Neidio i'r prif gynnwy

Diben y papur hwn yw cyflwyno canfyddiadau am deimladau trigolion mewn perthynas â thwristiaeth.

Gall deall Profiadau Trigolion helpu Croeso Cymru i ddarparu gwybodaeth werthfawr ar lefel genedlaethol am yr effaith y mae ein penderfyniadau polisi yn ei chael ar bobl a'r ffordd y mae newidiadau yn ymddygiad ymwelwyr yn effeithio ar bobl sy'n byw yn yr ardaloedd hynny. Ar lefel Rhanbarth ac Awdurdod Lleol, gall y math hwn o wybodaeth helpu i lywio buddsoddiadau, gwaith cynllunio strategol a gweithrediadau ar lawr gwlad a fydd yn sicrhau llai o oedi rhwng rhoi gwybod am broblemau a rhoi atebion ar waith.

Diben y papur hwn yw:

  • cyflwyno canfyddiadau o'r llenyddiaeth sydd ar gael ar hyn o bryd am deimladau trigolion mewn perthynas â thwristiaeth
  • cyflwyno astudiaeth achos o leoliad sydd wedi defnyddio dull mesur agweddau trigolion yn llwyddiannus
  • cyflwyno canfyddiadau o gyfres o gyfweliadau â rhanddeiliaid a gynhaliwyd er mwyn nodi ffactorau dymunol ar gyfer dull o fesur teimladau trigolion i'w ddefnyddio gan Croeso Cymru

Adroddiadau

Ystyried sut i ddeall teimladau trigolion ym maes twristiaeth , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 931 KB

PDF
931 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Cyswllt

Phil Nelson

Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.