Neidio i'r prif gynnwy

Trwy Ddeddf yr Amgylchedd 2016, cafodd Gweinidogion Cymru y pŵer i ddiddymu Pwyllgor Rheoli Perygl Llifogydd Cymru a sefydlu Pwyllgor newydd sef y Pwyllgor Llifogydd ac Erydu Arfordirol.

Mae’r Pwyllgor Llifogydd ac Erydu Arfordirol yn cynghori ar bob agwedd o waith rheoli perygl llifogydd ac erydu arfordirol yng Nghymru, ac yn cefnogi Gweinidogion Cymru a’r holl awdurdodau rheoli perygl Cymru.

Cefndir i’r pwyllgor

Trwy Ddeddf yr Amgylchedd 2016, cafodd Gweinidogion Cymru y pŵer i ddiddymu Pwyllgor Rheoli Perygl Llifogydd Cymru a sefydlu pwyllgor newydd sef y Pwyllgor Llifogydd ac Erydu Arfordirol.

Crëwyd Pwyllgor Llifogydd ac Erydu Arfordirol ar 14 Gorffennaf 2017.

Swyddogaeth y Pwyllgor

Mae'r Pwyllgor yn helpu cyfathrebu rhwng sector rheoli perygl llifogydd ac erydu arfordirol yng Nghymru a Gweinidogion Cymru. Mae cysylltiadau’r pwyllgor â'r holl sefydliadau perthnasol yn ei alluogi i brosesu data, gwybodaeth a ffeithiau a throi'r rhain yn gyngor effeithiol i Weinidogion Cymru.

Aelodaeth

Dr Roisin Wilmott yw Cadeirydd y Pwyllgor Llifogydd ac Erydu Arfordirol. Mae’r 6 aelod presennol yn cynrychioli nifer o sectorau a sefydliadau sydd ag arbenigedd technegol ym maes Rheoli Perygl Llifogydd ac Erydu Arfordirol. Rhagor o wybodaeth am benodiadau cyhoeddus.

Aelodau'r pwyllgor
EnwSefydliadSector
Jeremy ParrCyfoeth Naturiol Cymru Cyfoeth Naturiol Cymru 
Ben Kathrens     Cyngor Sir CaerfyrddinAwdurdod Llifogydd Lleol Arweiniol – y de-orllewin
Steffan Jones Cyngor Gwynedd Awdurdod Llifogydd Lleol Arweiniol – y gogledd
Owen GriffithsCyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf Awdurdod Llifogydd Lleol Arweiniol – y de-ddwyrain
David JamesCymdeithas Llywodraeth Leol CymruCymdeithas Llywodraeth Leol Cymru 
Robin CampbellOve Arup and PartnersGweithiwr proffesiynol ym maes rheoli perygl llifogydd ac erydu arfordirol 

 

Cyfarfodydd

Mae croeso i aelodau'r cyhoedd fynychu cyfarfodydd fel sylwedyddion. I fynychu cyfarfod neu i ofyn am gopïau o agendâu a phapurau e-bostiwch risgllifogyddarfordirol@llyw.cymru