Neidio i'r prif gynnwy

Canllawiau a gwybodaeth ar beth yw gwaith teg.

Cyhoeddwyd gyntaf:
19 Rhagfyr 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyflwyniad

Mae'r canllaw hwn wedi'i gynllunio i ddarparu gwybodaeth i unigolion a sefydliadau er mwyn gwella eu dealltwriaeth o waith teg a’u hymwybyddiaeth o fanteision gwaith teg, ac mae'n darparu enghreifftiau o gamau y gall sefydliadau eu cymryd i hyrwyddo gwaith teg.  

Drwy gydol y canllaw hwn, defnyddir y term 'sefydliad' fel term cyffredinol i ddisgrifio endidau a busnesau yn y sector preifat, y sector cyhoeddus a'r trydydd sector sy'n cyflogi gweithwyr neu fel arall yn dod i drefniant â gweithwyr i ddarparu, cynhyrchu neu fasnachu nwyddau a gwasanaethau.  Mae hyn yn cynnwys busnesau sy'n perthyn yn llwyr neu'n sylweddol i'w gweithwyr, fel cwmnïau cydweithredol gweithwyr. 

Diben

Nod y canllaw hwn yw helpu pobl i ddeall: 

  • beth mae gwaith teg yn ei olygu yn ymarferol
  • pam mae hyrwyddo gwaith teg yn fuddiol i sefydliadau a gweithwyr, ac o ran lles yn ehangach
  • sut y gall sefydliadau symud ymlaen ar eu taith at waith teg

Beth yw gwaith teg

Mewn gwaith teg, bydd amodau penodol yn amlwg, sy’n golygu bod gweithwyr yn cael eu gwobrwyo, eu clywed a’u cynrychioli mewn ffordd deg, bod eu sefyllfa yn ddiogel, a'u bod yn gallu gwneud cynnydd mewn amgylchedd iach a chynhwysol, lle mae hawliau yn cael eu parchu. 

Mae gwaith teg yn golygu bod sylw yn cael ei roi i les gweithwyr. Bydd y camau a gymerir gan sefydliad i geisio sicrhau gwaith teg yn dibynnu ar union amgylchiadau’r sefydliad hwnnw. Efallai na fydd rhai camau gweithredu yn briodol neu’n ymarferol i bob sefydliad, mater i bob sefydliad yw penderfynu pa gamau sydd.

Dyma rai enghreifftiau ymarferol posibl o’r hyn y byddai gwaith teg yn ei olygu:

  • Galluogi gweithwyr i dalu eu costau byw sylfaenol, a darparu buddion ehangach fel tâl salwch a phensiynau.
  • Cynnig y cyfle a’r dewis i weithwyr gael eu cynrychioli ar y cyd, sicrhau bod gweithwyr yn cael gwybod am benderfyniadau arfaethedig a allai effeithio arnynt, a’i gwneud yn bosibl i weithwyr gymryd rhan yn y penderfyniadau hynny a dylanwadu arnynt.
  • Darparu sicrwydd gwaith ac incwm sy’n cwmpasu oriau gwaith ac enillion, a rhoi cyfle i weithio’n hyblyg er mwyn cael cydbwysedd da rhwng bywyd a gwaith. 
  • Darparu cyfleoedd cynhwysol i gael gwaith, i ennill a datblygu sgiliau a chael cyfleoedd dysgu, ac i symud ymlaen yn y gwaith. 
  • Sicrhau bod gwaith yn cael ei wneud mewn amgylchedd diogel ac iach, lle eir i’r afael â bwlio, aflonyddu a phob math o wahaniaethu.   
  • Gwarantu bod hawliau a rhwymedigaethau yn cael eu cydnabod bob amser ac y glynir wrthynt.

Pam mae hyrwyddo gwaith teg yn fuddiol

Mae'r byd gwaith yn rhan bwysig o'n bywydau a'n cylch bywyd.  P'un a ydym mewn gwaith ai peidio, rydym i gyd yn dibynnu ar waith sy'n darparu'r nwyddau a'r gwasanaethau sy'n hanfodol i'n lles.

Mae amodau gwaith o bwys i ni i gyd oherwydd bod gwaith teg yn galluogi gweithwyr i ddiwallu eu hanghenion eu hunain a'u teuluoedd, yn rhoi ymdeimlad o foddhad, ac yn grymuso gweithwyr i gyfrannu, datblygu a thyfu.

Mae dyletswydd foesol i ddiogelu gwaith teg am mai trin gweithwyr ag urddas a pharch yw'r peth iawn i'w wneud. Ond mae'r achos dros waith teg yn ymestyn y tu hwnt i’r moesol neu’r moesegol yn unig.

Mae dyletswydd economaidd ac o ran busnes i sicrhau gwaith teg oherwydd gall gyfrannu at ymrwymiad a morâl uwch ymhlith y gweithlu, cyfraddau absenoldeb is, recriwtio mwy effeithiol, llai o drosiant staff, a gwell cynhyrchiant ac agweddau eraill ar berfformiad.

Mae dyletswydd o ran lles hefyd i sicrhau gwaith teg oherwydd mae tystiolaeth yn awgrymu bod gwaith nad yw'n cael ei lywio gan egwyddorion gwaith teg yn cael effaith negyddol ar iechyd a lles corfforol a meddyliol yn ehangach. Mewn cydweithrediad â Llywodraeth Cymru, mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cynhyrchu deunyddiau ac adnoddau ar y berthynas rhwng gwaith teg ac iechyd a lles.

Mae Llywodraeth Cymru yn ceisio symud tuag at economi les gwbl integredig sy’n cwmpasu sawl syniad a cham gweithredu i hyrwyddo lles. Mae’r Genhadaeth i Gryfhau ac Ailadeiladu’r Economi yn amlinellu’r meddylfryd o ran yr economi les, ac mae gwaith teg yn elfen bwysig yn hynny ac yn ein Contract Economaidd, adnodd yr ydym yn ei ddefnyddio i greu ein cysylltiadau â busnes.

Mae manteision penodol pellach i waith teg sydd, ymhlith elfennau eraill, yn cynnwys:

Recriwtio a chadw

Gall darparu gwaith teg ei gwneud yn haws recriwtio a chadw gweithwyr, gyda'r fantais ychwanegol o leihau costau trosiant staff.

Datblygiad, ymroddiad a chynhyrchiant y gweithlu

Gall sicrhau bod gweithwyr yn cael eu clywed a'u cynrychioli helpu sefydliadau i fanteisio ar syniadau, creadigrwydd ac arloesedd. Efallai y bydd gweithwyr sy'n cael eu trin ag urddas a pharch yn fwy tueddol o fuddsoddi yn eu sgiliau a'u dysgu. Mae gweithlu ymroddedig sy’n cael eu gwerthfawrogi yn debygol o fod â chymhelliant gwell, dealltwriaeth well o amcanion eu sefydliad, a bod yn fwy cynhyrchiol o ganlyniad.  

Iechyd corfforol a meddyliol y gweithlu

Mae gwaith teg yn cefnogi iechyd corfforol a meddyliol, ynghyd â lles pobl yn ehangach. Gall amodau gwaith sy'n rhoi sylw i les gweithwyr arwain at gyfraddau is o straen o fewn y gweithlu a llai o absenoldeb salwch. 

Enw da'r sefydliad

Gall ymgorffori egwyddorion gwaith teg o fewn sefydliad wella delwedd y sefydliad a'r ffordd y mae'n cael ei weld gan gwsmeriaid, cleientiaid, defnyddwyr ac eraill.  Gall gwaith teg hefyd helpu'r sefydliad i elwa ar fanteision gweithlu mwy cyfartal, amrywiol a chynhwysol, a'r gronfa sgiliau a thalent fwy y mae hynny’n ei darparu.

Sut y gall sefydliadau symud ymlaen ar eu taith at waith teg

Bydd gan bob sefydliad ei heriau a'i gyfleoedd ei hun o ran gwaith teg, bydd rhai o'r rhain yn themâu cyffredin ar draws sawl sefydliad, bydd eraill yn fwy unigryw i'r sefydliad penodol dan sylw, ei weithlu, a'r amgylchiadau y mae'n gweithredu ynddynt. 

Yn ogystal, bydd pob sefydliad ar bwynt gwahanol ar ei daith at waith teg ond gall pob sefydliad, waeth beth fo'i fan cychwyn, wella'n barhaus. Mae'r canllaw hwn wedi'i gynllunio i helpu sefydliadau ar bob cam o'u taith.

Isod mae rhai enghreifftiau o gamau posibl y gallai sefydliad eu hystyried wrth fynd ar drywydd gwaith teg. Nid ydynt yn cwmpasu pob sefyllfa, ac nid ydynt efallai'n briodol i bob sefydliad. Mater i bob sefydliad yw penderfynu pa gamau sy'n briodol i sicrhau gwaith teg, yn dibynnu ar eu hamgylchiadau unigol.

Gwobrwyo teg

  • Mae llawr cyflog gan y sefydliad sy’n golygu ei fod yn talu cyfradd fesul awr i bob gweithiwr sy’n cyfateb i’r Cyflog Byw Gwirioneddol o leiaf, mae wedi cael achrediad Cyflog Byw Gwirioneddol, neu mae wedi ymrwymo i gymryd camau tuag at dalu’r Cyflog Byw Gwirioneddol o leiaf i bob gweithiwr.
  • Mae'r sefydliad yn darparu buddion ehangach fel gwyliau blynyddol, tâl salwch a phensiynau sy'n uwch na'r gofynion statudol. 

Llais y cyflogai a chydgynrychiolaeth

  • Mae'r sefydliad yn caniatáu, neu bydd yn cytuno i ganiatáu mynediad corfforol a digidol i undebau llafur fel y gallant gwrdd â gweithwyr, trafod undebau, a recriwtio aelodau. 
  • Mae'r sefydliad yn cydnabod undeb(au) llafur ac mae cydgytundeb ar waith.
  • Mae gan y sefydliad drefniadau effeithiol ar waith i sicrhau bod llais unigolion a’r gweithwyr ar y cyd yn cael ei glywed, ac mae wedi sefydlu sianeli diogel, effeithiol a dibynadwy sy'n galluogi gweithwyr i gael dweud eu dweud, codi materion a chyfrannu at y broses o wneud penderfyniadau sy'n effeithio arnynt. 

Sicrwydd a hyblygrwydd

  • Nid yw'r sefydliad yn gorfodi contractau heb warant (dim oriau) ar weithwyr, a rhoddir digon o rybudd am batrymau shifftiau ac unrhyw newidiadau. 
  • Lle bo'n bosibl, mae'r sefydliad yn hyblyg o ran amodau swyddi, oriau gwaith a gweithio o bell i hyrwyddo cynhwysiant a gwell cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith.
  • Mae'r sefydliad wedi sicrhau achrediad Oriau Byw ac yn cynnig dewisiadau i weithwyr mewn perthynas â gweithio’n hyblyg / gweithio o bell.

Cyfle i gael mynediad at waith, i ddatblygu ac i wneud cynnydd

  • Mae'r sefydliad yn sicrhau bod cyfleoedd dysgu a datblygu perthnasol o ansawdd da ar gael yn hwylus i bob gweithiwr, a chaiff gweithwyr eu hannog a’u cefnogi i fanteisio arnynt. 
  • Mae'r sefydliad yn cefnogi gweithwyr â chyfleoedd ehangach i ddatblygu, er enghraifft drwy hwyluso mynediad at gyfleoedd gwirfoddoli.
  • Mae'r sefydliad yn gweithredu mewn ffordd gynhwysol wrth recriwtio a datblygu'r gweithlu, er enghraifft drwy gymhwyso'r model cymdeithasol o anabledd a chael gwared ar rwystrau i gyfrannu a gwneud cynnydd. 

Amgylchedd gwaith diogel, iach a chynhwysol

  • Mae'r sefydliad yn casglu data i gadw cofnod o gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant mewn perthynas â’i weithlu, a gwella’r elfennau hyn.  Mae'r sefydliad yn ymrwymo i weithredu i fynd i'r afael â thangynrychiolaeth o ran yr holl nodweddion gwarchodedig ar bob lefel o'r sefydliad, ac i leihau bylchau cyflog o safbwynt rhywedd, ethnigrwydd ac anabledd.
  • Mae gan y sefydliad brosesau effeithiol ar waith i fynd i'r afael â bwlio, aflonyddu a gwahaniaethu yn y gweithle.
  • Mae gan y sefydliad fesurau iechyd a diogelwch effeithiol, ac mae'r rhain yn cael eu cyfleu a'u hadolygu'n rheolaidd, gan ymgynghori â gweithwyr a chynrychiolwyr undebau llafur.

Parchu hawliau

  • Mae'r sefydliad yn cadw at ei holl rwymedigaethau statudol i'w weithwyr, nid yw'n ceisio eu hosgoi, ac mae’n sicrhau bod gan ei weithwyr fynediad at wybodaeth am eu hawliau.
  • Mae'r sefydliad wedi rhoi camau ar waith i ddileu arferion anghyfreithlon ac anfoesegol o'i gadwyni cyflenwi ac mae wedi ymrwymo i God Moesegol Llywodraeth Cymru.