Strydoedd Ysgol: canllawiau i awdurdodau lleol - 4. Gweithredu Strydoedd Ysgol
Sut y gall cynghorau wella diogelwch ar y ffyrdd o amgylch ysgolion ar adegau brig.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Gorchmynion Rheoleiddio Traffig
Caiff cynllun Stryd Ysgol ei greu gan ddefnyddio cyfyngiadau safonol ar fynediad cerbydau. Mae'r rhan fwyaf o gynlluniau Strydoedd Ysgol yn gorfodi cyfyngiadau am gyfnodau byr (awr fel arfer) ar adegau hebrwng a chasglu plant o'r ysgol ar ddiwrnodau'r wythnos yn ystod y tymor.
Bydd angen gwneud Gorchymyn Rheoleiddio Traffig i weithredu'r cyfyngiad a'i orfodi'n effeithiol.
Mae 3 phrif fath o Orchymyn Rheoleiddio Traffig, a all fod yn berthnasol i gynlluniau Strydoedd Ysgol:
Parhaol
Mae’r broses hon yn cynnwys ymgynghoriad ymlaen llaw ar y cynllun arfaethedig, cyhoeddi hysbysiadau ynghylch y cynigion, cyfnod hysbysu o 21 diwrnod i ymgyngoreion statudol a phobl eraill i fynegi gwrthwynebiad; gellir cynnal ymchwiliad cyhoeddus mewn rhai amgylchiadau.
Arbrofol
Defnyddir y rhain i dreialu cynlluniau a all gael eu gwneud yn barhaol wedyn. Rhaid i awdurdodau roi trefniadau monitro ar waith ac ymgynghori'n barhaus ar ôl i'r mesur gael ei roi ar waith er mwyn helpu i benderfynu a ddylid gwneud y cynllun yn un parhaol.
Er y gall y cyfnod gweithredu cychwynnol fod yn fyr, dylid rhoi cyfle o hyd i breswylwyr a busnesau wneud sylwadau ar newidiadau arfaethedig a gall yr angen i wneud gwaith monitro ac ymgynghori ychwanegol wedi hynny ychwanegu at y costau.
Bydd cynlluniau a wneir sy'n defnyddio gorchmynion arbrofol yn destun cyfnod gwrthwynebu parhaus am 6 mis ar ôl iddynt gael eu rhoi ar waith. Mae hyn yn golygu y gellir addasu cynllun peilot ar sail profiad ac adborth, a all arwain at gynllun mwy addas yn gyffredinol.
Dros dro
Gellir gwneud y rhain am y rhesymau a nodir yn adran 14(1) o Ddeddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984 ac yn gyffredinol, gallant fod ar waith am hyd at 18 mis. Mae cyfnod hysbysu o 7 diwrnod cyn gwneud y Gorchymyn Rheoleiddio Traffig a gofyniad hysbysu o 14 diwrnod ar ôl iddo gael ei wneud, yn ogystal â gofynion cyhoeddusrwydd/hysbysu eraill.
Argymhellir hefyd y dylai awdurdodau ymgynghori â phreswylwyr a busnesau ar y cam dylunio er mwyn sicrhau na fydd cynlluniau yn cael unrhyw ganlyniadau anfwriadol
Ar gyfer Strydoedd Ysgol, mae'n debygol mai Gorchmynion Rheoleiddio Traffig parhaol neu arbrofol yw'r rhai mwyaf priodol.
Mae Rheoliadau Gorchmynion Traffig Awdurdodau Lleol (Gweithdrefn) (Cymru a Lloegr) 1996 yn nodi’r weithdrefn ar gyfer gorchmynion parhaol ac arbrofol.
Mae Rheoliadau Gweithdrefn Traffig Ffyrdd (Cyfyngiadau Dros Dro) 1992 yn nodi’r weithdrefn ar gyfer gorchmynion dros dro
Wrth baratoi'r Gorchymyn Rheoleiddio Traffig, gall fod yn ddefnyddiol cyfeirio at ganllaw arferion gorau Cymdeithas Parcio Prydain ar Orchmynion Rheoleiddio Traffig.
Arwyddion traffig
Rhaid i bob arwydd traffig a ddefnyddir mewn perthynas â chynlluniau Strydoedd Ysgol fod yn unol â'r hyn a ragnodir gan y Rheoliadau Arwyddion Traffig a Chyfarwyddiadau Cyffredinol 2016 neu'r hyn a awdurdodir yn arbennig gan Lywodraeth Cymru.
Mae’n bosibl gweld fersiynau Dwyieithog/Cymraeg o arwyddion traffig ar Arwyddion traffig a marciau ffyrdd.
Caiff Strydoedd Ysgol eu dynodi gan ddefnyddio'r arwyddion traffig rhagnodedig ‘dim cerbydau modur’ (diagram 619) neu arwyddion traffig ‘parth cerddwyr a beicwyr’ (diagram 618.3C) ar gael yn Arwyddion traffig: arwyddion rheoleiddiol (atodlen 2).
Lle defnyddir arwydd ‘parth cerddwyr a beicwyr’ wrth y fynedfa i'r Stryd Ysgol, gall gosod arwydd ‘diwedd parth cerddwyr a beicwyr’ (diagram 618.4B) ar ddiwedd y parth fod yn ddefnyddiol i ddefnyddwyr y ffordd.
Gan mai dim ond yn ystod y tymor ysgol y mae Strydoedd Ysgol yn weithredol fel arfer, argymhellir y dylid defnyddio arwyddion fflap fel y gellir eu plygu i greu arwydd gwag yn ystod y gwyliau ysgol. Bydd angen gwneud trefniadau i sicrhau bod hyn yn digwydd, gan gynnwys mynediad a deiliaid allweddi.
Mae Cyngor Dinas Caerdydd wedi defnyddio arwyddion a nodiadau electronig sy'n fflachio. Maent yn gwneud y cyfyngiadau'n glir ac yn hynod weladwy. Maent yn golygu hefyd nad oes angen i swyddogion fynd i'r safleoedd er mwyn troi'r arwyddion sefydlog yn ystod y gwyliau ysgol pan nad yw'r cyfyngiadau'n weithredol.
Ceir cyngor cyffredinol ar ddylunio a lleoli arwyddion ym Mhennod 3 o'r Llawlyfr Arwyddion Traffig. Mae disgwyl i Atodiad C: Amrywiadau Cymru gael ei ddiweddaru ar ôl i derfyn cyflymder diofyn o 20mya ddod i rym. Ar ôl ei adolygu, bydd ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru.
Nid oes gofynion penodol ar gyfer arwyddion parthau cerddwyr a beicwyr a ddefnyddir ar gyfer Strydoedd Ysgol, ond dylid ystyried y gofyniad cyffredinol i sicrhau y gall gyrwyr weld arwyddion mewn da bryd i wybod bod cyfyngiad yn dod a gweithredu arno.
Bydd cyhoeddusrwydd lleol cyn rhoi'r cynllun ar waith yn helpu gyrwyr i ymgyfarwyddo â'r cyfyngiad newydd. Gall fod yn addas defnyddio arwyddion i ddangos llwybr dargyfeirio i draffig trwodd, yn enwedig os oes angen sicrhau bod cyn lleied o draffig â phosibl yn defnyddio strydoedd cyfagos i osgoi'r cyfyngiad.
Gorfodi
Gall awdurdodau lleol orfodi cyfyngiadau Strydoedd Ysgol os ydynt wedi cael y pwerau i wneud hynny o dan Ran 6 o Ddeddf Rheoli Traffig 2004.
Mae gwybodaeth am wneud cais am bwerau Rhan 6 ar gael yng Nghanllawiau Cymru.
Argymhellir y dylai awdurdodau lleol ganiatáu o leiaf 6 mis i gwblhau'r broses o wneud cais am y pwerau hyn. Mae'r pwerau yn galluogi awdurdodau lleol i roi Hysbysiadau Tâl Cosb i unrhyw gerbydau modur heb esemptiad sy'n mynd ar y Stryd Ysgol yn ystod yr oriau gweithredol.
Gall yr heddlu roi Hysbysiadau Cosb Benodedig o hyd am dorri cyfyngiadau Strydoedd Ysgol hyd yn oed os oes yw'r awdurdod lleol wedi cael y pwerau Rhan 6. Os bydd yr heddlu a'r awdurdod lleol yn cymryd camau gorfodi mewn perthynas â'r un achos o dorri'r cyfyngiadau, camau gorfodi'r heddlu fyddai'n cael blaenoriaeth.
Gellir defnyddio camerâu Adnabod rhif plât awtomatig (ANPR) i orfodi cynlluniau Strydoedd Ysgol drwy roi Hysbysiadau Tâl Cosb o bell i geidwaid cofrestredig cerbydau modur sydd heb esemptiad.
Gall camerâu fod yn rhai sefydlog neu gallant fod mewn uned symudol.
Gall camerâu symudol fod yn opsiwn mwy cost-effeithiol oherwydd gellir eu symud o un safle i'r llall, sy'n golygu y gellir cynnal hapwiriadau ar sawl Stryd Ysgol ac mewn lleoliadau eraill.
Os defnyddir systemau CCTV i orfodi'r cyfyngiadau, dylai awdurdodau ystyried hysbysu gyrwyr am hyn drwy osod yr arwydd cyngor a ragnodir gan y Rheoliadau Arwyddion Traffig a Chyfarwyddiadau Cyffredinol 2016 ar gyfer ardaloedd lle defnyddir camerâu gorfodi (diagram 878).
Yn unol â'r canllawiau statudol ar orfodi troseddau traffig sy'n symud, dylai awdurdodau roi hysbysiadau rhybuddio i yrwyr sy'n torri'r cyfyngiadau am y tro cyntaf.
Os nad oes gan yr awdurdod lleol bwerau gorfodi, yr heddlu fydd yn gyfrifol am orfodi'r cyfyngiadau Strydoedd Ysgol.
O gofio'r pwysau ar adnoddau'r heddlu, mae'n bwysig ymgysylltu â'r heddlu ar gam cynnar yn y broses o ddatblygu cynlluniau ar gyfer Stryd Ysgol er mwyn deall pa gymorth y gallant ei roi a pha gamau gorfodi y gallant eu cymryd.
Defnyddio rhwystrau
Mae rhai Strydoedd Ysgol wedi cael eu gweithredu gan ddefnyddio rhwystrau cludadwy a stiwardiaid gwirfoddol. Mae angen meddwl yn ofalus am y dull hwn ac mae'n annhebygol o fod yn ateb priodol.
Bydd cynnal Stryd Ysgol â rhwystrau a stiwardiaid yn arwain at oblygiadau sylweddol o ran adnoddau, a gallai hyn beryglu hyfywedd cynllun yn y tymor hir; mae rhai awdurdodau yn cefnu ar y dull hwn am fod 'blinder gwirfoddoli' yn arwain at lai o stiwardiaid yn gwirfoddoli wrth i amser fynd heibio. Yn anffodus, mae aflonyddu ar wirfoddolwyr wedi bod yn broblem mewn rhai ardaloedd hefyd, a gallai hyn hefyd wneud pobl yn llai parod i wirfoddoli. Nid oes gan stiwardiaid gwirfoddol bŵer cyfreithiol i atal traffig, yn hytrach mae'n rhaid iddynt ddibynnu ar yr arwyddion a'r rhwystrau.
Mae rhwystr ffisegol yn cau ffordd, sy'n wahanol i gyfyngu ar fynediad. Ni ellir defnyddio rhwystrau i roi Gorchymyn Rheoleiddio Traffig ar gyfer cyfyngiadau 'dim cerbydau modur' ar waith, gan fod y rhain yn wahanol a rhaid arddangos arwyddion fel y dangosir uchod.
Ni ddylid defnyddio arwyddion 'dim cerbydau modur' ar y cyd â rhwystrau, gan fod hyn yn creu gwrthdaro rhwng y cyfyngiad ar gerbydau a chau'r ffordd, a bydd hyn yn gwneud gorfodi'n anodd.
Er mwyn cau ffordd mae angen Gorchymyn Rheoleiddio Traffig, yn yr un modd ag ar gyfer cyfyngiad ar fynediad. Fel arfer, mae ffyrdd yn cael eu cau er mwyn gwneud gwaith neu ar gyfer digwyddiadau arbennig, a gwneir hyn drwy Orchmynion Rheoleiddio Traffig dros dro. Dim ond am resymau penodol y gellir gwneud Gorchymyn Rheoleiddio Traffig dros dro, ac mae'n annhebygol y bydd yn addas ar gyfer cyfyngiad parhaol, rhan-amser ar gyfer Strydoedd Ysgol.
Ni ellir rhoi esemptiadau mor gynhwysfawr ar gyfer ffordd sydd wedi'i chau ag y gellir eu rhoi ar gyfer cyfyngiad mynediad; yn ogystal â'r rhwystr ffisegol sy'n ei gwneud hi'n fwy anodd i ddeiliaid trwyddedau gael mynediad i'r ffordd, nid oes unrhyw beth yn cyfateb i'r arwydd sy'n dweud 'ac eithrio deiliaid trwyddedau' neu ei debyg.
Nid yw'n briodol i wirfoddolwyr agor y rhwystr ar gyfer deiliaid trwyddedau gan ei fod yn rhoi cyfrifoldeb arnynt i benderfynu a yw'r gyrrwr yn meddu ar drwydded ddilys ac mae'n eu gwneud yn agored i aflonyddu a cham-drin posibl, ac yn creu risgiau posibl i ddiogelwch ar y ffyrdd.
Ni chaiff awdurdodau lleol orfodi arwyddion a rhwystrau sy'n cau ffyrdd, am nad ydynt wedi'u cynnwys yn Rhan 6 o Ddeddf Rheoli Traffig 2004, sy'n golygu y bydd angen gweithio gyda'r heddlu'n gynnar wrth i'r cynllun gael ei ddatblygu.
Os cânt eu defnyddio, rhaid i rwystrau arddangos yr arwydd a ddangosir yn Diagram 7105 ac a ragnodir yn Rheoliadau a Chyfarwyddydau Cyffredinol Arwyddion Traffig 2016.
Bydd dyluniad rhwystrau a ddefnyddir ar gyfer gwaith ffordd a sefyllfaoedd dros dro eraill yn ymgorffori hyn.
Dylid hefyd ddarparu arwyddion gwyn ar goch dros dro sy'n nodi manylion cae'r ffordd.
Gall defnyddio rhwystrau a stiwardiaid fod yn effeithiol ar gyfer treial tymor byr neu ddigwyddiadau fel Wythnos Cerdded i'r Ysgol, ond mae cyfyngiadau mynediad ag arwyddion a chamerâu gorfodi yn fwy tebygol o fod yn llwyddiannus ar gyfer cynlluniau parhaol.
Diogelwch a hyfforddiant
Cyn rhoi cynllun Stryd Ysgol ar waith, dylai awdurdodau gynnal asesiad safle-benodol o'r risgiau diogelwch ar y ffyrdd i bob defnyddiwr o dan y trefniadau arfaethedig a rhoi mesurau lliniaru priodol ar waith.
Er enghraifft, gallai llai o draffig olygu y bydd rhai plant a'u rhieni/gofalwyr yn llai gwyliadwrus wrth ddefnyddio Stryd Ysgol a dylai rhoi ymyriadau (fel sesiynau addysg diogelwch ar y ffyrdd ar gyfer disgyblion, staff a rhieni a gofalwyr) ar waith cyn dechrau er mwyn sicrhau bod defnyddwyr yn gwybod y bydd hawl gan gerbydau ag esemptiad ddefnyddio'r ffordd o hyd.
Dylai awdurdodau ddilyn eu polisïau a'u prosesau risg sefydledig eu hunain wrth ddatblygu cynlluniau rheoli risg ar gyfer Strydoedd Ysgol. Mae'r cynlluniau hyn yn fwy tebygol o fod yn effeithiol os cânt eu datblygu mewn cydweithrediad agos â thîm arwain yr ysgol.
Efallai y byddwch yn penderfynu defnyddio stiwardiaid i'ch helpu i redeg eich cynllun Stryd Ysgol, yn enwedig am gyfnod wedi dechrau gweithredu’r cynllun. Nid oes gan y bobl hyn bwerau cyfreithiol i stopio traffig a dylid rhoi gwybodaeth fanwl a hyfforddiant iddynt am sut i gyflawni eu rôl yn ddiogel. Nid yw'n ofynnol i stiwardiaid gael hyfforddiant penodol i weithredu cynlluniau Strydoedd Ysgol ond dylai awdurdodau ystyried darparu cyfleon hyfforddiant o’r fath.
Gall sefydliadau teithio llesol ddarparu gwybodaeth a chyngor defnyddiol. Mae Sustrans a Playing Out wedi datblygu ffilm fer ar sut i stiwardio Stryd Ysgol neu Stryd Chwarae. Dylai materion megis yswiriant a chyfarpar diogelu personol fod yn rhan o bolisïau a phrosesau risg awdurdodau lleol.
Cyhoeddusrwydd
Mae'n bwysig cyfathrebu ymlaen llaw, mewn ffordd uniongyrchol ac wedi'i theilwra, â'r holl breswylwyr a busnesau o fewn Stryd Ysgol a'r cyffiniau fel eu bod yn gwybod beth i'w ddisgwyl a sut y bydd y cynllun yn effeithio arnynt. Dylai awdurdodau ystyried darparu deunyddiau mewn fformatau ac ieithoedd gwahanol sy'n adlewyrchu'r gymuned leol. Dylai manylion Strydoedd Ysgol fod ar gael yn hawdd ar-lein, gan ddarparu gwybodaeth am y strydoedd y mae'r cynllun yn effeithio arnynt.
Mae'n bwysig cyfathrebu hefyd â phobl a all fod yn gyrru drwy'r ardal. Gellir gwneud hyn gan ddefnyddio amrywiaeth o ddeunyddiau fel baneri ar giât yr ysgol a gorchuddion ar bolion lampau yn ogystal â defnyddio sianeli cyfathrebu amrywiol gan gynnwys y cyfryngau cymdeithasol a ffynonellau newyddion lleol. Bydd datblygu logo a brand penodol ar gyfer cynlluniau Strydoedd Ysgol yn helpu i gynyddu ymwybyddiaeth a dealltwriaeth. Ni ddylai unrhyw ddeunydd hyrwyddo a osodir ar neu gerllaw strydoedd gynnwys arwyddion traffig na bod yn debyg i arwyddion traffig.
Mae pecyn cymorth hyrwyddo teithio llesol Trafnidiaeth Cymru yn cynnwys canllaw cerdded, olwyno a beicio i'r ysgol sydd yn cynnwys negeseuon allweddol o amgylch Strydoedd Ysgol.
Mae pecyn adnoddau Strydoedd Ysgol Hackney yn darparu amrywiaeth o ddeunyddiau cyhoeddusrwydd y gellir eu haddasu'n hawdd ar gyfer cynlluniau Strydoedd Ysgol awdurdodau eraill.
Lansio
Efallai yr hoffai awdurdodau ac ysgolion gynnal parti stryd neu fore gemau yn ystod yr wythnos gyntaf ar ôl i gynllun Stryd Ysgol gael ei roi ar waith er mwyn dechrau ar nodyn cadarnhaol a dathlu'r achlysur. I wneud hyn, bydd angen cau'r ffordd i draffig modur, felly bydd angen trefnu'r Gorchymyn Rheoleiddio Traffig (fel Gorchymyn Rheoleiddio Traffig dros dro ar gyfer digwyddiadau arbennig) a rhwystrau ac arwyddion traffig priodol. Dylai stiwardiaid fod yn bresennol hefyd. Bydd angen sicrhau y gall cerbydau'r gwasanaethau brys a deiliaid Bathodynnau Glas gael mynediad o hyd.
Mae hefyd yn werth ystyried cyfleoedd i drefnu bod cynllun Stryd Ysgol yn cael ei lansio ar yr un pryd â digwyddiadau cymunedol perthnasol neu wythnosau codi ymwybyddiaeth cenedlaethol fel Wythnos Beicio i'r Ysgol, Wythnos Cerdded i'r Ysgol neu Wythnos Diogelwch ar y Ffyrdd.
Cyfrifoldebau ar ôl lansio
Mae'n hanfodol bod yr awdurdod a'r ysgol yn cytuno ar rolau a chyfrifoldebau clir ar gyfer gweithredu cynllun Stryd Ysgol yn barhaus, a bydd rhain yn amrywio yn ddibynnol ar sut mae’r cynllun yn cael ei weithredu.
Mae sawl awdurdod wedi canfod ei bod yn ddefnyddiol datblygu Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth ag ysgol sy'n amlinellu cyfrifoldebau mewn perthynas â'r canlynol:
- hyrwyddo'r cynllun Stryd Ysgol
- darparu ymyriadau ategol i gefnogi ffyrdd cynaliadwy o deithio i'r ysgol
- rheoli'r gyfundrefn drwyddedu ar gyfer cerbydau ag esemptiad
- cynnal a chadw arwyddion a darparu stiwardiaid (lle bo hynny'n gymwys)
- monitro a gwerthuso effeithiau'r cynllun
- adolygu a diwygio'r cynllun
