Neidio i'r prif gynnwy

Trosolwg

Mae'n hanfodol monitro a gwerthuso cynlluniau Strydoedd Ysgol i benderfynu a ydynt yn gweithio yn ôl y bwriad. Mae angen ystyried trefniadau monitro a gwerthuso ar gam cynnar yn y broses o ddatblygu cynllun er mwyn helpu i gasglu data sylfaenol cyn i'r cynllun gael ei gyflwyno.

Er mwyn darparu tystiolaeth glir o effaith y cynllun Stryd Ysgol, dylid ceisio lleihau unrhyw amrywiadau yn y gyfundrefn fonitro a ddefnyddir cyn ac ar ôl gweithredu'r cynllun drwy reoli cynifer o newidynnau â phosibl. Mae hyn yn cynnwys, er enghraifft, defnyddio'r un dulliau casglu data a chasglu data ar amseroedd tebyg yn ystod y dydd a thymhorau'r flwyddyn.

Bydd y data monitro a gesglir yn dibynnu ar amcanion y cynllun.

Ar ôl i awdurdod ddadansoddi'r data monitro, dylai rannu'r canfyddiadau allweddol â rhanddeiliaid, rhwydweithiau lleol a'r cyfryngau.

Yn achos cynlluniau Strydoedd Ysgol, mae gwaith monitro yn debygol o ganolbwyntio ar fesur newidiadau i'r canlynol:

Lefelau cerdded a beicio i'r ysgol

Gellir cael y data hyn drwy gynnal arolwg      syml o ddulliau teithio y gall ysgol fod yn ei gynnal yn barod o bosibl. Os na, gellir cynnal arolwg ‘dwylo i fyny’ â'r disgyblion (a'r staff hefyd yn ddelfrydol) i ofyn sut maent yn teithio i'r ysgol fel arfer. Os cesglir data cod post hefyd, mae  modd canfod faint o ddisgyblion sy'n byw o fewn pellter cerdded neu feicio sy'n dal i gael eu gyrru i'r ysgol ac i gynnwys data arall mewn fformat lleoliad daearyddol yn y gwerthusiad.

Cyfaint, math a chyflymder traffig

Mae monitro traffig ar strydoedd ysgol a'r strydoedd cyfagos yn bwysig er mwyn deall effaith unrhyw draffig neu ddadleoli parcio, yn enwedig lle mae trigolion wedi mynegi pryderon am effeithiau o'r fath. Mae cownteri traffig awtomatig a / neu arolygon fideo yn ddulliau defnyddiol o gasglu'r data hwn.

Ansawdd yr aer yng nghyffiniau'r ysgol

Mae’r broses Rheoli Ansawdd Aer Lleol yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol adolygu ac asesu ansawdd aer yn eu hardaloedd yn rheolaidd. Am fod cynlluniau Strydoedd Ysgol yn fach eu maint ac ond yn weithredol ar amseroedd penodol, gall fod yn anodd mesur union effaith cynllun ar ansawdd yr aer ond gellir canfod tueddiadau cyffredinol, yn enwedig os cesglir data dros gyfnod o amser cyn ac ar ôl cyflwyno cynllun Stryd Ysgol.

Ffyrdd eraill o fonitro a gwerthuso

Ymhlith y ffynonellau eraill o wybodaeth a all helpu i werthuso effaith cynllun Stryd Ysgol (yn ogystal â llywio newidiadau posibl i'r cynllun) mae'r canlynol:

  • cyfweliadau a holiaduron â rhanddeiliaid, gan gynnwys disgyblion ac athrawon. Gall y rhain roi gwybodaeth am sut y mae cynllun wedi effeithio ar arferion teithio a chanfyddiadau rhieni o ddiogelwch ffyrdd a gellir eu defnyddio hefyd i ganfod a hoffai pobl weld y cynllun yn cael ei roi ar waith yn barhaol.
  • dadansoddiad o gydymffurfiaeth gyrwyr â chyfyngiadau traffig ac a oes unrhyw batrymau yn dod i'r amlwg o'r data hyn.
  • dadansoddiad o sylwadau a ddaw i law mewn perthynas â'r cynllun.
  • dadansoddiad o ddata fel arall er mwyn asesu effeithiau ehangach, megis gordewdra plant, gweithgarwch corfforol a iechyd meddwl   
  • ffotograffau – gall ffotograffau a dynnir cyn ac ar ôl gweithredu cynllun fod yn ffordd hynod bwerus o ddangos effaith Stryd Ysgol.