Neidio i'r prif gynnwys

Mae Llywodraeth Cymru yn cynnal arolwg ar gyfer nyrsys rheng flaen y GIG i geisio'u hannog i gymryd rhan mewn materion cynaliadwyedd amgylcheddol yn eu maes clinigol.  Mae cymryd rhan yn yr ymarfer hwn yn ddewisol a dim ond gwybodaeth bersonol y mae'r cyfranogwr yn dymuno ei rhannu fydd yn cael ei chadw.  

Ar ôl cael yr wybodaeth gan y cyfranogwr, Llywodraeth Cymru fydd y rheolydd data ar ei chyfer.  

Dyma'r wybodaeth bersonol a fydd yn cael ei chasglu:

  • enw'r cyfranogwr
  • cyfeiriad e-bost y cyfranogwr
  • sefydliad y GIG sy'n cyflogi'r cyfranogwr

Sut rydym yn defnyddio eich gwybodaeth

Yn ein cylch gwaith yn rheolydd data, bydd Llywodraeth Cymru yn defnyddio'r wybodaeth a ddaw i law at y dibenion isod. Mae'r dibenion hyn yn angenrheidiol er mwyn ein galluogi i gyflawni ein tasg gyhoeddus ac wrth arfer ein hawdurdod swyddogol.

1. Dibenion ystadegol ac ymchwil (i'w cynnal mewn modd sy'n sicrhau na ellir adnabod unigolion)

Er mwyn darparu gwybodaeth, dylanwadu a gwella polisi nyrsio.

Tynnu sylw a thargedu meysydd nyrsio y mae angen canolbwyntio arnynt yn effeithiol.

Sicrhau cyfleoedd i ymwneud ymhellach â chyfranogwyr.

2. Dibenion cyhoeddi (i'w cynnal mewn modd sy'n sicrhau na ellir adnabod unigolion)

Gwella unrhyw gyhoeddiadau sy'n deillio o'r prosiect cynaliadwyedd nyrsio mewn cyfnodolion nyrsio.

Gyda phwy rydym yn rhannu eich gwybodaeth

Ni fydd gwybodaeth bersonol a gedwir gan Lywodraeth Cymru wedi'r arolwg hwn yn cael ei rhannu y tu allan i'r sefydliad.

Am ba mor hir rydym yn cadw eich gwybodaeth

Bydd Llywodraeth Cymru yn cadw'r data hwn nes i'r prosiect Cynaliadwyedd Nyrsio ddod i ben, sef 31 Mawrth 2024. Ar ôl y dyddiad hwn, bydd dogfennau'r prosiect yn cael eu haddasu i fod yn rhai dienw.

Eich hawliau mewn perthynas â'ch gwybodaeth

Mae gennych yr hawliau a ganlyn:

  • yr hawl i gael gafael ar y data personol amdanoch rydym yn ei brosesu
  • yr hawl i ofyn inni gywiro unrhyw beth sy’n anghywir yn y data hwnnw
  • yr hawl i wrthwynebu prosesu’r data (o dan amgylchiadau penodol)
  • yr hawl i ofyn bod eich data yn cael ei 'ddileu'
  • yr hawl i wneud cwyn a’i gyflwyno i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth sef ein rheoleiddiwr annibynnol ar gyfer diogelu data

Am ragor o fanylion ynglŷn â'r wybodaeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei chadw a'i defnydd ohoni, neu os hoffech arfer eich hawliau o dan y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data, cysylltwch â:

Y Swyddog Diogelu Data
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
CAERDYDD
CF10 3NQ
E-bost: SwyddogDiogeluData@llyw.cymru 

Gwneud cwyn

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i drin eich data personol yn saff ac yn ddiogel, a dim ond cyhyd ag y mae angen inni wneud hynny.   

Os oes gennych chi unrhyw bryderon ynglŷn â'r ffordd rydym yn defnyddio eich data personol, y peth gorau fyddai ichi eu codi â’r tîm perthnasol i ddechrau.   

Gallwch hefyd gysylltu â'r Swyddog Diogelu Data drwy e-bostio SwyddogDiogeluData@llyw.cymru neu drwy anfon llythyr i’r cyfeiriad isod:  

Llywodraeth Cymru
Parc Cathays 
Caerdydd  
CF10 3NQ 

Os hoffech wneud cwyn ffurfiol am y ffordd y mae Llywodraeth Cymru wedi prosesu eich data personol, gallwch ddilyn y canllawiau ar y dudalen Cwyn am Lywodraeth Cymru. 

Byddwn yn cydnabod eich cwyn ac yn ymateb o fewn amserlen briodol, yn unol â deddfwriaeth diogelu data a'n proses gwyno.