Sut bydd yr Rheoleiddiwr Diogelwch Adeiladu yn prosesu data personol ar ran Gweinidogion Cymru.
Cynnwys
Y Cefndir
Mae Gweinidogion Cymru wedi ymrwymo i gytundeb gyda'r Rheoleiddiwr Diogelwch Adeiladu ("BSR") i ymgymryd â swyddogaethau rheoleiddio Rheolaeth Adeiladu Gweinidogion Cymru a gyflwynwyd gan Ddeddf Diogelwch Adeiladau 2022, drwy ddiwygio Deddf Adeiladu 1984, ac eithrio rheoleiddio gwaith rheolaeth adeiladu awdurdodau leol.
Bydd y cytundeb hwn yn ei gwneud yn ofynnol i BSR brosesu data personol ar ran Gweinidogion Cymru. Gweinidogion Cymru fydd y Rheolydd Data, ac mae'r tabl isod yn dangos manylion y gwaith prosesu i'w gynnal gan BSR wrth gyflawni'r swyddogaethau.
Sylwer, yn y gorffennol roedd gan Weinidogion Cymru gytundeb gyda'r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch ("HSE") ar gyfer cyflawni swyddogaethau rheoleiddio Rheolaeth Adeiladu Gweinidogion Cymru. Os cafodd eich data personol ei brosesu gan HSE ar gyfer cyflawni'r swyddogaethau hynny, BSR fydd yn prosesu eich data nawr.
Beth yw’r sail gyfreithiol ar gyfer prosesu?
Mae'r sail gyfreithiol ar gyfer prosesu data personol yn unol â chydymffurfiaeth Llywodraeth Cymru â rhwymedigaethau cyfreithiol o dan Ddeddf Diogelwch Adeiladu 2022 i gofrestru a rheoleiddio arolygwyr adeiladu a chymeradwywyr rheolaeth adeiladu.
Y math o ddata personol a brosesir
Dyma'r wybodaeth bersonol a chategori arbennig a fydd yn cael ei chasglu:
Ar gyfer Arolygwyr Cofrestredig Adeiladu, bydd y data personol canlynol yn cael eu prosesu
Manylion Personol
- Enw
- Cyfeiriad/Cyfeiriadau e-bost
- Dyddiad geni
- Rhif Yswiriant Gwladol
- Cyfeiriad cartref
- Rhif(au) ffôn
Dosbarth Arolygydd Adeiladu
- Dewis Dosbarth Cofrestru
- Gweithgarwch cyfyngedig
- Categorïau gwaith
- Gwlad lle maent yn gweithio
Cymhwysedd
- Statws Asesu Annibynnol
- Sefydliad asesu
- Rhif tystysgrif asesu
- Dyddiad yr asesiad
Aelodaeth broffesiynol a chyflogaeth
- Aelodaeth o gorff proffesiynol
- Enw'r corff proffesiynol
- Rhif aelodaeth
- Lefel aelodaeth
- Pryd cyflawnwyd y lefel bresennol o aelodaeth
- Math o gyflogaeth (sector cyhoeddus/sector preifat/ymgynghorydd neu fath arall o gyflogaeth/di-waith)
- Enw'r cyflogwr
- Cyfeiriad y cyflogwr
Datganiad:
- Rhestr o flychau ticiau y mae angen i unigolyn gydnabod yr angen i gydymffurfio â hwy
Talu a chyflwyno: - Manylion talu
Ar gyfer Cymeradwywyr Cofrestredig Rheolaeth Adeiladu, bydd y data personol canlynol yn cael eu prosesu
Prif Gyswllt
- Teitl
- Enw
- Cyfeiriad cyswllt
- Rhif ffôn cyswllt
- E-bost Gwaith
- Swydd yn y busnes
Strwythur y Cwmni ac unrhyw Wrthdaro Buddiannau o ran Personél Allweddol
- Enwau perchnogion/cyfarwyddwyr presennol
- Rhestr o unrhyw gwmnïau perthnasol eraill y mae'r perchnogion/cyfarwyddwyr yn gyfarwyddwyr arnynt neu'n dal unrhyw fuddiannau ynddynt
- Enw(au) unrhyw berchnogion/cyfarwyddwyr sydd wedi'u cofrestru fel arolygwyr cofrestredig adeiladu dosbarth 4
Euogfarnau troseddol
- Manylion unrhyw euogfarnau troseddol perthnasol sydd gan y perchnogion/cyfarwyddwyr neu'r busnes
Datganiad Arolygwyr Cofrestredig Adeiladu
- Rhestr o Arolygwyr Cofrestredig Adeiladu a gyflogir gan RBCA
Nodi dosbarthiad daearyddol prosiectau
- Cadarnhad o ardaloedd daearyddol y mae'r cwmni yn gweithio ynddynt
Beth ydyn ni'n ei wneud gyda'ch gwybodaeth chi?
Yn ein cylch gwaith fel y rheolydd data, mae Llywodraeth Cymru yn defnyddio'r wybodaeth a ddaw i law at y dibenion isod. Mae'r dibenion hyn yn angenrheidiol er mwyn ein galluogi i gydymffurfio â'n rhwymedigaethau cyfreithiol o dan Ddeddf Adeiladu 1984 i gadw cofrestrau o arolygwyr adeiladu a chymeradwywyr rheolaeth adeiladu a rheoleiddio'r proffesiwn rheoli adeiladu yng Nghymru. Bydd BSR yn defnyddio'r wybodaeth, ar ran Llywodraeth Cymru, i gofrestru a rheoleiddio'r proffesiwn rheoli adeiladu.
Dibenion y gwaith prosesu
Mae'r gwaith prosesu ar gyfer cofrestru a rheoleiddio'r proffesiwn rheolaeth adeiladu yng Nghymru i'r graddau y dynodir swyddogaethau i BSR gan Gytundeb yr Asiantaeth o dan Deddf Llywodraeth Cymru 2006. Mae'r rhain yn cynnwys y canlynol:
- Gweithredu cofrestr o Arolygwyr Rheolaeth Adeiladu
- Cynnal ymchwiliadau i gamymddwyn proffesiynol posibl gan Arolygwyr Cofrestredig Adeiladu
- Rhoi sancsiynau am gamymddwyn proffesiynol ac ymateb i apeliadau
- Erlyn troseddau o weithredu fel, neu esgus bod, yn Arolygydd Cofrestredig Adeiladu
- Cynnal cofrestr o Gymeradwywyr Rheolaeth Adeiladu
- Cynnal ymchwiliadau i achosion posibl o dorri rheolau ymddygiad proffesiynol ("PCRs") a/neu'r rheolau safonau gweithredol ("OSRs").
- Cyflwyno sancsiynau am fynd yn groes i'r PCRs a/neu'r OSRs ac ymateb i apeliadau
- Erlyn troseddau o weithredu fel, neu esgus bod, yn Gymeradwywr Rheolaeth Adeiladu Cofrestredig
- Cyflwyno hysbysiadau gwella a hysbysiadau tramgwyddo difrifol.
- Erlyn troseddau'n ymwneud â darparu gwybodaeth (Adrannau 58Z1 a 58Z2 o Ddeddf Adeiladu 1984)
Er mwyn eglurder ni fydd y BSR yn cyflawni ar ran Gweinidogion Cymru y swyddogaethau sy'n ymwneud â'r rheolau safonau gweithredol mewn perthynas ag unrhyw awdurdod lleol yng Nghymru.
Gyda phwy yr ydym yn rhannu'ch gwybodaeth
Gellir rhannu gwybodaeth a gedwir gan BSR ar ran Gweinidogion Cymru am arolygwyr adeiladu a chymeradwywyr rheolaeth adeiladu gyda'r Rheoleiddiwr Diogelwch Adeiladu o dan Adran 58Z9 o Ddeddf Adeiladu 1984.
Am ba hyd y byddwn yn cadw'ch gwybodaeth
Bydd y data'n cael ei gadw am 15 mlynedd oni bai bod gofyn iddynt gael eu cadw'n hirach o dan y gyfraith. Yna bydd y data yn cael eu dinistrio'n ddiogel.
Eich hawliau mewn perthynas â'ch gwybodaeth
Mae gennych:
- y hawl i gael gafael ar y data personol rydym yn eu prosesu amdanoch chi;
- yr hawl i'w gwneud yn ofynnol i ni gywiro gwallau yn y data hynny;
- yr hawl i wrthwynebu prosesu’r data (o dan amgylchiadau penodol);
- yr hawl i ofyn bod eich data yn cael eu 'dileu';
- yr hawl i gyflwyno cwyn i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO), sef ein rheoleiddiwr annibynnol ar gyfer diogelu data.
Manylion cysylltu
I wybod mwy am yr wybodaeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei chadw ac at ba ddiben, neu os hoffech arfer eich hawliau o dan y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data, gweler y manylion cyswllt isod:
Y Swyddog Diogelu Data
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
CAERDYDD
CF10 3NQ
E-bost: SwyddogDiogeluData@llyw.cymru
Prif Gynllunydd
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
CAERDYDD
CF10 3NQ
E-bost: enquiries.brconstruction@llyw.cymru
Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth
Dyma fanylion cyswllt Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth:
Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
Swydd Gaer
SK9 5AF.
Ffôn: 01625 545 745 neu 0303 123 1113
Gwefan Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth
