Neidio i'r prif gynnwy

Rydym yn cyflwyno cynllun newydd ar gyfer llety ymwelwyr yng Nghymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
14 Mehefin 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyflwyniad

Rydym yn bwriadu cyflwyno cynllun trwyddedu ar gyfer llety ymwelwyr yng Nghymru, gan ddechrau gyda llety hunanddarpar.

Bydd y cynllun yn cefnogi twristiaeth yng Nghymru drwy wneud y canlynol: 

  • rhoi sicrwydd i ymwelwyr bod llety yn bodloni'r safonau y byddent yn eu disgwyl
  • darparu cyfundrefn glir i ddarparwyr

Deddf Datblygu Twristiaeth a Rheoleiddio Llety Ymwelwyr (Cymru) 2026

Ar 27 Ebrill 2026 derbyniodd y Bil Datblygu Twristiaeth a Rheoleiddio Llety Ymwelwyr (Cymru) Gydsyniad Brenhinol a daeth y Bil yn Ddeddf y Senedd bryd hynny. 

Bydd y Ddeddf:

Bydd y Bil hefyd yn creu Cod o gyfreithiau Cymreig ar dwristiaeth. Bydd hwn yn: 

  • dod â'r cyfreithiau presennol ar dwristiaeth at ei gilydd
  • gwneud y gyfraith yn fwy hygyrch a haws ei deall

Dogfennau cysylltiedig

Mae copi o'r Bil fel y'i pasiwyd gan y Senedd, ynghyd â Memorandwm Esboniadol sy'n esbonio diben ac effaith arfaethedig y ddeddfwriaeth, yma:

Cynhaliwyd nifer o asesiadau effaith mewn perthynas â'r cynllun trwyddedu hefyd:

Y camau nesaf

Bydd y Ddeddf, ynghyd â fersiwn derfynol o'r Memorandwm Esboniadol, yn cael ei chyhoeddi ar  wefan Cyfraith Cymru maes o law.

Y rhagosodiad cyfreithiol yw y bydd y cynllun trwyddedu yn dod i rym ym mis Mawrth 2030. Cyn i hyn ddigwydd, bydd ymgynghoriad ar reoliadau a wneir o dan y Bil a bydd canllawiau ar y cynllun yn cael eu cyhoeddi.         

Bydd diweddariadau ar y Bil a'r cynllun trwyddedu  yn parhau i gael eu rhannu â rhanddeiliaid drwy gylchlythyrau a bwletinau diwydiant Croeso Cymru.

Trwyddedu

I gael rhagor o wybodaeth anfonwch e-bost at: TrwyddeduStatudol@llyw.cymru