Neidio i'r prif gynnwy

Atebion i gwestiynau cyffredin am Bont Menai.

Cyhoeddwyd gyntaf:
21 Hydref 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:

Pryd fydd y bont yn ailagor?

Mae’r bont bellach wedi ailagor ar gyfer traffig 7.5 tunnell a llai yn y ddau gyfeiriad, ar ôl i waith dros dro i fynd i'r afael â phroblem gyda nifer o folltau ar y bont gael ei gwblhau.

Bydd y gwaith dros dro yn cael ei archwilio bob dydd Mercher am 10am a bydd y traffig yn cael ei reoli ar y bont gydag arwyddion aros/mynd.

Caiff beicwyr a cherddwyr groesi’r bont hefyd.

Pa gerbydau fydd yn gallu cael croesi’r bont?

Bydd cerbydau 7.5 tunnell a llai yn cael croesi’r bont i’r ddau gyfeiriad.

Mae mesurau gorfodi yn eu lle i wneud yn siŵr bod pobl yn cadw at y terfyn pwysau o 7.53 tunnell. Gallai peidio â chadw ato arwain at eu herlyn ac efallai cau’r bont eto. 

A fydd cerbydau argyfwng yn cael teithio dros Bont Menai?

Fel arfer, mae cerbydau argyfwng yn defnyddio Pont Britannia. Ond os bydd problemau ar Bont Britannia, caiff cerbydau argyfwng ddefnyddio Pont y Borth gan ddilyn cynlluniau teithio arbennig. 

Pam fu’n rhaid cau Pont Menai am gyfnod?

Cafodd Pont y Borth ei chau i bob traffig ar gyfer gwaith hanfodol ar argymhelliad peirianwyr sy'n gweithio i UK Highways A55 DBFO Ltd. Gosodwyd terfyn pwysau o 3 tunnell yn ei le gyda'r nod o gadw'r bont ar agor. Yn anffodus, oherwydd problemau gorfodi, gwnaed y penderfyniad anodd i gau'r bont dros dro nes oedd modd datblygu cynllun rheoli traffig addas.

Mae'r cau yn dilyn gwaith ymchwilio gan UK Highways A55 DBFO Ltd o dan y bont, a gynhaliwyd fel rhan o'r gwaith Cam 2. Dangosodd yr ymchwiliad fod angen newid rhai o'r prif folltau ar y trawstiau o dan y bont.

Cafodd y bontei hailagor yn rhannol i gerbydau 3 tunnell a llai  Mae’r bont bellach ar agor i gerbydau 7.5 tunnell a llai.

Pam mae'r broblem hon wedi'i darganfod yn y cam hwn?

Mae'r broblem hon wedi codi ar gyfer gwaith Cam 2 ac wedi'i nodi gan dîm dylunio UK Highways A55 o'r amrywiol ddadansoddiadau, ymchwiliadau ac arolygiadau sy'n cael eu cynnal ar gyfer cam nesaf y gwaith.

Beth sy'n digwydd gyda gwaith cam 2?

Bydd gwaith cam 2 yn cynnwys y canlynol:

  • paentio'r is-ddec, y parapetau a’r mynediad berynnau
  • atgyweirio’r corbelau concrit
  • ailraddnodi'r cyfrwy tir
  • uwchraddio’r goleuadau

Mae trefniant dros dro a fydd/ sydd wedi caniatau y bont i ailagor i gerbydau 7.5 tunnell a llai ar ôl i waith dros dro i fynd i'r afael â phroblem gyda nifer o folltau ar y bont gael ei gwblhau.

Bydd gwaith ar ddatrysiad parhaol i'r broblem hon yn digwydd yn ystod yr wythnosau nesaf.  

Darperir diweddariadau pellach, gan gynnwys ar hynt rhaglen waith Cam 2, yn fuan.

Mae UK Highways A55 Ltd. yn datblygu rhaglen waith ar gyfer Cam 2.  Bydd diweddariadau pellach ar ddatblygiad rhaglen waith Cam 2 ar y bont ar gael yn fuan.

Beth sy'n digwydd os bydd Pont Britannia ar gau?

Mae'n anghyffredin iawn i Bont Britannia ar yr A55 gau. Os yw'n cau, dim ond am ychydig oriau mae hynny fel rheol.

Pan fydd gwyntoedd cryfion, cynghorir rhai mathau o gerbydau i beidio â chroesi o dan rai amodau.

Yn dilyn adolygiad strategaeth, mae’r terfynau cyflymder gwynt wedi'u newid ar gyfer rhai mathau o gerbydau. Felly dylai'r bont aros ar agor i fwy o gerbydau, yn amlach a bydd unrhyw gau am gyfnod mor fyr â phosibl. Mae hyn wedi helpu Cerbydau Nwyddau Trwm (HGVs) i barhau i groesi Pont Britannia ar yr A55 yn ystod tywydd garw.

Rydym yn ymchwilio i safleoedd cadw ar y tir mawr ac Ynys Môn a ddylai leddfu'r sefyllfa yn ystod cau Pont Britannia yn llwyr i HGVs.

Os bydd Pont Britannia yn cau, bydd Heddlu Gogledd Cymru yn helpu i ddarparu cymorth i gydlynu defnyddio Pont Grog Menai ar gyfer cerbydau sy'n pwyso llai na 3 tunnell.

Beth ddigwyddodd yn ystod cam 1?

Dechreuodd gwaith cam 1 i osod crogwyr newydd ar y bont ar 4 Medi 2023 ac fe'i cwblhawyd ym mis Hydref 2024.

Pwy sy'n gwneud y gwaith?

Mae'r gwaith yn cael ei wneud gan UK Highways A55 Ltd, sy'n gweithredu ac yn cynnal a chadw'r bont ar ran Llywodraeth Cymru.

Pam y caeodd Pont Grog Menai ym mis Hydref 2022?

Yn dilyn y gwaith cynnal a chadw a gynlluniwyd a'r argymhellion a nodwyd o'r Prif Adroddiad Arolygu yn 2019 i adnewyddu'r system baent ar y bont grog, cynhaliwyd dadansoddiad technegol manwl pellach. Nodwyd problem bosibl gyda chrogfachau rhychwant y bont.

O ganlyniad i fodelu pellach, nodwyd risgiau difrifol ac argymhellodd y peirianwyr strwythurol gau'r bont ar unwaith i bob traffig.

Pa gymorth sydd ar gael i fusnesau?

Mae busnesau’n cael eu hannog i sicrhau cymorth trwy ein gwasanaeth Busnes Cymru pwrpasol: Busnes Cymru: cefnogi busnesau yng Nghymru

Mae llawer o fusnesau llai eisoes yn gymwys i gael rhyddhad ardrethi o 100% ym Mhorthaethwy ac nid ydynt yn talu ardrethi annomestig. Yn ystod gwaith Cam 1, nododd Cyngor Sir Ynys Môn 30 o fusnesau ychwanegol ym Mhorthaethwy a oedd yn gymwys i gael rhyddhad ardrethi o dan y cynllun rhyddhad ardrethi manwerthu, hamdden a lletygarwch. Gwahoddodd y Cyngor y busnesau hynny i wneud cais.

Os ydych yn credu y gallai eich busnes fod yn gymwys i gael rhyddhad ardrethi cysylltwch â Chyngor Sir Ynys Môn i drafod ymhellach. Mae rhagor o wybodaeth, gan gynnwys ffurflenni cais ar gael yn Cyngor Sir Ynys Môn: Cynllun rhyddhad ardrethi manwerthu, hamdden a lletygarwch. 

Gall busnesau sy'n talu ardrethi annomestig fod yn gymwys i wneud cais i Asiantaeth y Swyddfa Brisio am ostyngiad dros dro mewn gwerth ardrethol. Am ragor o wybodaeth, ewch i GOV.UK: Dod o hyd i brisiad ardrethi busnes.