Neidio i'r prif gynnwy

Cymorth a chyngor ariannol i’ch helpu gyda’ch biliau cyfleustodau.

Cyhoeddwyd gyntaf:
18 Tachwedd 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:

Nwy a thrydan

Anhawster talu am eich ynni

Os ydych chi’n cael trafferth gyda chostau ynni, cysylltwch â’ch cyflenwr ynni. Efallai y gallant gynnig cymorth i chi.

Effeithlonrwydd ynni

Cael cymorth gydag effeithlonrwydd ynni yn eich cartref gan Nyth

Cynllun Gostyngiad Cartrefi Cynnes

Mae Llywodraeth y DU yn newid y Cynllun Gostyngiad Cartrefi Cynnes, a fydd yn rhoi ad-daliad o £150 i aelwydydd sy'n gymwys i gael cymorth o dan y cynllun.

Ceir rhagor o wybodaeth am y Cynllun Gostyngiad Cartrefi Cynnes ar GOV.UK

Taliad Tanwydd y Gaeaf

Mae Taliad Tanwydd yn daliad untro blynyddol i'ch helpu i dalu am wresogi yn ystod y gaeaf. Fel arfer gallwch gael Taliad Tanwydd Gaeaf os cawsoch eich geni ar neu cyn 26 Medi 1955.

Gallwch weld faint o daliad a gewch ar gyfer Tanwydd a sut i’w hawlio ar GOV.UK.

Taliadau Tywydd Oer

Mae Taliadau Tywydd Oer yn daliadau untro i'ch helpu i dalu am gostau gwresogi ychwanegol pan fydd yn oer iawn.

Byddwch yn cael taliad bob tro y bydd y tymheredd yn gostwng o dan dymheredd penodol am gyfnod penodol o amser.

Dim ond s ydych eisoes yn cael un o'r canlynol y byddwch yn gymwys i gael Taliad Tywydd Oer:

  • Credyd Pensiwn
  • Cymhorthdal Incwm
  • Lwfans Ceisio Gwaith yn Seiliedig ar Incwm
  • Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn Seiliedig ar Incwm
  • Credyd Cynhwysol

Os ydych yn gymwys, cewch eich talu'n awtomatig.

Gallwch gael rhagor o wybodaeth am Daliadau Tywydd Oer ar GOV.UK.

Y Gronfa Cymorth Dewisol

O dan rai amgylchiadau, efallai y byddwch yn gymwys i gael grant o’r Gronfa Cymorth Dewisol.

Rhagor o wybodaeth am y Gronfa Cymorth Dewisol.

olew gwresogi neu nwy petrolewm hylifol (LPG)

Gall pobl sy'n defnyddio olew gwresogi neu LPG fod yn gymwys i gael taliad unigol o £200.

Byddwch yn gymwys os ydych:

  • yn defnyddio olew gwresogi neu LPG i wresogi eich cartref, a
  • yn derbyn cymorth drwy Gynllun Gostyngiadau'r Dreth Gyngor.

Bydd awdurdodau lleol yn cysylltu'n uniongyrchol ag aelwydydd cymwys ac yn eu gwahodd i gyflwyno cais. Bydd angen i chi gadarnhau eich math o danwydd gwresogi a darparu eich manylion banc. Bydd yr holl daliadau’n cael eu gwneud yn uniongyrchol i’ch cyfrif banc. 

Bydd gennych chwe mis o ddyddiad lansio'r cynllun i gyflwyno cais. 

Os ydych ar incwm isel ac yn credu y dylid addasu eich bil y Dreth Gyngor, dylech gysylltu ag adran y Dreth Gyngor eich awdurdod lleol i asesu'ch hawl. Bydd hyn hefyd yn golygu eich bod yn gymwys i gael y cymorth gyda chostau tanwydd gwresogi os ydych chi'n defnyddio olew gwresogi neu nwy petrolewm hylifol ac yn bodloni'r dyddiad cau ar gyfer hawliadau.

Cymorth drwy'r Gronfa Cymorth yn ôl Disgresiwn (DAF)

Os ydych chi'n wynebu caledi ariannol difrifol ond nad ydych yn gymwys i gael y taliad o £200, efallai y byddwch yn gallu cael cymorth drwy'r Gronfa Cymorth yn ôl Disgresiwn (DAF).

Mae newidiadau diweddar yn golygu:

  • mae'r dyfarniad uchaf ar gyfer olew gwresogi wedi cynyddu i £750, a
  • Gallwch nawr gyflwyno cais hyd at ddwywaith mewn cyfnod o 12‑mis.

Biliau dŵr

Os ydych chi’n cael trafferth talu eich bil dŵr, dylech gysylltu â’ch cyflenwr ar unwaith.

Os mai Dŵr Cymru yw eich cyflenwr, mae wedi amlinellu’r cymorth y gall ei ddarparu, sy’n cynnwys cynlluniau talu a gostyngiadau yn y gyfradd ddŵr.

Gall Hafren Dyfrdwy gefnogi ei chwsmeriaid mewn ffordd debyg.

Broadband and mobile phones

Os ydych chi’n poeni am dalu eich bil band eang neu ffôn symudol, dylech gysylltu â’ch cyflenwr ar unwaith, oherwydd efallai y bydd yn gallu cynnig cynllun talu neu gymorth arall i’ch helpu i gadw cysylltiad.

Mwy o wybodaeth am becynnau band eang a ffôn rhatach ar ofcom.org.uk.