Neidio i'r prif gynnwy

Clefyd heintus iawn ar foch sy'n cael ei achosi gan feirws yw clwy clasurol y moch. Mae'n glefyd hysbysadwy.

Cyhoeddwyd gyntaf:
19 Tachwedd 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Amheuon a chadarnhad

Os oes gennych unrhyw amheuon y gall clwy clasurol y moch fod ar eich anifeiliaid, cysylltwch ag Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion ar 0300 303 8268 ar unwaith.

Bydd milfeddygon yr Asiantaeth yn archwilio'r achosion hyn.

Arwyddion clinigol

Gallai'r arwyddion clinigol canlynol fod yn bresennol:

  • rhwymedd, ac yna dolur rhydd
  • llygaid gludiog
  • peswch
  • blotiau ar y croen
  • perchyll yn cael eu herthylu a'u geni cyn pryd, a thoreidiau gwan
  • gwendid yn y coesau ôl
  • arwyddion nerfus gan gynnwys trawiadau a chryndod mewn perchyll newydd-anedig

Trosglwyddo ac atal

Mae'r clefyd yn cael ei ledaenu trwy:

  • symud moch heintiedig
  • cerbydau, dillad, esgidiau ac offer heintiedig