Neidio i'r prif gynnwy

Defnyddiwch y ffurflen ar-lein hon i hawlio ad-daliad Treth Trafodiadau Tir (TTT) os yw eich eiddo yn anaddas i’w ddefnyddio fel annedd. 

Gallwch wneud cais neu newid eich ffurflen os:

  • mai chi yw prynwr yr eiddo
  • mai chi yw’r cyfreithiwr neu'r trawsgludydd a weithredodd ar ran y prynwr yn y pryniant gwreiddiol
  • ydych chi’n rhywun arall sydd wedi’u hawdurdodi i weithredu ar ran y prynwr

Cyn i chi ddechrau

Darllenwch ein canllawiau ar eiddo adfeiliedig a thynnu gosodiadau a ffitiadau i gael gwybod os yw’r eiddo yn anaddas ar gyfer ei ddefnyddio fel annedd.

Bydd angen i chi ddarparu:

  • eich manylion
  • manylion y prif brynwr os ydyn nhw’n wahanol i'ch manylion chi
  • manylion y trafodiad gwreiddiol
  • cyfeirnod unigryw, 12 digid, y trafodiad (CUT)
  • tystiolaeth sy'n dangos fod yr eiddo yn adfeiliedig neu'n anaddas i’w ddefnyddio fel annedd
  • swm y dreth a dalwyd yn wreiddiol
  • faint o dreth sydd i’w ad-dalu
  • manylion cyfrif banc a chod didoli’r person fydd yn derbyn y taliad
  • tystiolaeth sy’n dangos fod yr eiddo yn adfeiliedig neu’n anaddas ar gyfer ei ddefnyddio fel annodd, fel copïau electronig sy’n dangos:
    • cyflwr yr eiddo
    • unrhyw waith atgyweirio sydd ei angen

Tystiolaeth a argymhellir 

Rydym yn argymell defnyddio:

  • adroddiadau, er enghraifft:
    • adroddiad prynwyr cartref Sefydliad Brenhinol y Syrfewyr Siartredig (RICS)
    • adroddiad syrfewyr
    • adroddiad strwythurol
    • adroddiad arolygydd adeiladu
  • ffotograffau o gyflwr yr eiddo
  • manylion y gwerthiant

Yn ogystal â'r dystiolaeth hon, gallwch uwchlwytho:  

  • contract gwerthu
  • caniatâd cynllunio
  • anfonebau a derbynebau ar gyfer gwaith a gwblhawyd
  • ffurflen eithrio rhag y Dreth Gyngor

Nid darparu tystiolaeth fydd yr unig factor sy’n pennu canlyniad hawliad llwyddiannus am ad-daliad.

Tystiolaeth na allwn ei derbyn

Peidiwch ag uwchlwytho ffotograffau sydd:

  • Wedi cael eu tynnu ar ôl y dyddiad dod i rym, ar ôl i'r gwaith atgyweirio ddechrau

  • delweddau aneglur, lle mae graen ffilm neu bicseli yn amlwg

Cysylltwch â ni os oes arnoch angen cyflwyno hawliad neu welliant heb dystiolaeth ategol.

Gwasanaeth ar-lein Awdurdod Cyllid Cymru

Sut rydym yn defnyddio eich gwybodaeth 

Edrychwch ar ein polisi preifatrwydd i weld sut rydym yn defnyddio'r wybodaeth y byddwch chi’n ei rhoi i ni. 

Cymorth 

Os oes angen cymorth arnoch neu os hoffech y ffurflen mewn fformat gwahanol, cysylltwch â ni