Neidio i'r prif gynnwy

Yr hyn yr ydym yn ei wneud yn dilyn adroddiad am y methiannau rheoli ac arwain yng Ngwasanaeth Tân ac Achub De Cymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
13 Chwefror 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Beth sydd wedi digwydd?

Cyhoeddwyd adroddiad annibynnol ar yr Adolygiad o Ddiwylliant Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru gan Fenella Morris CB ar 3 Ionawr 2024.

O ganlyniad, gwnaeth y Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol ar y pryd ddatganiad llafar ar 9 Ionawr 2024. Ar 6 Chwefror 2024, gwnaeth y Dirprwy Weinidog ddatganiad llafar pellach a chyhoeddodd Gyfarwyddydau i'r Awdurdod Tân ac Achub. Roedd y Cyfarwyddydau hyn yn rhoi holl swyddogaethau'r Awdurdod Tân ac Achub i 4 Comisiynydd.

Ar 13 Gorffennaf 2026, gwnaeth y Gweinidog Cabinet dros Lywodraeth Leol, Tai a Chynllunio ddatganiad ysgrifenedig yn nodi y byddai'r ymyrraeth yn parhau tan ar ôl yr etholiadau llywodraeth leol yn 2027. Cyhoeddwyd Cyfarwyddydau Diwygio i'r Awdurdod Tân ac Achub.

  • O 1 Awst 2026 ymlaen, y pedwar Comisiynydd yw: Y Farwnes Wilcox o Gasnewydd, cyn-arweinydd Cyngor Dinas Casnewydd ac Awdurdod Llywodraeth Leol Cymru
  • Kirsty Williams, cyn-Aelod o'r Senedd dros Frycheiniog a Sir Faesyfed
  • Vij Randeniya, cyn-Brif Swyddog Tân Gwasanaeth Tân ac Achub Gorllewin Canolbarth Lloegr
  • Claire Parmenter, cyn-Brif Gwnstabl a Dirprwy Brif Gwnstabl Heddlu Dyfed Powys

Yr hyn y bydd y Comisiynwyr yn ei wneud

  • Cylch gorchwyl gwreiddiol y Comisiynwyr oedd: Gweithredu holl argymhellion yr adolygiad o ddiwylliant a gwerthoedd Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru o fewn yr amserlenni a nodir yn yr adolygiad.
  • Sefydlu a goruchwylio tîm uwch-reolwyr newydd a phrosesau cysylltiedig nad ydynt wedi'u handwyo gan y methiannau a nodwyd yn yr adroddiad. Fel cam cyntaf, byddant yn penodi Prif Swyddog Tân ac, yn ôl yr angen, uwch-staff angenrheidiol eraill i gyfrannu'n llawn ac yn effeithiol at adferiad yr Awdurdod Tân ac Achub.
  • Sefydlu a gweithredu proses i nodi'r cwynion a wnaed yn ystod cyfnod yr adroddiad, a allai o bosibl fod wedi cael eu trin yn amhriodol a/neu'n annheg. Byddant hefyd yn sicrhau bod yr achosion hynny'n cael eu hailagor a'u hailarchwilio, gan arwain at ganlyniad teg a chyfiawn.
  • Gweithredu'r holl argymhellion a wnaed yn adolygiadau thematig y Prif Gynghorydd Tân ac Achub ar y canlynol:
  • Gwneud trefniadau ar gyfer lleihad sylweddol a pharhaus yn nifer y galwadau y mae Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru yn ymateb iddynt sy'n alwadau ffug.
  • Datblygu cynigion ar gyfer system lywodraethiant yr Awdurdod Tân ac Achub yn y dyfodol, a fydd yn lleihau hyd yr eithaf y risg o fethiannau tebyg pellach.
  • Cyflawni swyddogaethau eraill sydd gan yr Awdurdod Tân ac Achub a'i aelodau, fel y'u nodir mewn statud ac yn rheolau sefydlog yr Awdurdod Tân ac Achub.
  • Adrodd i Lywodraeth Cymru am y cynnydd a wneir mewn perthynas â'r uchod, ac am y potensial i ddod â'r ymyrraeth i ben.
  • Ymgymryd â'u holl waith yn ysbryd llawn partneriaeth gymdeithasol, a thrwy ymgysylltu'n barhaus ac yn effeithiol â staff Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru a chyrff cynrychioliadol.

Mae'r rhain wedi'u diweddaru i adlewyrchu'r cynnydd hyd yma a'r sefyllfa ddiweddaraf. O 1 Awst 2026 ymlaen, gofynnwyd i'r Comisiynwyr: 

  • Barhau i weithredu'r argymhellion sy'n deillio o'r adolygiad o ddiwylliant a gwerthoedd Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru ac o adroddiadau arolygu annibynnol, gan gynnwys argymhellion o adolygiadau thematig Prif Gynghorydd ac Arolygydd Tân ac Achub Cymru.
  • Goruchwylio datblygiad y tîm uwch-reolwyr newydd, gan wreiddio llinellau clir ac effeithiol o ran gosod cyfeiriad, cynnal trefniadau adrodd, a sicrhau atebolrwydd. 
  • Gweithio gyda'r tîm uwch-reolwyr i sicrhau bod strwythurau mewnol yn cefnogi gwella'n barhaus, arloesi, a dull o ddarparu gwasanaeth sy'n seiliedig ar risg. 
  • Goruchwylio'r gwaith o ddatblygu trefniadau llywodraethiant hirdymor newydd ac effeithiol, gan gynnwys trefniadau pontio ar gyfer aelodau newydd yr Awdurdod Tân ac Achub.
  • Gwreiddio Fframwaith Rheoli Perfformiad effeithiol, er mwyn darparu sicrwydd perfformiad clir i'r Awdurdod Tân ac Achub a phartneriaid allanol yn y dyfodol. 
  • Datblygu Strategaeth Ariannol Tymor Canolig gynhwysfawr, sy'n dangos lefelau cyllido priodol, cost-effeithiol a gwydn ar gyfer gwella'r gwasanaeth yn barhaus.
  • Goruchwylio'r gwaith o ddatblygu dull strategol o reoli risg mewn cymunedau, gan gynnwys cwblhau Adolygiad o'r Ddarpariaeth Tanau a Chynllun Rheoli Risg Cymunedol tymor canolig. 
  • Cyflawni swyddogaethau eraill sydd gan yr Awdurdod Tân ac Achub a'i aelodau, fel y'u nodir mewn statud ac yn rheolau sefydlog yr Awdurdod Tân ac Achub. 
  • Cefnogi ac asesu cynnydd y sefydliad wrth ddatblygu'r galluogrwydd a'r cynaliadwyedd sydd eu hangen i hwyluso trosglwyddiad diogel, effeithiol a llyfn i reolaeth leol, ac adrodd i Lywodraeth Cymru am y cynnydd hwn. 
  • Ymgymryd â'u holl waith yn ysbryd llawn partneriaeth gymdeithasol, a thrwy ymgysylltu'n barhaus ac yn effeithiol â staff Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru a'u hundebau llafur, ac â chyrff cynrychioliadol eraill. 

Diweddariadau

Dilynwch y cynnydd ar waith y Comisiynwyr ar wefan Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru.