Diben y papur hwn yw cyflwyno canfyddiadau am deimladau trigolion mewn perthynas â thwristiaeth.
Y cyhoeddiad diweddaraf
Gall deall Profiadau Trigolion helpu Croeso Cymru i ddarparu gwybodaeth werthfawr ar lefel genedlaethol am yr effaith y mae ein penderfyniadau polisi yn ei chael ar bobl a'r ffordd y mae newidiadau yn ymddygiad ymwelwyr yn effeithio ar bobl sy'n byw yn yr ardaloedd hynny. Ar lefel Rhanbarth ac Awdurdod Lleol, gall y math hwn o wybodaeth helpu i lywio buddsoddiadau, gwaith cynllunio strategol a gweithrediadau ar lawr gwlad a fydd yn sicrhau llai o oedi rhwng rhoi gwybod am broblemau a rhoi atebion ar waith.
Diben y papur hwn yw:
- cyflwyno canfyddiadau o'r llenyddiaeth sydd ar gael ar hyn o bryd am deimladau trigolion mewn perthynas â thwristiaeth
- cyflwyno astudiaeth achos o leoliad sydd wedi defnyddio dull mesur agweddau trigolion yn llwyddiannus
- cyflwyno canfyddiadau o gyfres o gyfweliadau â rhanddeiliaid a gynhaliwyd er mwyn nodi ffactorau dymunol ar gyfer dull o fesur teimladau trigolion i'w ddefnyddio gan Croeso Cymru
