Cynllun y Trydydd Sector - 3. Cefnogi ymgysylltiad
Sut y byddwn yn gweithio gyda mudiadau gwirfoddol, yn eu cynorthwyo a’u hariannu.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Cyflwyniad
Yng Nghymru mae Llywodraeth Cymru a’r Trydydd Sector wedi mwynhau hanes hir o ymgysylltu uniongyrchol, sy’n cael ei gynnal drwy’r Cynllun hwn. Mae hyn yn unigryw i Gymru. Mae’r ymgysylltiad strategol tymor hir hwn â’r Trydydd Sector yn parhau’n bwysig i lywio datblygiad polisi ac i helpu i ffurfio gwasanaethau i ddiwallu anghenion pobl yng Nghymru.
Felly, mae’n bwysig cael cysylltiadau gwaith cadarnhaol â’r Sector, a chael cynrychiolaeth effeithiol ar lefel genedlaethol, ranbarthol a lleol.
Mae’r paragraffau canlynol yn nodi’r trefniadau ffurfiol ar gyfer ymgysylltu o dan y Cynllun hwn. Mae’r trefniadau hyn yn cael eu hategu gan Fframwaith Ymgysylltu y mae’r ddwy ochr wedi cytuno arno.
Bydd y Fframwaith:
- yn cysylltu ag aelodau Cyngor Partneriaeth y Trydydd Sector, a rhoi perchnogaeth iddynt dros olrhain a phenderfynu ar brosesau a datblygiad
- yn helpu aelodau Cyngor Partneriaeth y Trydydd Sector gyda’u gwaith i ymgysylltu â'r sector ehangach
- yn creu proses sy'n cynhyrchu agendâu a chanlyniadau cyffredin
- yn cefnogi cyfarfodydd Gweinidogion mwy penodol yn sicrhau canlyniadau cliriach ar gyfer cyfarfodydd
Gweinidogion a Chyngor Partneriaeth y Trydydd Sector - yn ychwanegu gwerth at gyfraniad y llywodraeth a’r Trydydd Sector
- yn cynnal diddordeb ac ymrwymiad y Trydydd Sector a Gweinidogion
- yn helpu Gweinidogion a’r Trydydd Sector i gyflawni eu hamcanion
- yn cynnig adnoddau ychwanegol
Dialog a chydweithredu
Bydd Llywodraeth Cymru, ar y cyd â Chyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (WCVA), yn canfod y rhwydweithiau trydydd sector a’r cyrff ymbarél perthnasol sydd â diddordeb yn eu gwaith, ac yn cytuno ar drefniadau ymarferol ar gyfer deialog a chydweithredu ar lefel weithredol. Ochr yn ochr â hyn, mae Llywodraeth Cymru yn disgwyl i fudiadau Trydydd Sector gydweithio â’i gilydd a ffurfio rhwydweithiau priodol a all uniaethu gyda’i gilydd â Llywodraeth Cymru ar faterion sy’n gyffredin iddynt o ran polisi a gweinyddu. Mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu cwrdd â chynrychiolwyr rhwydweithiau Trydydd Sector yn rheolaidd i’r diben hwn, ac mae’n cydnabod pwysigrwydd dialog ac ymgysylltu rheolaidd â swyddogion a Gweinidogion.
Bydd y trefniadau hyn yn cynnwys y canlynol:
- cyfnewid gwybodaeth a safbwyntiau ar ddatblygiadau ym mholisïau a blaenoriaethau Llywodraeth Cymru
- dulliau a fydd yn galluogi pob rhan o’r Trydydd Sector i ymgysylltu ac i gyfrannu at waith Llywodraeth Cymru
- rhoi gwybod i Lywodraeth Cymru am ddatblygiadau a phryderon a nodir gan y Trydydd Sector drwy ei waith
- cyfranogi mewn gweithgorau i ddatblygu polisïau a strategaethau newydd
- trefniadau ymgynghori ar bolisïau neu raglenni strategol newydd
- cytuno ar y paramedrau ar gyfer cydweithio i redeg rhaglenni o’r fath
- ymdrin â threfniadau gweinyddol ar gyfer rhaglenni ariannu
Cyngor Partneriaeth y Trydydd Sector
Wrth fynd ati i gyflawni ei fwriad i gydweithredu ac i weithio’n effeithiol gyda'r Trydydd Sector, bydd Llywodraeth Cymru yn cynnal Cyngor Partneriaeth y Trydydd Sector fel ei phrif gyfrwng i ymgysylltu â’r Trydydd Sector.
Bydd Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru yn hwyluso’r broses o ethol cynrychiolwyr y Trydydd Sector ac yn sicrhau eu bod adlewyrchu croestoriad o fuddiannau a gweithgarwch y Trydydd Sector cyn belled ag y bo modd. Gall Llywodraeth Cymru wahodd cynrychiolwyr o sectorau eraill i gyfarfodydd. Bydd swyddogion Llywodraeth Cymru a swyddogion Cyngor Gweithredol Gwirfoddol Cymru yn cefnogi Cyngor Partneriaeth y Trydydd Sector. Bydd y Cyngor yn cael ei gadeirio gan y Gweinidog sy’n gyfrifol am Gynllun y Trydydd Sector.
Bydd Cyngor Partneriaeth y Trydydd Sector yn:
- edrych ar faterion yn ymwneud ag amcanion strategol a swyddogaethau Llywodraeth Cymru ac sy’n gysylltiedig â buddiannau’r Trydydd Sector, ac yn gwneud argymhellion i Lywodraeth Cymru
- cytuno ar y Fframwaith Ymgysylltu, ac yn ei fonitro a’i adolygu rhoi cyngor ar weithredu, monitro ac adolygu Cynllun y Trydydd Sector gan gynnwys llunio dangosyddion a ddefnyddir i werthuso’r Cynllun
- hwyluso ymgynghori â mudiadau Trydydd Sector a chyrff Sector Cyhoeddus perthnasol ar weithredu, rhedeg ac adolygu’r Cynllun
- helpu gyda'r trefniadau i adolygu’r Cynllun o bryd i’w gilydd
Bydd Llywodraeth Cymru a’r Trydydd Sector yn cytuno ar gyfansoddiad a threfniadau gwaith Cyngor Partneriaeth y Trydydd Sector.
Cyfarfodydd gweinidogion
Mae Gweinidogion Cymru mewn cysylltiad â’r Trydydd Sector yn aml iawn mewn amryw o ffyrdd. Dyma rai enghreifftiau: cyfarfodydd ar faterion penodol; ymweliadau â mudiadau a chymunedau; presenoldeb mewn digwyddiadau a chynadleddau; a drwy ohebiaeth. Mae’r ffaith bod y Trydydd Sector yn gallu cwrdd â Gweinidogion i drafod materion sy’n achos pryder iddynt yn cael ei gydnabod, ac mae’n rhan allweddol o’r berthynas rhwng Llywodraeth Cymru a’r Trydydd Sector.
O dan nawdd y Cynllun hwn, bydd y gwaith ymgysylltu arferol hwn yn cael ei ategu gan gyfarfodydd Gweinidogion sy’n canolbwyntio mwy ar faterion pwysig sy’n effeithio ar fwy nag un o fudiadau’r Trydydd Sector ac sy'n haeddu sylw gan y Gweinidog.
Ni fydd y cyfarfodydd hyn yn ceisio rhoi sylw i holl faterion portffolio’r Gweinidog ar unwaith, ond bydd pob cyfarfod:
- fel arfer yn ymdrin â’r canlyniadau y mae Llywodraeth Cymru a’r Trydydd Sector wedi eu nodi fel blaenoriaethau, ac i waith Cyngor Partneriaeth y Trydydd Sector
- yn canolbwyntio ar un neu ychydig o faterion strategol cysylltiedig sy’n ymwneud â’r canlyniadau hynny ac â nifer sylweddol o fudiadau Trydydd Sector
- yn canolbwyntio ar weithredu o fewn terfynau amser i gynyddu’r tebygolrwydd o wneud cynnydd ar y materion o dan sylw
Bydd y trefniadau ar gyfer cyfarfodydd Gweinidogion wedi’u nodi yn y Fframwaith Ymgysylltu, a fydd wedi cael sêl bendith Llywodraeth Cymru a’r Trydydd Sector.
Bydd Tîm Trydydd Sector Llywodraeth Cymru yn monitro ac yn adolygu patrwm yr holl gyfarfodydd Gweinidogion, ac yn adrodd ar hyn i Gyngor Partneriaeth y Trydydd Sector ac i Gynulliad Cenedlaethol Cymru drwy adroddiad blynyddol Cynllun y Trydydd Sector.
Cysylltiad y Trydydd Sector â datblygu polisïau
Bydd Llywodraeth Cymru yn sicrhau ei bod yn ystyried, yn y camau cynnar, beth fydd goblygiadau polisïau newydd neu newid mewn polisi i’r Trydydd Sector. Bydd y Trydydd Sector yn deall bod yn rhaid i Weinidogion Cymru ystyried pob math o safbwyntiau a chyfraniadau cyn gwneud penderfyniadau terfynol wrth lunio polisi.
I’r graddau y mae hynny’n bosibl bydd Llywodraeth Cymru yn ceisio osgoi neu liniaru unrhyw effaith annymunol ar y Trydydd Sector a chanfod ac annog cyfleoedd i fudiadau Trydydd Sector gael eu hysbysu a chymryd rhan mewn trafodaethau mor gynnar â phosibl a chyn unrhyw ymgynghoriad ffurfiol os yw hynny’n bosibl. Mae buddiannau amrywiol mudiadau Trydydd Sector yn golygu nad yw’n bosibl manylu ar bob maes polisi a all fod yn bwysig i’r Trydydd Sector; fodd bynnag, bydd canllaw manwl yn cael ei ddatblygu a’i gyhoeddi ar wahân i helpu i asesu effaith bosibl polisïau ar y Trydydd Sector. Ni fydd unrhyw ganllaw o’r fath yn rhan o’r Cynllun hwn.
Gall cyfarwyddebau a deddfwriaeth arfaethedig sy’n deillio o’r Undeb Ewropeaidd effeithio ar y Trydydd Sector, yn ogystal â deddfwriaeth a pholisi domestig. Bydd Llywodraeth Cymru yn ymdrechu i sicrhau bod yr un sylw’n cael ei roi i ddatblygiadau polisi yn y meysydd hyn.
Bydd Llywodraeth Cymru yn sefydlu ac yn cynnal grŵp cyswllt mewnol a fydd yn cynnwys cynrychiolwyr o bob adran o Lywodraeth Cymru sydd mewn cysylltiad â’r Sector, i gyfnewid gwybodaeth ac i sicrhau bod egwyddorion ac ymrwymiadau’r Cynllun yn cael eu cynnal.
Ymgynghori
Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i bennu gweithdrefnau cytunedig i ymgynghori ar newidiadau mewn polisi a datblygiadau polisi newydd sy’n effeithio ar y Trydydd Sector, gan gynnwys:
- cyfleoedd i barhau â thrafodaethau rhwng y Trydydd Sector, buddiannau gwirfoddoli a Llywodraeth Cymru i feithrin dealltwriaeth gynnar, a’u cynnwys mewn datblygiadau polisi
- trefniadau ymgynghori a fydd fel arfer yn caniatáu digon o amser i ymgynghori’n ehangach â rhwydweithiau a defnyddwyr gwasanaeth
- cefnogi rôl cyrff ymbarél a chyrff cyfryngol i hwyluso ymgynghoriadau
- adborth i ymatebwyr ar ymatebion a chanlyniadau’r ymgynghoriad
- cyfleoedd i’r sector barhau i gael ei gynnwys yng nghamau gweithredu a gwerthuso’r polisi
Bydd Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod yr ymrwymiadau hyn yn cael eu cynnwys yn llawn mewn canllaw i staff a ddilynir wrth ymgymryd ag ymarferion ymgynghori. Bydd y gweithdrefnau hyn yn cael eu nodi yn y canllawiau a roddir i swyddogion Llywodraeth Cymru, a byddant yn destun ymgynghoriad cyfnodol gyda’r Trydydd Sector.
