Neidio i'r prif gynnwy

Gwerthoedd a diben cyffredin

Mae gan Lywodraeth Cymru a’r Trydydd Sector nifer o werthoedd cyffredin yn ymwneud â rôl unigolion a chymunedau mewn democratiaeth fodern, a fydd yn sail i holl agweddau’r Cynllun hwn. Mae’r gwerthoedd hyn yn ymwneud â chymdeithas:

  • sy'n sicrhau nad yw pobl yn cael eu trin yn llai ffafriol oherwydd rhyw, hil, ffydd neu gred, cyfeiriadedd rhywiol, oedran, beichiogrwydd a mamolaeth, neu oherwydd eu bod yn briod neu mewn partneriaeth sifil, yn anabl neu’n drawsrywiol
  • sy’n gynhwysol ac yn rhoi cyfle i bobl gyfrannu at ei holl weithgarwch economaidd, cymdeithasol a diwylliannol
  • sy'n grymuso pobl i gyfrannu at y broses o ddatblygu eu cymunedau, ac yn cydnabod gwerth cyfraniad o’r fath
  • sy’n dibynnu ar gyfraniad gwirfoddol pobl i feithrin arweiniad cymunedol a gwella democratiaeth leol
  • sy’n cynnwys y sectorau cyhoeddus, preifat a gwirfoddol sy’n ategu ei gilydd ac yn ceisio mynd i'r afael â materion cymdeithasol gyda’i gilydd mewn ysbryd o bartneriaeth
  • sy'n elwa ar amgylchedd iach ac economi gystadleuol lewyrchus, ynghyd â bywyd cymunedol bywiog, yn sgil ei hymrwymiad i ddatblygu cynaliadwy

Mae Llywodraeth Cymru a'r Trydydd Sector yn cydnabod yr heriau y mae gwasanaethau cyhoeddus yn eu hwynebu. Mae gofynion a disgwyliadau’n cynyddu, ac mae mwy a mwy o bwysau ar arian cyhoeddus. Felly mae ein gwasanaethau ataliol a chymunedol yn bwysicach nag erioed. Rydym yn sylweddoli na all y wladwriaeth ar ei phen ei hun sicrhau ansawdd bywyd, ac mae angen i ni fanteisio ar waith gwirfoddol a gweithredu cymunedol ac adeiladu ar hynny, a helpu cymunedau i fod yn gadarn ar lefel y gymdogaeth leol.

Rydym yn credu y gall y Trydydd Sector helpu i drawsnewid y ffordd mae gwasanaethau cyhoeddus yn bodloni gofynion ar hyn o bryd ac yn y dyfodol, drwy drin pobl a chymunedau fel asedau ac yn gyfartal wrth gynllunio a darparu gwasanaethau, nid dim ond fel derbynwyr gwasanaethau. Mae rhai pobl yn disgrifio hyn fel ‘cydgynhyrchu’, ac mae’n golygu datblygu gwasanaethau o amgylch yr unigolyn a’r gymuned a rhyddhau adnoddau posibl fel amser, arian ac arbenigedd i'w defnyddio ar y cyd â chymorth gan y wladwriaeth, nid yn lle'r cymorth hwnnw. Mae adnoddau’n cael llawer mwy o effaith wrth eu defnyddio mewn ffyrdd gwahanol a newydd sy’n cryfhau unigolion a chymunedau. Drwy'r Cynllun hwn byddwn yn gwneud yn siŵr bod y trefniadau ar gyfer gweithio gyda’r Trydydd Sector, ac ar gyfer cynllunio ac ariannu gwasanaethau cyhoeddus, yn ategu agwedd newydd at wasanaethau cyhoeddus sy’n seiliedig ar gydgynhyrchu.

Natur y berthynas

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i gydnabod a hybu’r Trydydd Sector. Mae Llywodraeth Cymru yn gwerthfawrogi’r Trydydd Sector am y cyfraniad mae’r sector yn ei wneud at les economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol hirdymor Cymru, ei phobl a’i chymunedau.

Rhaid i’r berthynas rhwng Llywodraeth Cymru a’r Trydydd Sector fod yn seiliedig ar onestrwydd, ymddiriedaeth a pharch at ei gilydd. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i weld y berthynas hollbwysig hon sydd wedi datblygu dros gyfnod hir yn aeddfedu, er lles pobl a chymunedau yng Nghymru.

Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod yr angen i weithio mewn partneriaeth â’r Trydydd Sector yn ogystal â gwasanaethau a chyrff cyhoeddus eraill, gan gynnwys awdurdodau lleol a byrddau iechyd lleol. Rhaid i bartneriaethau effeithiol fod yn seiliedig ar werthfawrogiad o gyfraniad unigryw pob parti.

Mae Llywodraeth Cymru yn disgwyl y bydd y Trydydd Sector yn cydnabod lle blaenaf Gweinidogion Cymru wrth lunio polisïau a deddfwriaethau. Yn ei thro, mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod cwmpas eang ac amrywiaeth gweithgarwch gwirfoddol ym mhob rhan o gymdeithas a’r cyfraniad y mae mudiadau gwirfoddol a chymunedol a gwirfoddolwyr unigol yn ei wneud at fywyd economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol, diwylliannol ac ieithyddol Cymru.

Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod hefyd bod mudiadau Trydydd Sector yn gyrff annibynnol sy’n penderfynu ar eu blaenoriaethau eu hunain ac yn rheoli eu materion eu hunain, a bod gan y Trydydd Sector ddyletswydd i gynrychioli buddiannau’r rheini mae’n eu cynrychioli. Cydnabyddir hefyd bod mudiadau Trydydd Sector yn gweithredu’n unol â’r egwyddorion y cawsant eu seilio arnynt. Maent yn atebol i’w haelodau a’r unigolion a’r cymunedau maent yn gweithio gyda nhw, ac i gyrff rheoleiddio fel y Comisiwn Elusennau.

Ar sail y gyd-ddealltwriaeth hon o rolau’i gilydd, cydnabyddir bod y Trydydd Sector yn bartner allweddol wrth lunio a chyflawni sawl agwedd ar bolisi cyhoeddus, ac o’r herwydd dylai ddatblygu partneriaethau cryf â llywodraeth genedlaethol a lleol.

O safbwynt gweithio ymarferol, mae’r berthynas rhwng Llywodraeth Cymru (a’r cyrff mae’n gyfrifol amdanynt) a’r Trydydd Sector yn un amlweddog, ac mae’n cynnwys:

  • rhannu safbwyntiau a gwybodaeth, drwy ganfod yn gynnar a phrosesau ymgynghori, am effaith y Trydydd Sector ar bolisi a gweithredu yn y dyfodol, a'r cyfraniad y gall y Trydydd Sector ei wneud
  • mynd ati ar y cyd i gynllunio, dylunio, monitro a gwerthuso rhaglenni a chynlluniau sy’n cynnwys y Trydydd Sector
  • ariannu mewn amrywiaeth eang o feysydd polisi, yn uniongyrchol ac yn anuniongyrchol
  • diddordeb cyffredin yn y modd mae gwasanaethau cyhoeddus ehangach yn rhyngweithio â’r Trydydd Sector

O fewn y cymhlethdod hwn mae’n bosibl nodi tri maes diddordeb pendant sy’n gorgyffwrdd, sy’n diffinio ac yn ffurfio diddordeb Llywodraeth Cymru yn y Trydydd Sector a’i chefnogaeth iddo:

  1. Cymunedau cryfach: sut mae pobl yn gwneud cyfraniad gwirfoddol at fywiogrwydd ac adfywiad eu cymunedau, yn darparu gofal ac yn helpu i feithrin hyder a sgiliau pobl; a’r cyfleoedd mae’r Trydydd Sector yn eu creu ar gyfer cyflogaeth a mentergarwch yn lleol.
  2. Gwell polisi: yr wybodaeth a’r arbenigedd sydd gan y sector i’w cynnig drwy ei brofiad rheng flaen o helpu i ffurfio polisïau, gweithdrefnau a gwasanaethau.
  3. Gwell gwasanaethau cyhoeddus: y rôl arloesol a gweddnewidiol y gall y Sector ei chwarae i helpu gwasanaethau cyhoeddus i gyrraedd mwy o bobl ac i fod yn fwy sensitif i’w hanghenion.

Cross cutting themes

Themâu trawsbynciol

Mae nifer o themâu trawsbynciol sy’n effeithio ar Lywodraeth Cymru a’r modd mae’n gweithredu ei swyddogaethau, ac mae'r Trydydd Sector wedi ymrwymo i hynny ac yn gwneud cyfraniad hollbwysig at hynny. Yn yr un modd bydd yr un themâu yn amlwg yn y ffordd mae Llywodraeth Cymru yn gweithredu ei swyddogaethau o safbwynt y Trydydd Sector.

Datblygu cynaliadwy

Datblygu cynaliadwy yw’r broses sy’n ein helpu i wneud gwell penderfyniadau sy’n sicrhau ein bod yn gwella lles cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol tymor hir Cymru. Mae’n rhoi pwyslais nid yn unig ar genedlaethau heddiw ond ar genedlaethau’r dyfodol hefyd, ac ar yr etifeddiaeth yr hoffem ei gadael i’n plant a’n wyrion. Datblygu cynaliadwy yw un o brif egwyddorion trefniadol Llywodraeth Cymru. Rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod datblygu cynaliadwy hefyd yn ganolog mewn gwasanaethau cyhoeddus ledled Cymru, a’i fod yn gweddnewid sut mae penderfyniadau’n cael eu gwneud. Mae ein fersiwn Gymreig o ddatblygu cynaliadwy’n ymgorffori ein gwerthoedd o degwch, cyfiawnder cymdeithasol a pharch at ein hamgylchedd.

Mae’r Trydydd Sector wedi bod yn helpu i sefydlu datblygu cynaliadwy fel ffordd arferol o weithio yng Nghymru ers amser maith, gan gynnig cefnogaeth a chyfleoedd i bobl fynd ati'n ymarferol i sicrhau cymunedau cynaliadwy a chadarn. Dyma rai enghreifftiau; y nifer fawr o fentrau o dan berchnogaeth y gymuned sy’n cynhyrchu canlyniadau triphlyg fel prosiectau tyfu bwyd a bwyd dros ben; trafnidiaeth gymunedol; rhaglenni arbed ynni ac ôl troed carbon; gwarchod natur a threftadaeth; a’r mentrau trosglwyddo asedau newydd i fudiadau Trydydd Sector yn ymwneud â thir, stoc tai neu ynni adnewyddadwy sy’n creu arian dros ben i’w fuddsoddi yn y gymuned. Mae nifer o’r prosiectau hyn wedi’u seilio ar yr ymwybyddiaeth nad oes modd cael cydlyniant cymunedol a ffyniant heb roi sylw i egwyddorion Datblygu Cynaliadwy a’r gwaith ymgysylltu a phartneriaeth sy’n gysylltiedig â hyn.

Yr Iaith Gymraeg

Mae Llywodraeth Cymru yn credu bod y Gymraeg yn rhan anhepgor o hunaniaeth Cymru ac mae wedi ymrwymo i greu Cymru wirioneddol ddwyieithog, lle gall pobl fyw eu bywydau drwy gyfrwng y Gymraeg, y Saesneg neu’r ddwy iaith. Mae Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 yn cadarnhau statws swyddogol y Gymraeg yng Nghymru ac mae wedi arwain at sefydlu rôl Comisiynydd y Gymraeg. Prif swyddogaeth y Comisiynydd yw hyrwyddo a hwyluso’r defnydd o’r Gymraeg. Bydd y Comisiynydd hefyd yn monitro ac yn gorfodi cydymffurfiaeth â safonau i’r graddau maent yn berthnasol i gategorïau cyrff sy’n rhan o’r Trydydd Sector. Mae Strategaeth Iaith Llywodraeth Cymru - Iaith fyw: iaith byw - a’i Chynllun Iaith Gymraeg, yn ceisio mynd ati i brif ffrydio’r iaith ymhellach ym mhob agwedd ar waith Llywodraeth Cymru, yn ogystal â chynyddu’r defnydd o’r Gymraeg yng nghymunedau Cymru.

Mae cyfraniad y Trydydd Sector yn hanfodol i oroesiad a thwf y Gymraeg fel iaith gymunedol gan ei fod yn creu cyfleoedd i bobl wirfoddoli, ac mae’n darparu gwasanaethau gwirfoddol yn Gymraeg, yn ogystal â dathlu’r iaith a’r traddodiadau sydd ynghlwm wrthi. Mae Llywodraeth Cymru yn credu dylid sicrhau cyfle cyfartal i ddefnyddwyr gwasanaeth ddefnyddio’r Gymraeg a’r Saesneg yn y Trydydd Sector; bod gwirfoddolwyr Cymraeg eu hiaith ym mhob rhan o Gymru a bod y Gymraeg yn cael ei phrif ffrydio ym mhob datblygiad polisi a dyraniad ariannu.

Cydraddoldeb ac amrywiaeth

Mae Deddf Cydraddoldeb 2010 a’r rheoliadau dyletswyddau cydraddoldeb sector cyhoeddus sy’n benodol i Gymru yn gosod dyletswyddau ar awdurdodau perthnasol yng Nghymru, gan gynnwys y gofyniad i gyhoeddi amcanion cydraddoldeb. Mae’n ofynnol bod awdurdodau’n cyhoeddi datganiad sy’n amlinellu’r camau a gymerwyd er mwyn cyflawni pob amcan cydraddoldeb ynghyd â monitro cynnydd tuag at gyflawni’r amcanion hynny. Mae Llywodraeth Cymru am greu cymdeithas deg heb wahaniaethu, aflonyddu ac erledigaeth gyda chymunedau cydlynus a chynhwysol. Bydd ei Hamcanion Cydraddoldeb (sy’n dod o fewn y Cynllun Cydraddoldeb Strategol) yn helpu i sicrhau bod gwasanaethau cyhoeddus a chyflogaeth yn deg, yn hygyrch ac yn ymatebol i anghenion pobl, a bod cymunedau’n gynhwysol. Ni ddylai pobl gael eu trin yn llai ffafriol oherwydd eu rhyw, hil, ffydd neu gred, cyfeiriadedd rhywiol, oedran, beichiogrwydd a mamolaeth, bod yn briod neu mewn partneriaeth sifil, bod yn berson anabl, neu’n drawsrywiol. Mae’r amcanion hyn yn sail i waith Llywodraeth Cymru, gan sicrhau dull cydlynus o gyflawni gwell canlyniadau i bobl Cymru.

Mae cyfraniad y Trydydd Sector yn allweddol er mwyn hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, helpu pobl i herio triniaeth annheg, a helpu cyrff cyhoeddus i wella’r ffyrdd maent yn cyflawni eu dyletswyddau cydraddoldeb. Mae’n cynnig gwasanaethau eirioli a chyngor, gweithgareddau diwylliannol, cymorth arbenigol a chyfleoedd trefnu i grwpiau lleiafrifol a difreintiedig, sy'n helpu i ddatblygu cymdeithas fwy cynhwysol.

Mynd i’r afael â thlodi

Mae Llywodraeth Cymru am fynd i’r afael â thlodi drwy ei holl waith. Gyda’i gilydd, mae Gweinidogion Cymru yn benderfynol o edrych ar bob cyfle i atal ac i leihau tlodi yng Nghymru. Mae’r Cynllun Gweithredu ar gyfer Trechu Tlodi (2013) yn dangos y bydd adnoddau, ym mhob rhan o’r Llywodraeth, yn cael eu defnyddio i helpu’r rheini â’r angen mwyaf ac i geisio atal cenedlaethau’r dyfodol rhag profi tlodi. Mae nifer o raglenni sy’n ein galluogi i ymestyn i’r cymunedau y mae tlodi’n effeithio fwyaf arnynt, a chydlynu’r hyn rydym yn ei wneud ym mhob rhan o’r Llywodraeth i helpu’r bobl sy’n byw yno. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i helpu i wella cyrhaeddiad addysgol plant o deuluoedd ar incwm isel; i helpu mwy o bobl i gael gwaith, yn enwedig rhai ar aelwydydd lle nad oes neb mewn swydd gyflogedig; ac i leihau mewn ffordd ystyrlon nifer y bobl ifanc yng Nghymru nad ydynt yn ennill cyflog nac yn dysgu. Bydd Llywodraeth Cymru yn gweithio i sicrhau bod pawb, ni waeth pa mor dlawd ydynt na pha mor ddifreintiedig yw’r ardal maent yn byw ynddi, yn cael mynediad cyfartal a theg at wasanaethau hanfodol. Credwn os gellir gwneud cynnydd yn y pedwar maes allweddol hwn, yna gall yr effaith weddnewid bywydau llawer o bobl ym mhob rhan o Gymru.

Mae’r Trydydd Sector yn cyfrannu’n sylweddol at y gwaith o fynd i’r afael ag achosion ac effeithiau tlodi drwy helpu pobl i fanteisio’n llawn ar fudd-daliadau a rheoli arian a dyledion, drwy gynghori ynghylch tai a chyflogaeth, drwy gynlluniau cyflogaeth a hyfforddiant, drwy fanciau bwyd a drwy wasanaethau cymunedol eraill. Er enghraifft, mae darparwyr cyngor annibynnol yn dal i gynnig cyngor annibynnol i filoedd o bobl ledled Cymru er mwyn lleihau effaith diwygio lles drwy sicrhau bod pobl yn hawlio budd-daliadau, bod unigolion a theuluoedd yn cael yr incwm mwyaf sydd ar gael iddynt, yn osgoi digartrefedd a'u helpu i reoli eu harian ac ymdopi â’u dyledion.