Neidio i'r prif gynnwy

Mae'r Gyfarwyddiaeth Caffael a Masnachol yn arwain dull Llywodraeth Cymru o gaffael a chyflawni masnachol ledled Cymru.

Gan adrodd i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a'r Gymraeg, rydym yn:

  • Arwain y gymuned gaffael broffesiynol yng Nghymru.
  • Siapio polisi a deddfwriaeth caffael gan roi cyngor strategol i weinidogion.
  • Cefnogi'r sector cyhoeddus yng Nghymru gydag offer sy'n helpu i sicrhau’r gwerth mwyaf i Gymru.
  • Rheoli fframweithiau cydweithredol sy'n cyflawni gwerth, cynaliadwyedd ac effaith gymdeithasol.
  • Goruchwylio arferion caffael Llywodraeth Cymru.
Image

Polisi a deddfwriaeth

Mae’r ddeddfwriaeth sy’n llywodraethu caffael cyhoeddus yng Nghymru yn newid. Er mwyn cael mwy o wybodaeth am y ddeddfwriaeth gaffael newydd, ewch i’n gwefan Caffael Cyhoeddus Doethach yng Nghymru.

Cyswllt: TimDiwygiorBrosesGaffael@llyw.cymru

Mae Polisi Caffael a Masnachol Llywodraeth Cymru yn arwain y gwaith o ddatblygu cyngor polisi caffael, yn gosod safonau ac yn monitro canlyniadau yn erbyn nodau cyflawni. Mae'r tîm yn cefnogi'r gwaith o gyflawni caffael cymdeithasol gyfrifol ac yn hyrwyddo arfer gorau ar draws y sector cyhoeddus yng Nghymru.

Cyswllt: PolisiMasnachol@llyw.cymru

Datganiad Polisi Caffael Cymru

Mae Datganiad Polisi Caffael Cymru (WPPS) yn gosod y weledigaeth strategol ar gyfer caffael y sector cyhoeddus yng Nghymru, gan ymgorffori egwyddorion Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 er mwyn sicrhau bod caffael yn cyflawni gwerth cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol hirdymor drwy arferion cydweithredol a chynaliadwy:

Nodiadau Polisi Caffael Cymru (WPPN)

Mae Nodiadau Polisi Caffael Cymru (WPPN) yn ddogfennau cynghori a gyhoeddir gan Lywodraeth Cymru. Maent yn rhoi canllawiau i awdurdodau contractio’r sector cyhoeddus yng Nghymru ar arferion caffael, gan eu helpu i gyd-fynd â deddfwriaeth gaffael allweddol:

Cyfrifon Banc Prosiectau (PBA)

Mae Cyfrifon Banc Prosiectau yn gyfrifon wedi'u neilltuo a ddefnyddir i sicrhau taliadau teg a phrydlon yn uniongyrchol i aelodau'r gadwyn gyflenwi. Maent yn lleihau'r risg o dalu’n hwyr neu beidio â thalu o gwbl ac yn gwella llif arian, gan gyfrannu at gadwyn gyflenwi fwy gwydn yn y pen draw.

Er mwyn gweld sut mae Cyfrifon Banc Prosiectau’n gweithio, ac i gael rhagor o wybodaeth, ewch i'n gwefan.

Yn ôl i frig ↑

Image

Cymorth busnes, ymgysylltu a galluogrwydd

Mae'r gangen Cymorth Busnes, Ymgysylltu a Galluogrwydd yn chwarae rhan hanfodol wrth alluogi gwaith Cyfarwyddiaeth Caffael a Masnachol Llywodraeth Cymru. Mae'r gangen yn canolbwyntio ar feithrin galluogrwydd, cryfhau ymgysylltiad a symleiddio gweithrediadau; fel bod gan weithwyr proffesiynol ym maes caffael yr offer, y sgiliau a'r cysylltiadau sydd eu hangen arnynt i lwyddo.

Cymorth Busnes

Mae'r tîm Cymorth Busnes yn cefnogi busnes llywodraeth y Gyfarwyddiaeth Caffael a Masnachol, AD/Cyllidebol yn weithredol, yn ogystal â datblygiad sefydliadol ac adrodd corfforaethol. Mae'n gyfrifol am sefydlu Uned Adolygu Caffael Cymru mewn ymateb i ddeddfwriaeth PA23. Mae gan y gangen hon hefyd amcan i sefydlu a gweithredu Gwasanaeth Casglu Incwm cadarn ar gyfer fframweithiau cydweithredol y Gyfarwyddiaeth Caffael a Masnachol.

Cyswllt: CPD.BusinessSupport@gov.wales

Ymgysylltu â rhanddeiliaid

Mae'r tîm Ymgysylltu â Rhanddeiliaid yn arwain y gwaith o ddatblygu a chyflawni strategaeth ymgysylltu, cyfathrebu a digwyddiadau’r Gyfarwyddiaeth Caffael a Masnachol. Mae hyn yn cynnwys rheoli gweithgareddau proffil uchel fel Procurex Cymru, gan sicrhau cysylltiadau ystyrlon â rhanddeiliaid ar draws y sector cyhoeddus yng Nghymru a thu hwnt.

Adroddiad Ymgysylltu â Rhanddeiliaid y Gyfarwyddiaeth Caffael a Masnachol

Mae’r Gyfarwyddiaeth Caffael a Masnachol wedi comisiynu Jane Lynch o'r Ganolfan Caffael Gwerth Cyhoeddus i gynnal proses annibynnol i ymgysylltu â rhanddeiliaid er mwyn dod i ddeall sut mae'r Gyfarwyddiaeth Caffael a Masnachol yn perfformio yn erbyn y cyfrifoldebau a'r ymrwymiadau sydd wedi’u nodi yn Natganiad Polisi Caffael Cymru (WPPS).

Bydd y tîm Ymgysylltu â Rhanddeiliaid yn arwain yr ymateb a’r cynllun gweithredu i gryfhau'r cyflawniad yn erbyn ein cyfrifoldebau a'n hymrwymiadau yn y Datganiad WPPS.

I ddarllen yr adroddiad llawn a'i ganfyddiadau, ewch i'n gwefan.

Cyswllt: CaffaelMasnachol.Cyfathrebu@llyw.cymru

Galluogrwydd

Mae'r tîm Galluogrwydd yn cefnogi datblygiad hirdymor y proffesiwn caffael yng Nghymru drwy ddarparu offer, hyfforddiant a chydlyniant i feithrin sgiliau a chryfhau cyflawniad ar draws y sector cyhoeddus. Mae'r tîm yn helpu i sicrhau bod swyddogaethau caffael yn barod i fodloni gofynion presennol ac yn y dyfodol, wrth hyrwyddo cysondeb ac arfer gorau.

Cyd Cymru

Cyd Cymru yw’r lle cydweithredol ar gyfer cymunedau caffael a masnachol ac mae’n ganolfan ragoriaeth lle gall gweithwyr proffesiynol ddysgu a chefnogi ei gilydd yng Nghymru. Mae hefyd yn gwasanaethu fel sianel gyfathrebu ar gyfer prynwyr sector cyhoeddus.

Ewch i wefan Cyd Cymru.

Prentisiaeth Caffael a Chyflenwi Masnachol

Mae'r Brentisiaeth Caffael a Chyflenwi Masnachol wedi'i chynllunio i feithrin gallu craidd ar draws Llywodraeth Cymru a'r sector cyhoeddus ehangach. Mae'n cynnig llwybr strwythuredig ar gyfer datblygu gweithwyr caffael proffesiynol, gan gyfuno profiad ymarferol â dysgu achrededig trwy'r Sefydliad Caffael a Chyflenwi Siartredig (CIPS).

P'un a ydych chi am uwchsgilio staff presennol neu ddenu talent newydd i rolau masnachol, mae'r brentisiaeth hon yn cefnogi timau i gyflawni canlyniadau caffael doethach, mwy cynaliadwy.

Gallwch ddysgu mwy am y Brentisiaeth Gaffael yma.

Rheoli contractau

Mae'r Rhaglen Gallu Rheoli Contractau yn cefnogi timau'r sector cyhoeddus i gryfhau eu dull o reoli contractau'n effeithiol. Wedi'i ddatblygu gan Swyddogaeth Fasnachol y Llywodraeth, mae'n darparu offer ymarferol, arweiniad a hyfforddiant i helpu timau i wneud y mwyaf o werth, rheoli risg, a meithrin perthynas gryfach â chyflenwyr.

Mae'r rhaglen yn addas ar gyfer rheolwyr contractau newydd a phrofiadol ac mae'n cyd-fynd â safonau arfer gorau ar draws y llywodraeth.

Gallwch gael mwy o wybodaeth am y rhaglen yma.

Am fwy o wybodaeth am gyfleoedd wedi’u cyllido, e-bostiwch: GalluMasnachol@llyw.cymru

Rhaglen Dyfarniad Corfforaethol

Mae Rhaglen Dyfarniad Corfforaethol y CIPS yn rhaglen sy'n rhan o raglen gallu a chapasiti Llywodraeth Cymru. Ei nod yw:

  • Rhoi cyfleoedd datblygu proffesiynol i staff
  • Cefnogi gweithwyr proffesiynol caffael y dyfodol
  • Lleihau'r problemau capasiti a wynebir ar draws y proffesiwn
  • Codi proffil caffael yng Nghymru.

Gallwch wybod mwy am y rhaglen yma.

Prosbectws Dysgu a Datblygu

Mae ein prosbectws yn dwyn ynghyd ystod eang o gyfleoedd dysgu a ddewiswyd yn ofalus, i helpu i'ch cynorthwyo yn eich datblygiad proffesiynol, ac ar eich taith gaffael a masnachol. Mae'r prosbectws ar gael yma.

Datblygu Gyrfaoedd Proffesiynol a’r Gweithlu

Mae dau ganllaw yn cael eu datblygu i gefnogi'r proffesiwn masnachol yng Nghymru a byddant ar gael cyn bo hir. Nod yr adnoddau hyn yw codi proffil caffael fel dewis gyrfa ddeinamig a gwerth chweil, tra hefyd yn helpu cyflogwyr i feithrin gallu masnachol o fewn eu timau.

Canllaw Gwybodaeth am Yrfaoedd

Mae caffael yn yrfa bwrpasol sy’n cael effaith, gyda sawl llwybr mynediad hygyrch, megis prentisiaethau, graddau, a chynlluniau llwybr cyflym â'r nod o feithrin gallu a chynaliadwyedd hirdymor ledled Cymru.

Mae'r canllaw yn cefnogi pobl sy'n gadael yr ysgol, graddedigion, y sawl sy’n newid gyrfa, a chyflogwyr sydd â diddordeb mewn gyrfaoedd caffael yn y sector cyhoeddus yng Nghymru.

Mae'r canllaw yn cael ei ddatblygu a bydd ar gael cyn bo hir.

Canllaw i Gyflogwyr am Leoliadau Myfyrwyr

Mae Lleoliadau Myfyrwyr yn cynnig buddion i'r ddwy ochr er mwyn gwella profiad ymarferol myfyrwyr wrth helpu sefydliadau i gryfhau eu galluoedd masnachol a datblygu talent yn y dyfodol. Mae'r canllaw hwn yn cefnogi cyflogwyr i sefydlu trefniadau lleoliadau myfyrwyr effeithiol drwy ddefnyddio profiad o bob rhan o'r sector cyhoeddus yng Nghymru.

Mae'r canllaw yn cael ei ddatblygu a bydd ar gael cyn bo hir.

Yn ôl i frig ↑

Image

Cyflawni caffael

Mae'r gangen hon o fewn y Gyfarwyddiaeth Caffael a Masnachol yn dwyn ynghyd yr hen dimau Gwasanaethau Caffael Corfforaethol a Chyflawni Masnachol. Mae'n gyfrifol am gyflawni caffael penodol i Lywodraeth Cymru, ochr yn ochr â rhaglen ehangach o gytundebau cydweithredol ar gyfer sector cyhoeddus Cymru.

Gan weithio mewn partneriaeth â Llywodraeth Leol yng Nghymru, a chyrff eraill y sector cyhoeddus, rydym wedi datblygu Piblinell Caffael Cydweithredol Cymru, sy'n cynnwys dros 40 o gytundebau i'w defnyddio ar draws sector cyhoeddus Cymru.

Mae ein llyfryn fframwaith yn rhoi’r holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch i gael gafael ar y cytundebau hyn.

Ein Timau

Mae'r gangen Cyflenwi Caffael yn gweithredu ar draws y categorïau canlynol:

Gwasanaethau Proffesiynol ac Ymchwil

Mae'r categori hwn yn ymdrin â chaffael gwasanaethau ymgynghori, cyfreithiol, ariannol ac ymchwil arbenigol sy'n cefnogi llunio polisïau sy'n seiliedig ar dystiolaeth a gwneud penderfyniadau strategol ar draws sector cyhoeddus Cymru.
Cyswllt: CaffaelMasnachol.GwasanaethauProffesiynol@llyw.cymru

Pobl a Gwasanaethau Corfforaethol

Yn canolbwyntio ar ddod o hyd i wasanaethau AD, hyfforddiant a datblygu, recriwtio, iechyd galwedigaethol, a gwasanaethau cymorth corfforaethol mewnol eraill sy'n galluogi rheolaeth effeithiol o’r gweithlu a’r sefydliad.
Cyswllt: CaffaelMasnachol.PoblaChorfforaethol@llyw.cymru

Adeiladu a Chyfleusterau

Yn ymdrin â chaffael gwaith adeiladu, cynnal a chadw adeiladau, rheoli cyfleusterau, a gwasanaethau sy'n gysylltiedig ag ystadau er mwyn cefnogi seilwaith diogel, cynaliadwy ac effeithlon.
Cyswllt: CaffaelMasnachol.Adeiladau@llyw.cymru

TGCH

Yn ymdrin â chaffael atebion digidol a thechnoleg, gan gynnwys meddalwedd, caledwedd, gwasanaethau cwmwl, ac ymgynghoriaeth TG, er mwyn cefnogi trawsnewid digidol a gwydnwch gweithredol.
Cyswllt: ICTProcurement@llyw.cymru

Y Fflyd, Logisteg a Chyfleustodau

Yn canolbwyntio ar gaffael cerbydau fflyd, gan gynnwys mentrau cerbydau trydan, gwasanaethau trafnidiaeth a logisteg, tanwydd, ynni a chyfleustodau, gyda phwyslais cryf ar gynaliadwyedd a gwerth am arian.
Cyswllt: CaffaelMasnachol.Fflyd@llyw.cymru / CaffaelMasnachol.Cyfleustodau@llyw.cymru

Gweithredu a Llywodraethiant

Mae'r tîm hwn yn cefnogi gweithgareddau llywodraethiant a sicrwydd caffael a gweithredu polisi, gan sicrhau bod arferion caffael yn cyd-fynd ag amcanion deddfwriaethol a strategol.
Cyswllt: CaffaelMasnachol.Cyflawni@llyw.cymru

Yn ôl i frig ↑

Image

Digidol a data

Mae tîm digidol a data Llywodraeth Cymru yn darparu cyfres o offer digidol i gefnogi'r sector cyhoeddus yng Nghymru drwy gamau yn eu taith gaffael.

Mae'r offer yn cynnwys:

eDendroCymru

Mae eDendroCymru yn offeryn eGyrchu a ddarperir gan Jaggaer, sydd ar gael i sefydliadau sector cyhoeddus Cymru. Mae'n rhan o gyfres o offer sy'n cefnogi llifoedd gwaith, tendro, gwerthuso, rheoli contractau, a pherfformiad cyflenwyr. Mae'r platfform yn caniatáu i gyflenwyr gyflwyno cyfleoedd tendro’n ddiogel, cael gafael ar ddogfennau tendro’n hawdd, dychwelyd tendrau trwy system warchodedig, a chodi ymholiadau’n dryloyw drwy gydol y broses dendro.

Ewch i edendrocymru: porth e-dendro

I weld yr hyfforddiant:

  • Cliciwch ar eich proffil defnyddiwr
  • Dewiswch Help
  • Cliciwch y deilsen Sourcing+ a dewiswch bwnc

Dunn and Bradstreet (D&B) finance analytics

Mae D&B Finance Analytics yn ddatrysiad rheoli credyd hyblyg a hawdd ei ddefnyddio.

Ewch i DnB - Mewngofnodwch

Mae adnoddau hyfforddi ar gael o fewn y platfform. I weld yr hyfforddiant:

  • Cliciwch y deilsen Finance Analytics
  • Cliciwch yr eicon marc cwestiwn ar y dudalen gartref
  • Dewiswch Training Resources a chwiliwch am bynciau perthnasol

Cofrestrwch ar gyfer gwefan gymuned Cwsmeriaid D&B. Yma gallwch ddod o hyd i atebion i gwestiynau allweddol a chodi achos dros faterion fel ailosod cyfrinair. Rydym yn annog defnyddwyr i rannu eu hawgrymiadau a'u triciau ar y tudalennau cymunedol.

AWARD (Commerce Decisions)

Mae AWARD, a ddatblygwyd gan Commerce Decisions, yn blatfform gwerthuso a gwneud penderfyniadau a ddefnyddir ym maes caffael i gefnogi gwerthusiadau cadarn y gellir eu harchwilio, ac mae’n helpu i sicrhau tegwch, cysondeb a gwerth am arian wrth ddewis cyflenwyr.

Ewch i wefan mewngofnodi AWARD

Mae hyfforddiant ar gael trwy'r Sylfaen Wybodaeth barod.

I weld yr hyfforddiant:

  • Mewngofnodwch a chlicio ar Help and Guidance ar y bar uchaf
  • Porwch neu chwiliwch am y pwnc neu'r erthygl sydd ei angen arnoch

Cardiau Prynu (Barclaycard)

Darperir cardiau prynu gan Barclaycard i sefydliadau’r sector cyhoeddus yng Nghymru i’w defnyddio yn eu gweithgareddau caffael. Mae gan bob sefydliad gytundebau unigol â Barclaycard.

Ewch i wefan Cardiau Prynu Barclaycard

Contact: OfferCaffaelDigidol@llyw.cymru

Yn ôl i frig ↑