Neidio i'r prif gynnwy

Y Rhaglen Tai Arloesol

Sefydlwyd Rhaglen Tai Arloesol (RTA) Llywodraeth Cymru yn 2017 i gefnogi arloesedd ym maes datblygu tai ledled Cymru. Mae’r rhaglen yn targedu elfennau hanfodol yn y gadwyn gyflenwi tai, gan gynnwys technegau adeiladu, llwybrau darparu, a modelau tai.

Nodau’r rhaglen ar gyfer yr ail flwyddyn (2018 i 2019) oedd:

  • cynyddu’r cyflenwad o dai fforddiadwy yng Nghymru
  • cefnogi’r saith nod sydd wedi’u cynnwys yn Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 (y Ddeddf Llesiant)    
  • mynd i’r afael â chost a gwerth cartrefi newydd a datblygu tai sy’n diwallu anghenion tai presennol ac yn y dyfodol
  • cefnogi arloeswyr drwy ddefnyddio dulliau amgen a dangos manteision dulliau o’r fath i annog eu mabwysiadu
  • manteisio ar gyfleoedd i ddarparu swyddi a hyfforddiant sgiliau a datblygu diwydiannau lleol
  • lledaenu canfyddiadau allweddol yn gyhoeddus a sicrhau dysgu i’r eithaf

Amcanion a methodoleg

Canolbwyntiodd yr ymchwil yn benodol ar nodi rhwystrau cynllunio, heriau adeiladu, materion gweithlu, a’r manteision a brofwyd gan y cynlluniau datblygu hyn.

Er mwyn cynnal yr ymchwil hwn, datblygwyd dull cymysg a oedd yn cyd-fynd â Llyfr Magenta Trysorlys EF: Canllaw Llywodraeth Ganolog ar Werthuso (2020). Cyflawnwyd y gwaith drwy ddefnyddio dulliau ymchwil ansoddol a meintiol, gan gynnwys dadansoddi data monitro cynlluniau, setiau data eilaidd, a chyfweliadau. Roedd data monitro ar gael ar gyfer 13 o gynlluniau yn ail flwyddyn y RTA ar gyfer dadansoddi meintiol, a chynhaliwyd 33 o gyfweliadau gyda datblygwyr, adeiladwyr a rhanddeiliaid datblygu eraill.

Prif ganfyddiadau: gwersi a ddysgwyd

Cynllunio

Yn gyffredinol, roedd cynllunwyr awdurdodau lleol yn derbyn y dulliau arloesol a gynigiwyd yn ystod ail flwyddyn y RTA. Nododd chwe datblygwr eu bod o’r farn bod ennill cefnogaeth cynllunwyr ar gyfer y cynlluniau arloesol hyn bellach yn gymharol i ennill cefnogaeth ar gyfer datblygiadau mwy traddodiadol. Gwelwyd cynllunwyr fel rhai’n ystyried dulliau arloesol -o adeiladau modiwlar i dechnolegau effeithlon o ran ynni—yn hanfodol ar gyfer moderneiddio tai. Fodd bynnag, parhaodd heriau rheoleiddiol penodol, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig lle’r oedd cyfyngiadau cynllunio llym yn cyfyngu ar gwmpas datblygiadau neu lle nad oedd dyluniadau arloesol yn cyd-fynd yn dda â’r canllawiau presennol. Nododd rhai datblygwyr hefyd anghysondeb rhwng dyluniadau arloesol a rheoliadau cynllunio, a arweiniodd at ansicrwydd ac anawsterau ymarferol yn y broses gymeradwyo.

Profiwyd bod gwrthwynebiadau cymunedol i gynlluniau yn ffynhonnell oedi a chymhlethdodau wrth sicrhau caniatâd cynllunio ar gyfer sawl cynllun. Roedd y gwrthwynebiadau hyn yn aml yn nodweddiadol o’r rhai sy’n ymwneud â datblygiadau tai cymdeithasol, gyda thrigolion yn codi pryderon ynghylch parcio neu ymddygiad gwrthgymdeithasol posibl. Tanlinellwyd pwysigrwydd ymgysylltu’n gynnar ac yn dryloyw â chymunedau lleol fel gwers allweddol, yn enwedig pan oedd prosiectau’n cynnwys elfennau sensitif neu botensial dadleuol. Roedd gwell cyfathrebu, gan gynnwys cyfarfodydd cymunedol rheolaidd a diweddariadau tryloyw, yn helpu i fynd i’r afael â phryderon a’u lleddfu, gan hyrwyddo derbyniad cymunedol.

Yn adlewyrchu canfyddiadau o adroddiad Gwersi a Ddysgwyd Blwyddyn Un y RTA, credai datblygwyr fod ymddangosiad dyluniadau arloesol wedi arwain at wrthwynebiad mewn rhai achosion, yn enwedig mewn lleoliadau traddodiadol. Roedd pryderon gan awdurdodau cynllunio a chymunedau’n canolbwyntio’n bennaf ar estheteg yn hytrach na’r manteision defnyddiol neu amgylcheddol o’r prosiectau. Roedd addasiadau i’r dyluniadau, a gafodd eu llywio gan ymgysylltiad cynnar â’r gymuned, yn helpu i gyfuno datblygiadau â’r arddulliau pensaernïol presennol. Dewisodd rhai datblygwyr gynnal estheteg draddodiadol tra’n integreiddio technoleg arloesol i wella derbyniad. Dangosodd y dull hwn bwysigrwydd ystyried estheteg leol wrth ddylunio adeiladau i leihau gwrthwynebiad a sicrhau cefnogaeth y gymuned.

Strategaethau datblygu

Nododd datblygwyr yr heriau economaidd sy’n gysylltiedig â datblygu prosiectau tai arloesol. Wynebodd cynlluniau heriau ariannol sylweddol, yn bennaf oherwydd y costau uwch sy’n gysylltiedig â defnyddio dulliau adeiladu arloesol o gymharu ag adeiladau traddodiadol, gyda phrosiectau arloesol yn aml yn gofyn am fuddsoddiad uwch yn y cyfnod cynnar. Mae’r costau hyn yn uwch oherwydd y buddsoddiadau ychwanegol sydd eu hangen ar gyfer cydrannau cyn-gynhyrchu, logisteg, a pheiriannau arbenigol, sydd fel arfer yn fwy na’r rhai ar gyfer dulliau adeiladu traddodiadol. Cydnabuwyd gan ddatblygwyr a phartneriaid adeiladu fod y baich ariannol o ddatblygiadau arloesol yn sylweddol ac fod cyllid allanol yn elfen hanfodol i’w dichonoldeb. Nododd datblygwyr hefyd fod natur arloesol yr adeiladau’n cynyddu’r risg o gostau annisgwyl, gan fod y gadwyn gyflenwi a gweithlu medrus priodol yn anoddach eu cyrchu neu’n llai ar gael.

Roedd integreiddio adborth gan y gymuned a thrigolion yn dyluniad prosiectau tai arloesol yn wers allweddol o ran sicrhau llwyddiant datblygiad tymor hir. Profodd y broses o integreiddio adborth cymunedol yn dyluniadau tai i fod yn ddeinamig ac ailadroddol, gyda datblygwyr yn cydnabod bod yr ymgysylltu hwn yn hanfodol nid yn unig ar gyfer sicrhau caniatâd cynllunio ond hefyd ar gyfer sicrhau bod y cymunedau’n cofleidio’r prosiectau gorffenedig. Roedd rhyngweithio rheolaidd â’r gymuned yn eu cadw’n hysbys ac yn rhan o’r broses.

Amlygwyd rôl ffactorau dynol yn y dyluniad a’r gweithrediad o brosiectau tai arloesol fel canfyddiad allweddol. Roedd effaith preswyliaeth ar dymheredd mewnol yn enghraifft arbennig o ddangosol. Dadorchuddiodd dadansoddi data cychwynnol fod tai gyda mwy o drigolion yn tueddu i fod â hinsawdd fewnol gynhesach. Daeth yn amlwg bod ymddygiadau unigol tenantiaid yn cael effaith bwysig ar berfformiad adeiladau. Roedd achosion o ddiffyg cefnogaeth gan denantiaid yn tynnu sylw at yr angen am strategaethau addysgu sy’n cyfarwyddo preswylwyr ar swyddogaethau a manteision technolegau newydd. Nododd datblygwyr bod yr angen addysgol hwn yn hanfodol.

Gweithlu

Mae datblygwyr yn aml yn tynnu sylw at brinder llafur medrus sy’n gallu gosod a chynnal y technolegau sy’n greiddiol i Dulliau Adeiladu Modern (MMC) a dulliau arloesol. Mae datblygwyr ac adeiladwyr nad ydynt yn arbenigo (hynny yw, y rhai nad ydynt yn arbenigo mewn math penodol o adeiladwaith) yn aml yn nodi’r prinder hyn fel rhwystrau i gyflawni prosiectau. I fynd i’r afael â hyn, lansiwyd ymdrechion hyfforddi mewn rhai cynlluniau i ateb anghenion uniongyrchol y prosiect ac i ddarparu buddion cymdeithasol ehangach drwy wella rhagolygon cyflogaeth lleol a chodi lefelau sgiliau drwy brentisiaethau.

Nododd rhai datblygwyr fod integreiddio datblygwyr y sector preifat wedi nodi esblygiad yn y dull o adeiladu tai arloesol. Yn aml, roedd gan lawer o’r cwmnïau hyn dîm parod a oedd yn fedrus wrth ddatblygu’r dulliau adeiladu a ddewiswyd. Ystyrid bod y partneriaethau hefyd wedi hybu amgylchedd dysgu lle gallai’r holl bartïon addasu i brosesau caffael newydd a rolau newydd.

Wrth fynd i’r afael â rhai o’r materion sy’n ymwneud â’r gweithlu, cydnabu llawer o ymatebwyr fanteision posibl cael unigolyn dynodedig i gydlynu a hyfforddi timau. Mae’r canfyddiadau hyn yn tynnu sylw at bwysigrwydd hanfodol rheoli gweithlu wedi’i strwythuro a chydweithio mewn prosiectau tai arloesol.

Adeiladu

Yn ail flwyddyn y Rhaglen Tai Arloesol, wynebodd datblygwyr a chontractwyr bryderon sy’n ymwneud â’r gadwyn gyflenwi. Roedd yr heriau hyn yn arbennig o amlwg wrth ddefnyddio deunyddiau na fyddent ar gael yn rhwydd o fewn y DU.

Yn aml, roedd contractwyr a datblygwyr yn gweld bod y technolegau a ddefnyddiwyd yn ail flwyddyn y RTA yn gymhleth ac yn llafurddwys i’w gosod a’u cynnal. Nododd ymatebwyr fod cydlynu systemau gwahanol o fewn prosiectau, a oedd yn aml yn gofyn am gydamseru a chyfuno manwl, yn heriol. Fodd bynnag, roedd y rhan fwyaf o’r ymatebwyr yn hyderus yng nghapabiliadau’r cartrefi i gyrraedd neu ragori ar safonau ansawdd.

4. Casgliad

Mae’r gwerthusiad o Flwyddyn Dau y RTA wedi nodi gwersi a chanlyniadau gwerthfawr ar draws y datblygiadau a gyllidwyd. Llwyddodd y cynlluniau i ddangos manteision Dulliau Adeiladu Modern (MMC), technolegau effeithlon o ran ynni, a dyluniadau arloesol sy’n canolbwyntio ar y gymuned.

Fodd bynnag, amlygwyd rhwystrau parhaus, gan gynnwys cyfyngiadau yn y gadwyn gyflenwi, heriau rheoleiddiol, ystyriaethau ariannol, a phrinder sgiliau yn y gweithlu, gan danlinellu cymhlethdodau cynyddu arloesedd yn y sector tai.

Roedd heriau economaidd yn amlwg, gyda datblygwyr yn dibynnu’n helaeth ar gyllid allanol i fynd i’r afael â’r costau uwch sy’n gysylltiedig â dulliau arloesol. Profodd ymgysylltu cymunedol yn hollbwysig, gan fod prosiectau a oedd yn ymgorffori cyfathrebu cynnar a thryloyw yn fwy tebygol o sicrhau cefnogaeth trigolion ac awdurdodau lleol. Amlygodd gwersi o ymddygiad tenantiaid ac effaith ffactorau dynol ar berfformiad adeiladau bwysigrwydd cydweddu dyheadau arloesol gyda realiti ymarferol a chymdeithasol.

Yn ystod ail flwyddyn y RTA, gwnaed cynnydd wrth integreiddio technolegau uwch mewn prosiectau tai, gyda datblygwyr yn hyderus yng nghyfleusterau’r technolegau hyn i leihau tlodi tanwydd a chyflawni nodau cynaliadwyedd. Serch hynny, roedd cost uchel gweithredu technolegau o’r fath, ynghyd â heriau cynnal a chydlynu systemau, yn datgelu’r angen am ddull cytbwys tuag at arloesedd sy’n ystyried hyfywedd a’r gallu i dyfu yn unol â'r anghenion (‘scalability’) tymor hir.

Manylion cyswllt

Awduron yr adroddiad: Howson, A.S.; Burrows, E.; Hopwood, D; Dexter A. (2024)

Mae’r safbwyntiau a fynegwyd yn yr adroddiad hwn yn perthyn i’r ymchwilwyr ac nid o reidrwydd Llywodraeth Cymru.

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â:
Meghan Duffin
Tîm ymchwil tai
Gwasanaethau Gwybodaeth a Dadansoddi
Llywodraeth Cymru
Caerdydd
CF10 3NQ
Ebost: TimYmchwilTai@llyw.cymru

Rhif Ymchwil Gymdeithasol: 11/2025
ISBN digidol 978-1-83715-214-8

Image
GSR logo