Neidio i'r prif gynnwy
Saz Willey

Mae Saz Willey yn aelod o Banel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol.

Bu Saz yn Gadeirydd Gofal a Thrwsio Cymru hyd at fis Medi 2024 pan ddaeth ei thymor 5 mlynedd i ben. Mae'n aelod o Sefydliad Siartredig y Gweithredwyr Cyfreithiol, Cymdeithas y Cadeiryddion, Women on Board, Rhwydwaith Cydraddoldeb Menywod Cymru, a'r Gymdeithas Diwygio Etholiadol, ac mae'n gwirfoddoli mewn pantri bwyd lleol.

Yn enedigol o Gymru, enillodd Saz radd mewn economeg, a bu'n gweithio fel archwilydd cyn symud i Baris. Ar ôl dychwelyd i Gymru, daeth yn wirfoddolwr gweithgar, yn ofalwr, ac ailhyfforddodd yn y gyfraith. Gweithiodd fel rheolwr Canolfan Cyngor ar Bopeth tan 2013, lle bu’n rheoli contractau Cymorth Cyfreithiol a Llywodraeth Cymru, yn datblygu gwasanaethau newydd, ac yn ymgyrchu i wella polisi ac arferion.

Mae Saz yn aelod o Sefydliad Siartredig y Gweithredwyr Cyfreithiol. Bu'n aelod o fwrdd Gofal a Thrwsio Cymru am naw mlynedd, a chwblhaodd ei thymor pum mlynedd fel Cadeirydd ym mis Medi 2024.

Fel aelod anweithredol o POBL am bum mlynedd, bu Saz yn is-gadeirydd Pwyllgor Archwilio a Risg y Grŵp ac yn un o ymddiriedolwyr yr Ymddiriedolaeth.

Bu hefyd yn aelod anweithredol o Fwrdd Iechyd Lleol y Fro, a bu'n aelod o'i bwyllgor archwilio am chwe blynedd, ac yn fentor PQASSO trwyddedig.