Rydym yn bwrw ymlaen â chynlluniau i adeiladu trydedd bont dros Afon Menai.
Trosolwg
Mae'r A55 yn bwysig yn lleol, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol. Hon yw prif ffordd economaidd Gogledd Cymru ac mae'n rhan o lwybr Euro 22 ar y rhwydwaith Ffyrdd Traws-Ewropeaidd.
Rydym am adeiladu trydedd bont newydd dros y Fenai er mwyn:
- gwneud y rhwydwaith yn fwy gwydn
- gwneud y ffyrdd yn fwy diogel
- ei gwneud hi'n haws i bobl gerdded a beicio
- gwella dibynadwyedd ac amseroedd teithio ar draws Afon Menai
Mae'r prosiect hwn yn dal i fod yn y camau cynllunio.
Rydym yn dilyn y camau a amlinellir yng Nghanllawiau Arfarnu Trafnidiaeth Cymru (WelTAG).
Lle rydyn ni arni
Rydym yn paratoi i gaffael ymgynghorwyr i ddatblygu'r cynllun hwn.
Y camau nesaf
Byddwn yn:
- penodi ymgynghorydd i ddatblygu cynllun rhagarweiniol
- cynnal arolygon amgylcheddol a thopograffig a gwaith ymchwilio tir
- datblygu achos busnes llawn (cam 3 WelTAG)
- ymgysylltu â rhanddeiliaid
- cyhoeddi unrhyw orchmynion drafft sydd eu hangen, er enghraifft: prynu tir yn orfodol
- ymgynghori â'r cyhoedd a rhanddeiliaid allweddol ar orchmynion drafft, gyda chyfleoedd iddynt ddangos eu cefnogaeth neu fynegi eu gwrthwynebiadau
Disgwylir i'r camau nesaf hyn o ddatblygu'r cynllun a chael y cydsyniadau cyfreithiol angenrheidiol gymryd rhwng pedair a phum mlynedd.
Bydd cyrraedd cam adeiladu'r bont yn dibynnu ar gael y cydsyniadau cyfreithiol angenrheidiol, cyllid a phenderfyniadau'r Gweinidogion.
Gallai adeiladu pont newydd gymryd rhwng tair a phedair blynedd o'r adeg honno.
Yr amserlen
2026
- Cyhoeddi bod gwaith datblygu yn ailddechrau ar gyfer trydedd bont dros y Fenai, gan gynnwys gwaith dylunio, asesu amgylcheddol, datblygu achosion busnes a chymeradwyaethau cyfreithiol.
- Cyhoeddi bod gwaith datblygu dargyfeirwyr gwynt a therfynau cyflymder amrywiol yn parhau ar Bont Britannia yr A55.
- Cyhoeddi na fyddai system llif llanw tair lôn yn cael ei gweithredu ar Bont Britannia gan fod y dystiolaeth yn dangos bod pryderon diogelwch a gweithredol sylweddol yn perthyn i'r system.
2025
- Cwblhau Astudiaeth Gwydnwch Menai ar argymhellion blaenoriaeth uchel Comisiwn Trafnidiaeth Gogledd Cymru ar wneud y cysylltiadau rhwng Ynys Môn a'r tir mawr yn fwy gwydn.
2023
- Yr Adolygiad Ffyrdd yn cyhoeddi ei adroddiad terfynol yn argymell na ddylid adeiladu trydedd bont dros y Fenai.
- Mewn ymateb i'r argymhellion hyn, gofyn i Gomisiwn Trafnidiaeth Gogledd Cymru ystyried sut y gellid gwneud y cysylltiadau rhwng Ynys Môn a'r tir mawr yn fwy gwydn.
2018
- Cyhoeddi'r llwybr a ffefrir gennym ar gyfer trydedd bont dros y Fenai.
- Cyhoeddi cynllun TR111, sy'n ei gwneud yn ofynnol i'r awdurdod lleol roi gwybod i ni am geisiadau cynllunio o fewn 67m bob ochr i'r llwybr a ffefrir gennym.
2017 i 2018
- Gwneud gwaith i ddeall y problemau trafnidiaeth ar draws Afon Menai (cam 1 WelTAG).
- Cynnal ymgynghoriad cyhoeddus ar 6 opsiwn posibl (cam 2 WelTAG).
- Adolygu'r ymatebion i'r ymgynghoriad.
