Cynllun y Trydydd Sector - 1. Cyflwyniad
Sut y byddwn yn gweithio gyda mudiadau gwirfoddol, yn eu cynorthwyo a’u hariannu.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Y sefyllfa statudol
Gwneir y Cynllun hwn o dan Adran 74 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 sy’n ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru wneud cynllun sy’n amlinellu sut maent yn bwriadu hybu, wrth gyflawni eu swyddogaethau, fuddiannau mudiadau gwirfoddol perthnasol. Dangosir Adran 74 isod. Mae’r Cynllun hwn yn defnyddio’r term “trydydd sector” yn hytrach na sector gwirfoddol a “chynllun y trydydd sector” yn hytrach na chynllun y sector gwirfoddol.
Section 74
- The Welsh Ministers must make a scheme (“the voluntary sector scheme”) setting out how they propose, in the exercise of their functions, to promote the interests of relevant voluntary organisations.
- In this section “relevant voluntary organisations’’ means bodies (other than local authorities or other public bodies) whose activities:
- are carried on otherwise than for profit, and
- directly or indirectly benefit the whole or any part of Wales (whether or not they also benefit any other area).
- In determining the provision to be included in the voluntary sector scheme, the Welsh Ministers must consider how they intend to exercise such of their functions as relate to matters affecting, or of concern to, relevant voluntary organisations.
- The voluntary sector scheme must specify:
- how the Welsh Ministers propose to provide assistance to relevant voluntary organisations (whether by grants, loans, guarantees or any other means),
- how the Welsh Ministers propose to monitor the use made of any assistance provided by them to relevant voluntary organisations, and
- how the Welsh Ministers propose to consult relevant voluntary organisations about the exercise of such of their functions as relate to matters affecting, or of concern to, such organisations
- The Welsh Ministers:
- must keep the voluntary sector scheme under review, and
- may from time to time remake or revise it.
- Before making, remaking or revising the voluntary sector scheme, the Welsh Ministers must consult such relevant voluntary organisations as they consider appropriate.
- The Welsh Ministers must publish the voluntary sector scheme when they make it and whenever they remake it; and, if they revise the scheme without remaking it, they must publish either the revisions or the scheme as revised (as they consider appropriate).
- If the Welsh Ministers publish a scheme or revisions under subsection (7) they must lay a copy of the scheme or revisions before the Assembly.
- After each financial year the Welsh Ministers must:
- publish a report of how the proposals set out in the voluntary sector scheme were implemented in that financial year, and
- lay a copy of the report before the Assembly.
Mae’r ddeddfwriaeth hon yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru wneud Cynllun. Mae Cynllun y Trydydd Sector yn ddatganiad o fwriad Gweinidogion Cymru i ddatblygu eu perthynas â’r Trydydd Sector ac nid yw Deddf 2006 yn datgan bod ganddo unrhyw effaith rwymol. Efallai y bydd amgylchiadau pan na ellir cyflawni’r bwriadau.
Cafodd y Cynllun ei ddiwygio’n ffurfiol ddiwethaf yn 2004. Yn dilyn ymgynghoriad Llywodraeth Cymru; Parhad a Newid: Adnewyddu’r Berthynas rhwng Llywodraeth Cymru a’r Trydydd Sector yng Nghymru, (Mai-Awst 2013); cafodd y Cynllun hwn a’i Atodiadau eu diwygio i ddiweddaru’r fframwaith polisi sy’n sail i’r berthynas hon.
Mae Gweinidogion Cymru yn disgwyl i bob aelod o’r Cabinet, Dirprwy Weinidog a swyddog hybu buddiannau’r Trydydd Sector yn eu gwaith a’u prosesau penderfynu, a byddant yn:
- Cynnal trefniadau ar gyfer ymgysylltu ac ymgynghori ystyrlon â’r Trydydd Sector (Pennod 3)
- Cynnal trefniadau ar gyfer cynnal cymunedau a gwirfoddolwyr (Pennod 4)
- Cynnal trefniadau i gynnal seilweithiau sy’n galluogi’r Trydydd Sector i ffynnu (Pennod 5)
- Ymdrechu i lynu wrth y Cod Ymarfer ar gyfer Ariannu’r Trydydd Sector a geir fel Atodiad i’r Cynllun hwn
Y cod Ymarfer ar gyfer Ariannu’r Trydydd Sector
Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod bod yn rhaid i’w fframwaith polisi Trydydd Sector gynnwys mesurau i gynorthwyo’r sector fel yr amlinellwyd yn is-adran (4) (a) y ddeddfwriaeth uchod. Bydd lefel yr adnoddau ariannol a fydd ar gael yn penderfynu faint o gymorth o’r fath y gellir ei ddarparu ar ffurf grantiau ac ati, a bydd angen i gronfeydd gael eu targedu yn ôl blaenoriaethau Llywodraeth Cymru. Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn cydnabod ei rôl i sicrhau bod gan y Trydydd Sector fynediad teg a rhesymol at arian cyhoeddus.
Yn ei holl swyddogaethau, mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i sefydlu a chynnal gweithdrefnau i sicrhau arferion gorau cydnabyddedig wrth weinyddu ei chynlluniau grant a rhai'r asiantaethau hynny sy’n gweinyddu cronfeydd ar ei rhan.
Bydd Llywodraeth Cymru yn cynnal, yn defnyddio, ac yn hyrwyddo’r Cod Ymarfer ar gyfer Ariannu’r Trydydd Sector yn Atodiad A, sy’n amlinellu’r prif egwyddorion a fydd yn sail i gyllid Llywodraeth Cymru ar gyfer y Trydydd Sector yn ogystal â’r hyn y mae’r Llywodraeth yn disgwyl ei gael yn ôl gan y Trydydd Sector.
Mae’r Cod Ymarfer ar gyfer Ariannu’r Trydydd Sector a’r telerau ac amodau’n cael eu cyhoeddi ar yr adeg pan wneir y grant ac mae’n egluro sut y bydd Llywodraeth Cymru yn monitro’r defnydd a wneir o unrhyw gymorth a roddir ganddi i fudiadau perthnasol.
Mae’r Cod Ymarfer ar gyfer Ariannu’r Trydydd Sector yn cael ei fonitro gan Is-bwyllgor Ariannu a Chydymffurfiaeth Cyngor Partneriaeth y Trydydd Sector.
Mae’r Cod Ymarfer ar gyfer Ariannu’r Trydydd Sector yn rhan anhepgor o’r Cynllun. Oherwydd hynny, os caiff y Cod ei ail lunio neu ei ddiwygio rhaid gwneud hynny’n unol â gofynion statudol adran 74.
Diffinio’r Trydydd Sector
Mae Adran 74 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (fel yr amlinellwyd ym Mhennod Un uchod) yn diffinio ‘relevant voluntary organisations’ fel:
…bodies other than local authorities (or other public bodies) whose activities:
- are carried on otherwise than for profit, and
- directly or indirectly benefit the whole or any part of Wales (whether or not they also benefit any other area
Mae ‘y Trydydd Sector’ yn cael ei ddefnyddio yn y Cynllun hwn a chan Lywodraeth Cymru fel disgrifiad cynhwysol ac eang iawn o ystod o fudiadau sy’n rhannu cyfres o werthoedd a nodweddion. Cydnabyddir yn gyffredinol bod mudiadau Trydydd Sector:
- yn gyrff annibynnol, anllywodraethol
- wedi eu sefydlu’n wirfoddol gan bobl sy’n dewis trefnu eu hunain; yn cael eu ‘gyrru gan werth’ a’u cymell gan amcanion cymdeithasol, diwylliannol neu amgylcheddol, yn hytrach na gwneud elw’n unig
- wedi ymrwymo i ail-fuddsoddi eu gweddill ariannol i hybu eu nodau cymdeithasol er budd pobl a chymunedau yng Nghymru
Hyd yn oed gyda’r ymagwedd hon sy’n seiliedig ar werthoedd cyffredin, mae ystod eang o fudiadau sy’n rhan o’r Trydydd Sector, gan gynnwys cymdeithasau cymunedol, grwpiau hunangymorth, mudiadau gwirfoddol, elusennau, mudiadau ffydd, mentrau cymdeithasol, busnesau cymunedol, cymdeithasau tai, ymddiriedolaethau datblygu, mudiadau cydweithredol a chydfuddiannol.
Mae Almanac Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru 2013 yn dangos bod y Trydydd Sector yng Nghymru yn cynnwys:
- 33,000 o fudiadau
- 230,000 o ymddiriedolwyr
- 1.13m o wirfoddolwyr a phobl sy’n helpu yn eu cymuned 51,000 o gyflogeion
- 1.15 Mae ymchwil gan WCVA yn dangos bod incwm y Trydydd Sector yn
- £1.6 biliwn yn 2013, a’i fod yn cael ei ategu gan 2.4% o gyllideb Llywodraeth Cymru
Mae strwythurau, ffurfiau a hunaniaeth gyfreithiol mudiadau Trydydd Sector hefyd yn amrywio’n sylweddol. Maent yn cynnwys mudiadau anghorfforedig, elusennau cofrestredig ac anghofrestredig, cwmnïau cyfyngedig drwy warant (a all fod yn elusennau cofrestredig hefyd), a chwmnïau buddiannau cymunedol, mudiadau elusennol corfforedig a Chymdeithasau Diwydiannol a Darbodus.
Er bod mudiadau unigol yn galw eu hunain yn fudiadau gwirfoddol, grwpiau cymunedol neu fentrau cymdeithasol, mae’r gwahaniaeth rhwng categorïau o’r fath yn aml yn amwys ac mae dadl gref o hyd dros edrych arnynt gyda’i gilydd fel Trydydd Sector sy’n gwneud cyfraniad hynod bwysig at fywyd Cymru.
