Neidio i'r prif gynnwy

Ailgylchu yn y Gweithle, mae'n bryd i ni sortio hyn.

Mae ailgylchu yn y gweithle wedi newid

Mae'n gyfraith i bob busnes, elusen a sefydliad sector cyhoeddus i wahanu deunyddiau penodol er mwyn eu hailgylchu. 

Mae'r rheolau hefyd yn gymwys i gasglwyr a phroseswyr gwastraff ac ailgylchu sy'n rheoli gwastraff o weithleoedd.

Cyflwynodd Llywodraeth Cymru'r newidiadau hyn i wella ansawdd ailgylchu a faint o wastraff a gaiff ei ailgylchu o weithleoedd ac i wella cysondeb yn y ffordd yr ydym yn casglu a gwahanu gwastraff.

Bydd hefyd angen i weithleoedd wahanu eu cyfarpar trydanol gwastraff bach i'w hailgylchu o 6 Ebrill 2026. 

Fe welwch ganllaw i'r newidiadau ar wefan Ailgylchu Busnes Cymru WRAP.

Mae'r Cod Ymarfer yn rhoi gwybodaeth fanylach i chi am y gyfraith ailgylchu yn y gweithle a sut i gydymffurfio. Byddwn yn diweddaru'r Cod ym mis Ebrill 2026 pan ddaw'r gyfraith cyfarpar trydanol bach i rym.

Diweddariad i'r gyfraith: eitemau trydanol bach

  • O 6 Ebrill 2026, mae'n rhaid i weithleoedd wahanu unrhyw eitemau trydanol gwastraff bach diangen yn barod i'w hailgylchu.
  • Mae eitemau trydanol gwastraff bach yn golygu unrhyw beth sydd â phlwg, batri neu gebl sy'n mesur 50cm neu lai ar bob ochr. Er enghraifft, gliniaduron diangen, ffonau, tegelli, sychwyr gwallt, tostwyr, dyfeisiau meddygol, goleuadau neu offer pŵer.
  • Ceisiwch atgyweirio neu ailddefnyddio unrhyw eitem drydanol ddiangen yn gyntaf, trwy ei werthu, ei rhoi i sefydliadau ailddefnyddio lleol neu ei throsglwyddo i staff.
  • Lle nad yw atgyweirio nac ailddefnyddio yn bosibl, dylid cadw eitemau trydanol ar wahân i wastraff arall a'u hailgylchu, a pheidio â'u rhoi yn eich gwastraff cyffredinol neu ffrydiau gwastraff ailgylchadwy eraill.  
  • Mae'n werth gwirio gyda gwneuthurwr yr eitem yn y lle cyntaf, gan fod ganddynt gyfrifoldeb i gymryd eitemau trydanol yn ôl ar ddiwedd eu hoes.
  • Os yw'r eitem yn eitem gyffredin y gellir ei defnyddio yn y cartref a lleoliad annomestig  fel tegell, sychwr gwallt neu dostiwr (a elwir hefyd yn eitem defnydd deuol), gallwch wirio a all fynd yn ôl i gynllun cymryd yn ôl siop leol.
  • Fel arall, gallwch siarad â'ch casglwr gwastraff, eich awdurdod lleol, neu eich ailgylchwyr trydanol arbenigol i drefnu gollwng neu gasglu eich eitemau trydanol gwastraff bach fel eu bod yn cael eu hailgylchu.
  • Os yw eich gwastraff trydanol yn beryglus, bydd angen i chi reoli'r eitemau hyn yn unol â Rheoliadau Gwastraff Peryglus (Cymru a Lloegr) 2005.  Os nad ydych chi'n siŵr, tybiwch ei fod yn beryglus a siaradwch â'ch casglwr gwastraff am gyngor i wneud yn siŵr ei fod yn cael ei waredu'n ddiogel.
  • Cofiwch: eich cyfrifoldeb chi yw sicrhau eich bod yn defnyddio casglwr gwastraff cofrestredig ag enw da a fydd yn sicrhau bod eich cyfarpar trydanol gwastraff bach yn cael ei gludo, ei storio a' ailgylchu'n gywir.

Pam rydyn ni wedi ychwanegu eitemau trydanol bach o 2026 ymlaen

Gellir ailgylchu 75% o'r deunyddiau mewn hen gyfarpar trydanol. Os byddant yn mynd i safleoedd tirlenwi neu losgi, mae metelau gwerthfawr fel aur, copr, alwminiwm a dur yn cael eu colli.  

Mae defnyddio deunyddiau wedi'u hailgylchu o gyfarpar trydanol gwastraff i greu cynhyrchion newydd yn lleihau allyriadau carbon ac yn lleihau difrod amgylcheddol.

Efallai mai dim ond rhan fach o wastraff yw eitemau trydanol, gallant gael effaith barhaol.

Mae llawer o eitemau trydanol bach yn cynnwys batris ïon lithiwm. Os yw'r rhain yn mynd yn y bin gwastraff cyffredinol ac yn cael eu malu yn y pendraw, gallant achosi tanau difrifol.

Cymru yw'r gorau yn y DU ar gyfer ailgylchu domestig a'r ail orau yn y byd, ond gallwn wneud mwy.

Mae'r gyfraith hon yn cefnogi ein strategaeth economi gylchol, Mwy nag ailgylchu.

Sut i wirio eich bod chi'n sortio eich gwastraff yn gywir

Mae'n bwysig darllen y Cod Ymarfer ochr yn ochr â'r canllaw cyffredinol hwn

Mae gan wefan y Busnes o Ailgylchu Cymru WRAP ganllawiau ar gyfer sectorau penodol gan gynnwys:

  •  Lletygarwch a bwyd
  • Manwerthu
  • Addysg gan gynnwys meithrinfeydd, ysgolion a phrifysgolion
  • Ysbytai
  • Lleoliadau preswyl gan gynnwys cartrefi nyrsio, cartrefi gofal preswyl a charchardai
  • Digwyddiadau awyr agored fel ffeiriau, gwyliau a chyngherddau
  • Cyfleusterau hamdden ac adloniant gan gynnwys parciau carafanau, gwersylloedd a gwestai. 

Mae posteri, arwyddion a thempledi hefyd ar gael ar wefan y Busnes o Ailgylchu Cymru WRAP

Pa wastraff sydd angen ei wahanu

Dylid gwahanu'r deunyddiau canlynol i'w casglu, a'u casglu ar wahân:

  • Bwyd
  • Papur a cherdyn
  • Gwydr
  • Metel, plastig a chartonau
  • Tecstilau nas gwerthwyd
  • Cyfarpar trydanol ac electronig gwastraff bach (sWEEE) heb ei werthu

Cofiwch: o fis Ebrill 2026, bydd angen gwahanu pob eitem drydanol fach i'w chasglu, nid eitemau heb eu gwerthu yn unig.

Gallwch gymysgu papur a cherdyn gyda'i gilydd yn yr un cynhwysydd, a gallwch gymysgu metel, plastig a chartonau gyda'i gilydd.

Mae gwaharddiad hefyd ar:

  • Anfon gwastraff bwyd i garthffos (unrhyw swm)
  • Gwastraff a gesglir ar wahân yn cael ei losgi a mynd i safleoedd tirlenwi
  • Pob gwastraff pren yn mynd i safleoedd tirlenwi

I bwy mae'r gyfraith hon yn berthnasol

Mae angen i bob busnes, elusen a sefydliad sector cyhoeddus wahanu eu gwastraff. 
Mae hyn yn cynnwys, er enghraifft:

  • Amaethyddiaeth
  • Lletygarwch a thwristiaeth - bwytai, bariau, tafarndai, llety gwely a brecwast, gwestai, gwersylloedd a pharciau carafanau, llety gwyliau, a safleoedd trwyddedig
  • Gorsafoedd gwasanaethau a gorsafoedd petrol
  • Lleoliadau adloniant a chwaraeon, gan gynnwys canolfannau hamdden a meysydd sioe
  • Trafnidiaeth - gorsafoedd bws, gorsafoedd rheilffordd, porthladdoedd môr, meysydd awyr a meysydd hofrenyddion
  • Cartrefi gofal a nyrsio
  • Fferyllfeydd, meddygfeydd, deintyddfeydd a lleoliadau gofal sylfaenol eraill
  • Safleoedd adeiladu
  • Ffatrïoedd a warysau
  • Garejys ceir
  • Addysg - prifysgolion, colegau ac ysgolion
  • Canolfannau garddio
  • Adeiladau treftadaeth
  • Llyfrgelloedd ac amgueddfeydd
  • Swyddfeydd a gweithdai
  • Mannau addoli
  • Carchardai
  • Marchnadoedd a gwyliau awyr agored
  • Manwerthu

Bydd angen i ysbytai'r GIG ac ysbytai preifat gydymffurfio â'r gyfraith o 6 Ebrill 2026. Ewch i wefan y Busnes o Ailgylchu Cymru i ddarllen canllawiau WRAP ar gyfer ysbytai.

Canllawiau ar gyfer gweithleoedd: Sut y gall gweithleoedd fodloni'r gofynion.

Canllawiau i’r rheini sy’n casglu a thrin gwastraff: Sut y gall casglwyr gwastraff fodloni'r gofynion.

Canllawiau ar gyfer gweithleoedd
Canllawiau ar gyfer gweithleoedd
Sut y gall gweithleoedd baratoi ar gyfer y newidiadau.
Canllawiau i gasglwyr gwastraff
Canllawiau i gasglwyr gwastraff
Sut y gall casglwyr gwastraff baratoi ar gyfer y newidiadau.

Pam newidiodd y gyfraith

Mae hwn yn gam pwysig tuag at sicrhau Cymru ddiwastraff, lleihau ein hallyriadau carbon a mynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd.

Rydyn ni am barhau i ddefnyddio deunyddiau cyn hired â phosibl. Gyda chostau deunyddiau yn codi, bydd parhau i ddefnyddio deunyddiau o ansawdd uchel yn helpu ein heconomi ac yn cefnogi ein cadwyni cyflenwi.