Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Mae’r Trydydd Sector yn cynnwys miloedd o fudiadau a grwpiau sy’n cynrychioli ac yn cefnogi cymunedau lle a chymunedau buddiant. Fel y nodwyd eisoes yn y Cynllun hwn, mae dadl gref dros edrych ar y rhain gyda’i gilydd fel Trydydd Sector unigryw. Er hynny, rhaid i ni gydnabod hefyd amrywiaeth y Sector, a rôl allweddol grwpiau cymunedol bach o dan arweiniad gwirfoddolwyr ynddo. Mae’n bwysig bod y berthynas hon rhwng Llywodraeth Cymru a’r Trydydd Sector yn ystyried yr amrywiaeth hon, ac yn gwerthfawrogi pwysigrwydd cryfhau mudiadau llawr gwlad sy’n canolbwyntio ar weithredu ar lefel leol ac ar raddfa fach.

Mae Llywodraeth Cymru yn rhoi pwyslais ar y gweithredu dyngarol a chymdeithasol sy’n digwydd ar lefel gymunedol ac sy’n cyfrannu at gymdeithas sifil gyfoethog ac yn gwella ansawdd bywyd pobl yng Nghymru. Mae’r gweithredu cymunedol lleol hwn yn dangos y pwys a roddir ar ymateb i brofiadau ac anghenion o ddydd i ddydd. Ar y lefel gymdogaethol leol neu deuluol hon y mae mudiadau Trydydd Sector yn aml yn gallu gwneud y gwahaniaeth mwyaf. Ei hygyrchedd a’i allu i ymateb yw un o rinweddau mwyaf y sector.

Gyda hyn mewn cof, mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod datblygu cymunedol fel ‘pobl yn gweithio gyda’i gilydd ar faterion sy’n dod i’r amlwg, er mwyn creu newid drwy gydweithredu’. Mae hon yn broses, sy’n troi’n weithredoedd i wella lles cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol cymunedau, sy’n ateb anghenion a dyheadau’r cymunedau hynny drwy gydymdrechion y gymuned a’r mudiadau sy’n ei gwasanaethu.

Mae Llywodraeth Cymru yn credu bod angen harneisio’r cryfder sydd gan gymunedau a’u partneriaid i ganfod atebion ar y cyd i broblemau sy’n gyffredin iddynt. Mae hyn yn rhan ganolog o gydgynhyrchu. Gan amlaf, bydd mwy nag un peth yn achosi'r problemau sy’n wynebu ein cymunedau, a byddant yn effeithio ar fwy nag un rhan o fywydau pobl. Cydnabyddir mai’r cymunedau eu hunain sydd yn y sefyllfa orau yn aml i weld problemau gyda gwasanaethau presennol neu fylchau mewn gwasanaethau. Mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi ymdrechion i ganfod atebion ar y cyd, gyda phobl a chymunedau’n gweithio gyda darparwyr gwasanaethau i ddylunio, darparu, monitro a gwerthuso’r gwasanaethau (enw cyffredin ar hyn yw cyd-gynhyrchu).

Hybu ymgysylltu cymunedol

Mae Llywodraeth Cymru wedi cymeradwyo’r Egwyddorion Cenedlaethol ar gyfer Ymgysylltu â’r Cyhoedd, set o ddeg egwyddor sydd â’r nod o hybu dull effeithiol a chyson o Ymgysylltu â’r Cyhoedd ledled Cymru.

Yr Egwyddorion Cenedlaethol ar gyfer Ymgysylltu â’r Cyhoedd yng Nghymru:

  1. Cynllunnir yr ymgysylltu’n effeithiol i wneud gwahaniaeth.
  2. Annog a galluogi pawb yr effeithir arnynt i gymryd rhan, os ydynt yn dewis hynny.
  3. Cynllunnir a chyflwynir yr ymgysylltu mewn ffordd amserol a phriodol.
  4. Gweithio gyda sefydliadau partner perthnasol.
  5. Ni fydd unrhyw jargon yn rhan o’r wybodaeth a ddarperir a bydd yn briodol ac yn hawdd ei deall.
  6. Ei gwneud yn haws i bobl gymryd rhan.
  7. Galluogi pobl i gymryd rhan yn effeithiol.
  8. Rhoddir yr adnoddau a’r gefnogaeth briodol i ymgysylltu er mwyn iddo fod yn effeithiol.
  9. Mae pobl yn cael gwybod beth yw effaith eu cyfraniad.
  10. Dysgu a rhannu gwersi i wella’r broses o ymgysylltu.

Mae’r egwyddorion hyn yn ategu Safonau Cenedlaethol ar gyfer Cyfranogiad Plant a Phobl Ifanc Llywodraeth Cymru.

Cynnal gwirfoddoli

Mae Llywodraeth Cymru yn gwerthfawrogi gwirfoddoli fel elfen bwysig o fynegi dinasyddiaeth ac fel elfen hanfodol o ddemocratiaeth. Mae’n golygu neilltuo amser ac egni er budd cymdeithas a’r gymuned, a gall ddigwydd mewn sawl ffordd. Mae’n cael ei wneud o wirfodd a drwy ddewis, heb ddisgwyl enillion ariannol.

Bydd Llywodraeth Cymru yn cynnal Polisi Gwirfoddoli (a gyhoeddir ar wahân a heb fod yn rhan o’r Cynllun hwn). Bydd y Polisi hwn yn cael ei ddatblygu ar y cyd â’r Sector drwy Gyngor Partneriaeth y Trydydd Sector, a bydd yn:

  • ymdrechu i wella mynediad at wirfoddoli i bobl o bob sector o gymdeithas
  • cefnogi ymdrechion i sicrhau nad oes rhwystrau diangen yn atal pobl rhag gwirfoddoli
  • ei gwneud yn haws i bobl wirfoddoli
  • annog cyfraniadau mwy effeithiol gan wirfoddolwyr
  • codi statws a gwella delwedd gwirfoddoli