Neidio i'r prif gynnwy

Roedd gwerthuso’r Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant yn cynnwys gwahanol gamau a wnaeth arwain at adroddiadau gwahanol.

Cyhoeddwyd gyntaf:
30 Mawrth 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyflwyniad

Dechreuodd y gwerthusiad gyda fframwaith ar gyfer newid ac adolygiad llenyddiaeth, a oedd yn egluro'r ymchwil gefndirol yn ogystal â dadansoddi sut y gallai'r Ddeddf effeithio ar unigolion.   

Dilynwyd y rhain gan werthuso proses, a oedd yn edrych ar ganfyddiadau'r gweithlu o weithredu'r Ddeddf. Cafodd hyn ei wneud cyn ac ar ôl pandemig COVID-19.

Cynhaliwyd ymchwil i ddeall profiadau a disgwyliadau defnyddwyr gwasanaethau a gofalwyr a sut roedd y rhain wedi newid yn dilyn rhoi'r Ddeddf ar waith.   

Mae pum adroddiad thematig sy'n seiliedig ar brif egwyddorion y Ddeddf wedi dod â thystiolaeth o ystod o ffynonellau at ei gilydd.   

Defnyddiwyd y rhain i lywio'r adroddiad terfynol, sy'n gwneud casgliadau cyffredinol o'r gwerthusiad. Mae'n gwneud argymhellion i'r sector gofal cymdeithasol ddatblygu ymhellach.

Fframwaith ar gyfer newid ac adolygiad llenyddiaeth

Bu'r fframwaith ar gyfer newid yn dadansoddi'r ffactorau cyd-destunol a fyddai'n effeithio ar weithredu'r Ddeddf yng Nghymru. Mae'r ddogfen hon hefyd yn amlinellu canlyniadau disgwyliedig tymor byr, canolig a hirdymor y Ddeddf.  

Bu'r adolygiad llenyddiaeth yn dadansoddi papurau ymchwil a dogfennau eraill yn ymwneud â'r Ddeddf a'i bum egwyddor.

Gwerthuso proses

Cynhaliwyd dau werthusiad proses er mwyn deall safbwyntiau'r gweithlu ynglŷn â gweithredu'r Ddeddf. Roedd y gwerthusiad proses cyntaf yn canolbwyntio ar sut roedd y Ddeddf wedi newid eu harferion gwaith. Roedd yr ail werthusiad proses yn canolbwyntio ar yr effaith a gafodd pandemig COVID-19 ar weithredu'r Ddeddf.

Tystiolaeth werthuso gan ddefnyddwyr gwasanaethau a gofalwyr

Mae defnyddwyr gwasanaethau a gofalwyr wedi rhoi cipolwg amhrisiadwy ar sut mae'r Ddeddf wedi newid eu disgwyliadau a'u profiadau o ofal cymdeithasol yng Nghymru.

Papurau tystiolaeth thematig

Mae'r adroddiad terfynol yn cael ei gefnogi gan bum adroddiad ymchwil. Mae pob un ohonynt yn defnyddio methodoleg wahanol ac yn darparu tystiolaeth a chanfyddiadau ynghylch pob un o bum egwyddor y Ddeddf.

Adroddiad terfynol

Gan adeiladu ar yr holl ymchwil a wnaed, mae'r adroddiad terfynol yn cyflwyno casgliadau cyffredinol o'r gwerthusiad. Mae'n gwneud argymhellion ar ffurf 'cwestiynau prawf' i'r sector gofal cymdeithasol eu gweithredu.