Beth rydym yn ei wneud
Trwy Ddeddf yr Amgylchedd 2016, cafodd Gweinidogion Cymru y pŵer i ddiddymu Pwyllgor Rheoli Perygl Llifogydd Cymru a sefydlu Pwyllgor newydd sef y Pwyllgor Llifogydd ac Erydu Arfordirol.
Cynnwys
Mae’r Pwyllgor Llifogydd ac Erydu Arfordirol yn cynghori ar bob agwedd o waith rheoli perygl llifogydd ac erydu arfordirol yng Nghymru, ac yn cefnogi Gweinidogion Cymru a’r holl awdurdodau rheoli perygl Cymru.
Cefndir i’r pwyllgor
Trwy Ddeddf yr Amgylchedd 2016, cafodd Gweinidogion Cymru y pŵer i ddiddymu Pwyllgor Rheoli Perygl Llifogydd Cymru a sefydlu pwyllgor newydd sef y Pwyllgor Llifogydd ac Erydu Arfordirol.
Crëwyd Pwyllgor Llifogydd ac Erydu Arfordirol ar 14 Gorffennaf 2017.
Swyddogaeth y Pwyllgor
Mae'r Pwyllgor yn helpu cyfathrebu rhwng sector rheoli perygl llifogydd ac erydu arfordirol yng Nghymru a Gweinidogion Cymru. Mae cysylltiadau’r pwyllgor â'r holl sefydliadau perthnasol yn ei alluogi i brosesu data, gwybodaeth a ffeithiau a throi'r rhain yn gyngor effeithiol i Weinidogion Cymru.
Aelodaeth
Dr Roisin Wilmott yw Cadeirydd y Pwyllgor Llifogydd ac Erydu Arfordirol. Mae’r 6 aelod presennol yn cynrychioli nifer o sectorau a sefydliadau sydd ag arbenigedd technegol ym maes Rheoli Perygl Llifogydd ac Erydu Arfordirol. Rhagor o wybodaeth am benodiadau cyhoeddus.
| Enw | Sefydliad | Sector |
|---|---|---|
| Jeremy Parr | Cyfoeth Naturiol Cymru | Cyfoeth Naturiol Cymru |
| Ben Kathrens | Cyngor Sir Caerfyrddin | Awdurdod Llifogydd Lleol Arweiniol – y de-orllewin |
| Steffan Jones | Cyngor Gwynedd | Awdurdod Llifogydd Lleol Arweiniol – y gogledd |
| Owen Griffiths | Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf | Awdurdod Llifogydd Lleol Arweiniol – y de-ddwyrain |
| David James | Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru | Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru |
| Robin Campbell | Ove Arup and Partners | Gweithiwr proffesiynol ym maes rheoli perygl llifogydd ac erydu arfordirol |
Cyfarfodydd
Mae croeso i aelodau'r cyhoedd fynychu cyfarfodydd fel sylwedyddion. I fynychu cyfarfod neu i ofyn am gopïau o agendâu a phapurau e-bostiwch risgllifogyddarfordirol@llyw.cymru
