Neidio i'r prif gynnwy
Saz Willey

Mae Saz Willey yn aelod o Banel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol

Ganwyd Saz yng Nghymru. Enillodd radd mewn economeg a bu'n gweithio fel archwilydd cyn symud i Baris. Gan ddychwelyd i Gymru, daeth yn wirfoddolwr brwd, yn ofalwr ac ail-hyfforddodd yn y gyfraith. Bu'n gweithio fel rheolwr i CAB tan 2013 yn rheoli contractau Cymorth Cyfreithiol a Llywodraeth Cymru, gan ddatblygu gwasanaethau newydd ac ymgyrchu i wella polisi ac ymarfer.

Saz yw cadeirydd Gofal a Thrwsio Cymru ac mae'n aelod o Sefydliad Siartredig y Gweithredwyr Cyfreithiol.

Bu Saz yn gyfarwyddwr anweithredol gyda POBL am bum mlynedd. Roedd yn  gadeirydd Pwyllgor Archwilio a Risg y Grŵp ac yn ymddiriedolwr Ymddiriedolaeth POBL.

Bu hefyd yn aelod pwyllgor anweithredol ac archwilio Bwrdd Iechyd Lleol y Fro am chwe blynedd ac yn fentor PQASSO trwyddedig.