Neidio i'r prif gynnwy

Ar 18 Medi 2025, rhoddwyd Cydsyniad Brenhinol i’r Ddeddf sy'n caniatáu i gynghorau gyflwyno ardoll ymwelwyr dros nos i godi arian ar gyfer twristiaeth leol.

Cyhoeddwyd gyntaf:
25 Chwefror 2025
Diweddarwyd ddiwethaf:

Crynodeb

Y Ddeddf Llety Ymwelwyr yw treth leol gyntaf Cymru ers 500 o flynyddoedd, sy'n galluogi cynghorau i fuddsoddi elw mewn seilwaith twristiaeth fel toiledau, llwybrau troed, traethau a chanolfannau ymwelwyr.

Cefndir

Ein huchelgais yw tyfu twristiaeth drwy gefnogi cymunedau lleol mewn ffordd gynaliadwy.

Gallwch ddarllen testun cyflawn y Bil a’r memorandwm esboniadol.

Fel rhan o’r Ddeddf, bydd y gwaith o gofrestru pob darparwr llety ymwelwyr yng Nghymru yn dechrau yn 2026. Bydd cymorth ar gael i ddarparwyr llety drwy gydol y broses gofrestru gan Awdurdod Refeniw Cymru. 
 

Gwaith ymchwil

Wrth lunio’r ddeddfwriaeth, byddwn yn amlinellu’r effaith y mae ardoll yn debygol o’i chael. Mae'r holl asesiadau effaith wedi'u cyhoeddi yma a chyhoeddir memorandwm esboniadol ac asesiad effaith rheoleiddiol ar gyfer y ddeddfwriaeth ar dudalennau'r Senedd.

Ynghyd ag asesiadau effaith ac ymchwil arall, darperir casgliad o ffynonellau data ynghylch nifer yr ymwelwyr a’r sefydliadau llety, a hynny ar gyfer gwahanol fathau o sefydliadau (Llety â gwasanaeth, Llety hunanddarpar, Gwersylla/Carafannau, Hostelau). Mae’r ffigurau hyn yn rhoi rhywfaint o gyd-destun defnyddiol ar gyfer dechrau amgyffred y refeniw posibl a gaiff ei greu, a chostau gweithredu.

Trosolwg o’r systemau trethiant sy’n effeithio ar yr economi ymwelwyr mewn gwledydd dethol

Rydym wedi comisiynu gwaith ymchwil er mwyn deall y gwahanol systemau trethiant sy’n effeithio ar yr economi ymwelwyr yn gyffredinol, a’r sector llety yn arbennig, mewn gwledydd sydd â nodweddion tebyg i Gymru o ran yr economi a thwristiaeth. Bydd hyn yn ein helpu i ddeall y beichiau treth cymharol a wynebir gan y diwydiant twristiaeth mewn gwledydd eraill, a sut y byddai’r ardoll arfaethedig yn rhyngweithio â’r rhain.

Comisiynwyd yr ymchwil gan Brifysgol Bangor yn haf 2023 i adolygu tystiolaeth ryngwladol ar effeithiau aneconomaidd ardoll ymwelwyr. Roedd hyn yn rhan o ddatblygu deddfwriaeth ardoll ymwelwyr, ymrwymiad Rhaglen Lywodraethu.

Gwaith ymchwil am yr elastigeddau sy’n berthnasol i ardoll ymwelwyr yng Nghymru

Mae’r gwaith ymgysylltu hefyd wedi amlygu pryderon am sut y bydd ardoll yn effeithio ar ymddygiad ymwelwyr a chyflenwyr. Mewn ymateb i hyn, rydym wedi comisiynu adolygiad o’r gwaith ymchwil presennol ar y pwnc hwn. Mae’r gwaith ymchwil yn archwilio’r dystiolaeth ynghylch pa mor ymatebol yw cyflenwyr a’r galw ymysg ymwelwyr i newidiadau ym mhris twristiaeth (‘yr elastigeddau pris’), a newidiadau yn y galw ymysg ymwelwyr yn sgil newidiadau i incwm ymwelwyr (‘elastigedd incwm y galw’).

Bydd y canfyddiadau cychwynnol yn cael eu defnyddio i lywio ein dealltwriaeth o effaith bosibl yr ardoll.

Dadansoddiad o ddemograffeg y sector llety yng Nghymru

Rydym hefyd wedi comisiynu’r Swyddfa Ystadegau Gwladol i lunio dadansoddiad o ddemograffeg y sector llety yng Nghymru. Bydd Llywodraeth Cymru yn defnyddio’r data i lywio’r ddealltwriaeth o effaith bosibl yr ardoll, ac i gefnogi unrhyw weithgaredd gwerthuso sy’n cael ei ddatblygu.

Ymchwil defnyddwyr

Cafodd yr ymchwil ei gynllunio i gasglu sylwadau gan drigolion Cymru ac ymwelwyr domestig o’r DU ynghylch yr ardoll ymwelwyr disgresiynol a allai gael ei gyflwyno. Mae wedi ystyried sylwadau ynghylch a ddylai ymwelwyr gyfrannu drwy ardoll, a yw ymwelwyr yn barod i dalu ardoll ac a fyddent yn newid eu hymddygiad petai ardoll yn cael ei gyflwyno.

Gwnaeth dros 2,500 o ymatebwyr lenwi’r arolwg ac roedd 1,005 ohonynt yn byw yng Nghymru. Roedd y canlyniadau yn dangos cefnogaeth eang i egwyddor ardoll ymwelwyr. Dangosodd yr ymchwil fod ymatebwyr i’r arolwg yn fwy cadarnhaol na negyddol pan rannwyd â nhw y cysyniad o ardoll ymwelwyr mewn man lle y maen nhw’n mynd ar wyliau, neu yn eu hardal nhw. Roedd 45% yn gadarnhaol, a 25% yn negyddol. Gwelwyd canran uwch o agweddau cadarnhaol ymhlith pobl lle y mae llawer o dwristiaeth yn eu hardal.

Ar y cyfan, roedd y rhai hynny a gymerodd ran yn yr arolwg yn cefnogi egwyddor ardoll ymwelwyr. Roedd y mwyafrif o'r ymatebwyr (58%) yn cytuno y dylai twristiaid gyfrannu tuag at gostau cynnal a buddsoddi yn y cyrchfannau y maen nhw’n aros ynddynt. Roedd y ganran yn codi ymhlith pobl sydd â llawer o dwristiaeth yn eu hardal – yng Nghymru (66%) a'r Deyrnas Unedig (72%), gyda 13% yn anghytuno.

Ymchwil ardoll ymwelwyr: barn defnyddwyr a thrigolion

Ymgynhoriad

Mae manylion canlyniad yr ymgynghoriad a ddaeth i ben ar 13 Rhagfyr 2022 i’w gweld yma. Yn rhan o’r ymgynghoriad, rhoddwyd sylw i ddyluniad arfaethedig yr ardoll ymwelwyr. Ym mis Rhagfyr 2022, gwnaethom gomisiynu dadansoddiad annibynnol o’r ymatebion i’r ymgynghoriad. Cynhaliwyd y gwaith hwn gan Alma Economics.