Sut rydym yn symud ymlaen gyda'n cynllun i ddod â thlodi mislif i ben a sicrhau urddas mislif yng Nghymru.
Cynnwys
Y cefndir
Lansiwyd Cynllun Gweithredu Cymru sy'n Falch o'r Mislif ar 15 Chwefror 2023 drwy ddatganiad ysgrifenedig.
Mynediad at nwyddau
Cam Gweithredu 1: mae Rhaglen Lywodraethu Llywodraeth Cymru yn ymrwymo i ehangu'r ddarpariaeth mislif am ddim mewn cymunedau ac yn y sector preifat
Yn ystod 2025 i 2026, byddwn yn rhoi £3.45 miliwn i awdurdodau lleol i sicrhau bod nwyddau mislif am ddim ar gael i:
- ysgolion
- colegau addysg bellach
- sefydliadau cymunedol
Rydym hefyd wedi rhannu ein cynllun gyda rhanddeiliaid yn y sector preifat ac mewn undebau llafur.
Rydym yn gweithio i rannu gwybodaeth yn ehangach drwy weminarau, cylchlythyrau a rhwydweithiau.
Cam Gweithredu 2: cynnal gwerthusiad o effaith y grant urddas mislif ar gyfer y cyfnod 2018 i 2022 a defnyddio canfyddiadau'r gwerthusiad i fabwysiadu dull strategol, hirdymor o ddarparu nwyddau mislif ledled Cymru
Cyhoeddwyd yr adroddiad gwerthuso ym mis Hydref 2023. Rydym wedi gwneud cynnydd yn erbyn y camau canlynol.
Mapio’r rhwydweithiau cymunedol a'r sefydliadau ar lawr gwlad mewn cymunedau i sicrhau bod y grant yn cyrraedd yr ardaloedd hynny sydd â'r angen mwyaf.
Mae awdurdodau lleol yn adrodd ddwywaith y flwyddyn ynghylch ble yn y gymuned mae cynhyrchion mislif yn cael eu dosbarthu, gan gynnwys sut maen nhw'n cyrraedd at grwpiau anoddach cyrraedd atynt. Mae Llywodraeth Cymru yn adolygu'r wybodaeth hon.
Mwy o hyblygrwydd o ran sut a phryd y caiff arian ei wario
Dim ond yn ystod y flwyddyn ariannol gyfredol, rhwng mis Ebrill a mis Mawrth, y gellir gwario cyllid a ddyrannwyd. Cynhelir cyfarfodydd monitro ddwywaith y flwyddyn gyda phob awdurdod lleol i ddarparu cymorth a sicrhau eu bod yn gwario'r grant a ddyrannwyd iddynt yn y flwyddyn ariannol gyfredol. Ym mis Medi 2025 dyfarnwyd cyllid ychwanegol i dri ar ddeg o awdurdodau lleol i gefnogi prosiectau ychwanegol.
Dylai Llywodraeth Cymru geisio cynnwys costau gweinyddu, yn enwedig ar gyfer awdurdodau lleol
Ers mis Ebrill 2023 caniateir i awdurdodau lleol ddefnyddio hyd at 12.5% o gyfanswm y grant ar ariannu costau gweinyddol.
Gwella'r ffordd y mae'r grant yn cael ei fonitro
Mae newidiadau wedi'u gwneud i'r ffurflen monitro hawliadau grant, gan wella ansawdd a chysondeb y data a gesglir.
Mae Arweinwyr Urddas Mislif hefyd yn cynhyrchu astudiaethau achos ar brosiectau effeithiol, ac mae'r rhain yn cael eu rhannu'n rheolaidd gyda'r holl Arweinwyr Urddas Mislif.
Canllawiau a lleihau stigma
Cam Gweithredu 3: mae Rhaglen Lywodraethu Llywodraeth Cymru yn ymrwymo i ymgorffori urddas mislif mewn ysgolion
Ar gyfer 2025 i 2026, mae awdurdodau lleol yn cadw'r gallu i wario hyd at 20% o'r grant ar hyfforddiant ac addysg i ddysgwyr, athrawon ac aelodau o'r gymuned.
Ym mis Tachwedd 2024, dyfarnwyd contract gennym i gynhyrchu ystod o adnoddau sy'n ymwneud â'r cwricwlwm iechyd a lles. Bydd yr adnoddau hyn, a fydd ar gael yn ystod haf 2026, yn cefnogi dysgu ar les mislif.
Mae gan Plan UK Raglen Cyfoedion Mislif sy'n anelu at gefnogi pobl ifanc i ddod yn gyfoedion mislif i'w gilydd, ac yn arwain sefydliadau sy'n gweithio gyda phobl ifanc ar ddod yn amgylcheddau sy'n falch o'r mislif.
Ym mis Rhagfyr 2025 lansiwyd deunyddiau dysgu newydd gan y Rhwydwaith Iechyd Menywod , wedi'u cyd-gynllunio gyda phobl ifanc a gweithwyr iechyd proffesiynol. Nod y rhain yw codi ymwybyddiaeth a chefnogi sgyrsiau am y mislif, endometriosis ac iechyd menywod yn ehangach gyda phobl ifanc rhwng 11 a 16 oed.
Maent wedi'u cynllunio i'w defnyddio gan y canlynol:
- pobl ifanc
- ysgolion, nyrsys ysgol a thimau lles/bugeiliol
- rhieni a gofalwyr
Cam Gweithredu 4: gweithio gyda’n hundebau llafur, gwasanaethau cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector i greu canllawiau a hyrwyddo polisïau ar urddas mislif a’r menopos, ac i sicrhau bod adnoddau urddas mislif addysgol ac ymarferol ar gael
Mae Busnes Cymru wedi hyrwyddo'r Safon Menopos newydd, a gyhoeddwyd gan y Sefydliad Safonau Prydeinig. Mae Busnes Cymru yn hyrwyddo adnoddau urddas mislif addysgol ac ymarferol drwy eu sianeli ar-lein.
Mae'r Little Book of Menstruation, Menstrual Health and menopause yn darparu cyflwyniad addysgiadol i Safon Menopos Sefydliad Safonau Prydain i gefnogi sefydliadau o bob maint i ddechrau trafodaethau ynghylch y menopos ac iechyd mislif gyda'u gweithwyr.
Ym mis Chwefror 2024, cyhoeddodd y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol Menopos yn y gweithle: canllawiau i gyflogwyr. Mae'r adnoddau rhad ac am ddim wedi'u cynllunio i helpu cyflogwyr i ddeall eu rhwymedigaethau cyfreithiol wrth gefnogi gweithwyr sy'n profi symptomau menopos.
Bu Busnes Cymru yn hyrwyddo Mis Ymwybyddiaeth y Menopos ym mis Hydref 2025 drwy eu sianeli ar-lein, gan gyfeirio at dudalennau cymorth Cymru Iach ar Waith, i godi ymwybyddiaeth ymhellach a darparu adnoddau ymarferol i gyflogwyr a gweithwyr.
Cafodd Deddf Hawliau Cyflogaeth 2025 Gydsyniad Brenhinol ym mis Rhagfyr ac mae'n anelu at gryfhau hawliau cyflogaeth, gan ei gwneud yn ofynnol i gyflogwyr gyda 250+ o staff gyhoeddi cynlluniau gweithredu cydraddoldeb rhywedd sy'n mynd i'r afael â bylchau cyflog a chymorth menopos o 2027 ymlaen.
Cam Gweithredu 5: bydd Llywodraeth Cymru, drwy gydweithrediad y gweithgor cydraddoldeb a gweithgor menopos y staff, yn adolygu, ac yn ailgyhoeddi ein polisi menopos, gan weithio i gynnwys deunydd ehangach ar urddas mislif
Ym mis Chwefror 2024, cyhoeddwyd canllawiau a gweithdrefnau'r adran Adnoddau Dynol ar y mislif a'r menopos i staff Llywodraeth Cymru. Byddwn yn ail-anfon cyfathrebiadau mewnol ar ôl eu hadolygu.
Mae rhaglen newydd i godi ymwybyddiaeth o'r menopos - 'Menopositive' - bellach ar gael i'r holl staff. Mae'r rhaglen yn cynnwys hyfforddiant ar:
- gael sgyrsiau hyderus gyda chydweithwyr am y menopos
- cyfeirio cydweithwyr at wybodaeth gredadwy a ffeithiol gywir sy'n seiliedig ar dystiolaeth
- ymchwilio i atebion a syniadau ar gyfer addasiadau rhesymol
- sut i gofnodi ac adrodd yn gywir am salwch sy'n gysylltiedig â'r menopos.
Yr amgylchedd a datblygiadau rhyngwladol
Cam Gweithredu 6: cynyddu’r ddarpariaeth o nwyddau di-blastig, nwyddau â llai o gynnwys plastig, llai o ddeunydd pacio plastig, llai o ddeunydd pacio’n gyffredinol neu gynhyrchion di-blastig y gellir eu hailddefnyddio flwyddyn ar ôl blwyddyn
Ar gyfer 2025 i 2026, byddwn yn cynyddu'r gofyniad o ran canran arian y Grant Urddas Mislif a gaiff ei wario ar nwyddau mislif sy'n gyfeillgar i'r amgylchedd i 80%.
Rhwng mis Ebrill 2025 a mis Medi 2026, roedd 97% o'r nwyddau a brynwyd yn gyfeillgar i'r amgylchedd.
Byddwn yn cynyddu'r gwariant canrannol ar nwyddau mislif ecogyfeillgar bob blwyddyn am y 3 blynedd nesaf. Ein nod yw sicrhau bod 90% i 100% o'r holl nwyddau mislif a brynir drwy'r Grant Urddas Mislif yn ecogyfeillgar erbyn 2027.
Mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gydag adrannau Llywodraeth y DU i ddeall y safonau ar gyfer cynhyrchion mislif di-wenwyn ac sy'n gyfeillgar i'r amgylchedd, fel bod canllawiau a gofynion yn y dyfodol yn seiliedig ar y dystiolaeth orau sydd ar gael.
Cam Gweithredu 7: ymestyn Cynllun Grantiau Bach Cymru ac Affrica i hyrwyddo prosiectau urddas mislif yn Affrica Is-Sahara yn bwrpasol
Mae cyllid grant ar gael i sefydliadau Cymreig gan Gyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru a Hub Cymru Africa i gefnogi prosiectau.
Ym mis Ebrill 2025, gwnaeth Prosiect Cydweithredol Menywod Chomuzangari yn Zimbabwe gyflwyniad yng nghyfarfod y Ford Gron Urddas Mislif. Yn 2023, dyfarnwyd cyllid iddynt i ddarparu nwyddau a hyfforddiant i wella iechyd a lles menywod a merched, a’u lefelau presenoldeb yn yr ysgol. Fe wnaeth hyn hefyd ddarparu cyfleoedd cyflogaeth a lleihau effaith amgylcheddol padiau tafladwy.
Yn 2024, neilltuwyd £90,000 ychwanegol ar gyfer hyn, gan ganolbwyntio ar gyfrannu at gydraddoldeb rhwng y rhywiau, gan gynnwys urddas mislif.
Roedd un o’r prosiectau a gyllidwyd i hyrwyddo cydraddoldeb rhwng y rhywiau yn cael ei redeg gan Maint Cymru, gan weithio gyda menywod yn Uganda. Mae Prosiect Hyrwyddo Cydraddoldeb rhwng y Rhywiau er Budd Cadernid ac Ymaddasu i’r Hinsawdd yn gweithio i arfogi menywod â’r sgiliau a’r adnoddau sydd eu hangen i greu padiau mislif amldro. Yn y broses, mae’n helpu i wneud y gymuned yn gryfach yn wyneb effeithiau economaidd a chymdeithasol y newid yn yr hinsawdd, ac yn ei helpu i addasu yn eu sgil.
Ymgysylltu, Cydraddoldeb a Chynhwysiant
Cam Gweithredu 8: sicrhau bod modd cael gafael ar nwyddau, a bod canllawiau yn cael eu creu ar sail egwyddor ganolog cydraddoldeb a chynhwysiant
Mae cyfarfodydd monitro rheolaidd a gwelliannau i ffurflen fonitro'r grant yn cael eu defnyddio. Gwneir hyn er mwyn casglu data a chefnogi trafodaethau gyda phob awdurdod lleol. Mae hyn yn sicrhau eu bod yn cyrraedd grwpiau blaenoriaeth yn eu hardaloedd.
Ym mis Mehefin 2025, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ganllawiau cymunedol i gefnogi lleoliadau cymunedol sy’n cynnig nwyddau mislif am ddim a chefnogaeth.
Cam Gweithredu 9: cryfhau’r cysylltiadau rhwng arweinyddion urddas mislif awdurdodau lleol, gwasanaethau gofalwyr di-dâl statudol a sefydliadau gofalwyr y trydydd
sector i wella mynediad at wybodaeth a chyngor, gwasanaethau cymorth priodol a lle y gellir cael gafael ar nwyddau mislif
Rydym yn gweithio i godi ymwybyddiaeth ymhlith sefydliadau gofalwyr a rhwydweithiau o'r Grant Urddas Mislif. Rydym yn cynghori arweinwyr dynodedig ym mhob awdurdod lleol ynghylch sut y gellir cael gafael ar nwyddau.
Ym mis Awst 2025, defnyddiodd Cyngor Sir Powys y Grant Urddas Mislif i ddarparu nwyddau mislif am ddim i ofalwyr ifanc yn yr Ŵyl Gofalwyr Ifanc yn Llanfair-ym-Muallt.
Mae’r Ymddiriedolaeth Gofalwyr hefyd wedi rhannu mwy o wybodaeth am y Grant Urddas Mislif drwy eu sianeli cyfathrebu.
Cam Gweithredu 10: mewn partneriaeth â Chwaraeon Cymru, asesu effaith y mislif ar fenywod, merched a phobl sy’n cael mislif o ran cymryd rhan mewn chwaraeon ac ymarfer corff ac ystyried opsiynau i wella a chynnal lefelau cyfranogi ar gyfer y rhai sy’n cael mislif
Rydym yn gweithio ochr yn ochr â Chwaraeon Cymru i ddeall effaith y mislif ar gyfranogiad unigolion mewn chwaraeon. Rydym yn datblygu cyfres o gamau gweithredu i fynd i'r afael â'r heriau a nodwyd.
Mae Chwaraeon Cymru yn cynnal gweithdai chwarterol ar-lein i rannu enghreifftiau o arferion gorau â chyrff llywodraethu chwaraeon ynghylch sut i gefnogi menywod, merched a phobl sy'n cael mislif i gymryd rhan mewn chwaraeon. Cynhaliwyd y gweithdy diweddaraf ym mis Rhagfyr 2025.
Mae'r gweithdai hyn yn dilyn digwyddiadau bord gron a gynhaliwyd yn 2024, pan gasglwyd safbwyntiau gan ystod o gyrff chwaraeon drwy eu Cyrff Llywodraethu Cenedlaethol a'u clybiau ynghylch yr heriau a'r rhwystrau sy'n gallu codi yn sgil mislif o ran cymryd rhan mewn chwaraeon.
Mae gwaith yn parhau ar y camau hyn, ac un ohonynt yw gwella ein dealltwriaeth o'r anawsterau y mae pobl ifanc yn eu hwynebu wrth gymryd rhan mewn chwaraeon o ganlyniad i'r mislif. Mae Chwaraeon Cymru wedi cynnal sesiynau gyda nifer o glybiau chwaraeon i siarad â phobl ifanc ac mae Plant yng Nghymru wedi ymgymryd â gwaith ar ran Llywodraeth Cymru i ymgysylltu â phobl ifanc.
Cynhaliodd Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru adolygiad cyflym o'r dystiolaeth bresennol mewn perthynas ag effaith y mislif ar gyfranogiad unigolion mewn chwaraeon. Ar sail canfyddiadau'r ymchwil, rydym yn gwybod mwy am sut y gallwn weithio'n well o ran gwella a chynnal lefelau cyfranogi'r rhai sy'n cael mislif.
