Neidio i'r prif gynnwy

Gwybodaeth am yr adolygiad o’r cymwysterau galwedigaethol sy’n cael eu cynnig i ddysgwyr a chyflogwyr yng Nghymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
13 Ebrill 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cefndir

Un elfen allweddol o'r Cytundeb Cydweithio (2021) rhwng Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru yw'r ymrwymiad i adolygu'r cymwysterau galwedigaethol sydd ar gael i ddysgwyr a chyflogwyr.

Penodwyd Sharron Lusher yn gadeirydd Grŵp Llywio Cymwysterau Galwedigaethol Cymru gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg ym mis Mehefin 2022. Bu’r Grŵp Llywio yn cyfarfod yn fisol rhwng mis Mehefin 2022 a mis Gorffennaf 2023, gan gyflwyno’i adroddiad i Weinidog y Gymraeg ac Addysg ar 22 Gorffennaf 2023.

Cynhaliwyd yr adolygiad hwn ar yr un pryd ag yr oedd llywodraethau datganoledig eraill yn y DU yn cwblhau eu hadolygiadau eu hunain, ac oherwydd penderfyniad Llywodraeth San Steffan i ddileu nifer fawr o gymwysterau galwedigaethol lefel 2 a 3 yn raddol erbyn 2024 fel rhan o gyflwyno Safon 'T' yn Lloegr.

Yn ystod y broses adolygu, defnyddiwyd grwpiau ffocws, cyfweliadau, a gweithdai i gasglu tystiolaeth. Cafodd y rhain eu rhedeg drwy sefydliadau a grwpiau a rhwydweithiau sydd wedi’u hen sefydlu.

Roedd gan yr adolygiad cymwysterau galwedigaethol 6 amcan:

  1. Cofnodi a rhoi sylwadau ar berthnasedd ac effeithiolrwydd y cymwysterau galwedigaethol sydd ar gael yng Nghymru ar hyn o bryd ar lefelau 1, 2, 3, 4 a 5, gan nodi'r meysydd blaenoriaeth ar gyfer camau gweithredu pellach.
  2. Nodi'r modelau rhyngwladol ar gyfer cymwysterau galwedigaethol, gan gynnwys unrhyw dueddiadau a newidiadau diweddar, a'u haddasrwydd a'u perthnasedd yma, yng ngoleuni uchelgeisiau a nodau'r Cwricwlwm newydd i Gymru.
  3. Ystyried effaith cymwysterau Safon T newydd ar Gymru a'r opsiynau, gan gynnwys dewisiadau amgen, ar gyfer dysgwyr yng Nghymru.
  4. Ystyried gwaith a wnaed gan Cymwysterau Cymru i ganfod beth mae cyrff dyfarnu cymwysterau galwedigaethol cyfredol yng Nghymru, Lloegr, yr Alban, a Gogledd Iwerddon yn bwriadu ei wneud i newid yr ystod o gymwysterau galwedigaethol y maent yn eu cynnig ar lefelau 1, 2, 3, 4 a 5 dros y pedair blynedd sy'n weddill o’r Senedd bresennol.
  5. Amlinellu a gwerthuso'r opsiynau ar gyfer Llywodraeth Cymru, Cymwysterau Cymru, a darparwyr cymwysterau galwedigaethol yng Nghymru yng ngoleuni'r newidiadau tebygol a nodwyd o dan bwyntiau 1 i 4.
  6. Gwneud argymhellion i Weinidogion Cymru ac Aelodau Dynodedig ar ffurf ac amseriad y broses o ehangu sylweddol ar gymwysterau galwedigaethol sy’n cael eu "gwneud yng Nghymru" a’u "gwneud i Gymru" dros y cyfnod rhwng 2023 a 2026. Bydd hyn yn cynnwys y gofynion o ran adnoddau a chyllid ychwanegol i gefnogi unrhyw newidiadau arfaethedig.

Cysylltu â ni

Os hoffech gysylltu â ni ynghylch yr adolygiad, gallwch anfon e-bost atom ar vqreview@llyw.cymru neu ysgrifennu at:

Tîm Cyflenwi Cymwysterau Galwedigaethol a Darpariaeth 16-19
Is-adran Addysg Bellach a Phrentisiaethau
Craidd y Gogledd, yr Ail Lawr
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ