiladu.