Ffigurau perfformiad blynyddol Teuluoedd yn Gyntaf: adroddiad cryno 2018 i 2023
Adolygiad cryno o sut mae'r rhaglen Teuluoedd yn Gyntaf wedi bod yn perfformio.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
1. Cefndir
1.1 Mae Teuluoedd yn Gyntaf yn rhaglen gan Lywodraeth Cymru i wella bywydau babanod, plant, pobl ifanc a'u teuluoedd. Mae'n rhoi pwyslais ar atal problemau a rhoi cymorth yn gynnar, ac mae'n gweithio gyda'r teulu cyfan er mwyn atal problemau rhag troi'n argyfwng. Mae'r rhaglen yn hyrwyddo'r broses o ddatblygu systemau cymorth amlasiantaethol i sicrhau bod cymorth pwrpasol ar gael i deuluoedd pan fydd ei angen arnynt.
1.2 Dyma brif elfennau Teuluoedd yn Gyntaf:
- Fframwaith Asesu'r Teulu ar y Cyd (JAFF), sy'n darparu gwerthusiad cynhwysfawr ar sail cryfderau o anghenion teuluoedd.
- Tîm o Amgylch y Teulu, sy'n dwyn ynghyd ystod eang o weithwyr proffesiynol i weithio gyda theulu er mwyn eu helpu i fynd i'r afael â'r heriau sy'n eu hwynebu.
- Prosiectau a gomisiynir yn strategol, a ddatblygir mewn ymateb i anghenion lleol a chymunedol a nodir, a gallant gynnwys ymyriadau rhianta, cymorth iechyd meddwl i deuluoedd, a chefnogaeth i bobl ifanc.
- Dyrannu cyllid i'w wario ar gymorth arloesol i deuluoedd sydd wedi'u heffeithio gan anabledd. Bydd awdurdodau lleol yn penderfynu sut i wario'r elfen hon yn eu hardaloedd.
1.3 Mae awdurdodau lleol yn amrywio o ran y mathau o gymorth y maent yn eu comisiynu, a faint o arian a fuddsoddir yn elfennau amrywiol rhaglen Teuluoedd yn Gyntaf. Maent yn gwneud penderfyniadau buddsoddi yn seiliedig ar ddadansoddiad o anghenion eu poblogaeth leol.
1.4 Mae gan y rhaglen gyfres o Fesurau Perfformiad Cenedlaethol i helpu i ddarparu rhagor o dystiolaeth o effaith y rhaglen ar draws Cymru, yn enwedig mewn perthynas â'r prosiectau strategol. Mae'n ofynnol i awdurdodau lleol adrodd ar y mesurau perfformiad hynny sy'n berthnasol i gyflawni'r rhaglen yn eu hardal nhw yn unig.
1.5 Mae Llywodraeth Cymru wedi darparu diffiniadau o'r mesurau perfformiad cenedlaethol ochr yn ochr â rhai enghreifftiau o sut y gallai awdurdodau lleol farcio unigolyn neu deulu yn llwyddiannus yn eu herbyn. Nid yw'r enghreifftiau hyn yn hollgynhwysfawr, ac felly mae'r mesurau o lwyddiant yn erbyn y mesurau perfformiad yn oddrychol i bob awdurdod lleol, ac nid yw pob awdurdod lleol yn adrodd yn erbyn pob mesur perfformiad. Gellir adrodd ar unigolion neu deuluoedd o safbwynt mwy nag un mesur perfformiad cenedlaethol.
1.6 Mae'r awdurdodau lleol yn casglu'r data gan ddefnyddio templed gan Lywodraeth Cymru, ac yn adrodd i Lywodraeth Cymru yn flynyddol. Mae'r data hwn yn cwmpasu cyfnod o 5 mlynedd, ac felly'n cynnwys pandemig COVID-19 yn ogystal â'r blynyddoedd ar ôl y pandemig. Dylid nodi bod rhai o'r ffigurau wedi gostwng yn 2020-21. Yn ystod y cyfnod hwn, roedd llawer o wasanaethau yn gweithredu ar lefel is ac yn fwy hyblyg er mwyn eu galluogi i ymdopi â'r gofynion newidiol a ddaeth yn sgil COVID-19.
1.7 Cafodd y gwaith casglu data ar gyfer y rhaglen ei atal dros dro yn ystod 2019-20 a 2020-21 er mwyn rhyddhau gwasanaethau awdurdodau lleol i ganolbwyntio ar gefnogi anghenion eu cymunedau yn ystod cyfnod digynsail ac anodd. Casglwyd data'r cyfnod hwn yn ôl-weithredol.
1.8 Er mwyn peidio â datgelu unrhyw unigolion, mae'r data wedi'i dalgrynnu i'r pump agosaf. Defnyddir y niferoedd crai i gyfrifo'r cyfansymiau, ac fe allai ymddangos nad ydynt yn cyfateb.
2. Pwyntiau allweddol
2.1 Mae nifer yr atgyfeiriadau ar gyfer Fframwaith Asesu'r Teulu ar y Cyd (JAFF) wedi cynyddu 50% rhwng 2018-19 (13,455) a 2022-23 (20,190).
2.2 Arweiniodd tua hanner yr atgyfeiriadau JAFF at gwblhau asesiad JAFF bob blwyddyn.
2.3 Mae nifer cynlluniau gweithredu Tîm o Amgylch y Teulu (TAF) sydd wedi'u llofnodi wedi cynyddu bob blwyddyn ers 2018-19, o 5,640 yn 2018-19 i 10,300 yn 2022-23.
2.4 Mae nifer y cynlluniau gweithredu TAF a gaewyd rhwng 2018-19 a 2022-23 wedi cynyddu'n gyffredinol, o 5,490 yn 2018-19 i 9,380 yn 2022-23.
2.5 Mae canran y cynlluniau gweithredu TAF a gaewyd yn llwyddiannus, o'r cyfanswm a gaewyd, yn eithaf cyson rhwng 2018-19 (60%) a 2022-23 (63%).
2.6 Mae canran yr unigolion neu'r teuluoedd llwyddiannus yr adroddwyd arnynt o safbwynt pob un o'r mesurau perfformiad cenedlaethol wedi parhau'n uwch na 50% o'r rhai y gweithiwyd gyda nhw.
3. Fframwaith Asesu'r Teulu ar y Cyd a'r Tîm o Amgylch y Teulu
3.1 Mae nifer yr atgyfeiriadau ar gyfer Fframwaith Asesu'r Teulu ar y Cyd (JAFF) wedi cynyddu yn gyffredinol, gan godi bob blwyddyn ar wahân i 2020-21. Cafwyd 13,455 o atgyfeiriadau ledled Cymru yn 2018-19, a'r nifer uchaf o atgyfeiriadau ar gofnod (20,190) yn 2022-23, cynnydd o 50%. Roedd is-set o'r atgyfeiriadau hyn ar gyfer teuluoedd ag anghenion sy'n ymwneud ag anabledd. Parhaodd nifer yr atgyfeiriadau ar gyfer y teuluoedd hyn yn eithaf cyson yn gyffredinol rhwng 2018-19 (2,855) a 2022-23 (2,825), gan ostwng yn 2020-21 (2,090).
3.2 Arweiniodd tua hanner yr atgyfeiriadau JAFF at gwblhau asesiad JAFF bob blwyddyn. Mae nifer yr asesiadau JAFF a gwblhawyd hefyd wedi cynyddu'n gyffredinol, o 7,365 yn 2018-19 i 12,045 yn 2022-23. Dyma'r nifer uchaf erioed o asesiadau JAFF a gofnodwyd, ac mae'n gynnydd o 64% ers 2018-19. Mae nifer yr asesiadau JAFF a gwblhawyd ar gyfer teuluoedd ag anghenion sy'n ymwneud ag anabledd hefyd wedi cynyddu'n gyffredinol, o 2,015 yn 2018-19 i 2,380 yn 2022-23.
3.3 Mae nifer cynlluniau gweithredu Tîm o Amgylch y Teulu (TAF) sydd wedi'u llofnodi wedi cynyddu bob blwyddyn ers 2018-19, o 5,640 yn 2018-19 i 10,300 yn 2022-23, sef y nifer uchaf erioed, cynnydd o 83% dros y cyfnod hwnnw. Mae nifer y cynlluniau gweithredu TAF a lofnodwyd ar gyfer teuluoedd ag anghenion sy'n ymwneud ag anabledd wedi amrywio dros yr un cyfnod, ond mae wedi cynyddu'n gyffredinol, o 1,875 yn 2018-19 i 2,255 yn 2022-23.
3.4 Mae nifer y cynlluniau gweithredu TAF a gaewyd rhwng 2018-19 a 2022-23 wedi cynyddu bob blwyddyn ar wahân i gwymp bach yn 2020-21. Cafodd 5,490 o gynlluniau gweithredu TAF eu cau yn 2018-19, o'i gymharu â 9,380 yn 2022-23, sef y nifer uchaf a gofnodwyd erioed. Gwelwyd tuedd debyg yn nifer y cynlluniau gweithredu TAF a gaewyd dros yr un cyfnod ar gyfer teuluoedd ag anghenion sy'n ymwneud ag anabledd. Caewyd 1,710 o gynlluniau gweithredu TAF ar gyfer teuluoedd ag anghenion sy'n ymwneud ag anabledd yn 2018-19, o'i gymharu â 2,270 yn 2022-23.
3.5 Mae canran y cynlluniau gweithredu TAF a gaewyd yn llwyddiannus yn eithaf cyson rhwng 2018-19 (60%) a 2022-23 (63%). Mae hyn wedi parhau'n gymharol gyson ers 2014-15; caewyd rhwng 57% a 63% o gynlluniau gweithredu TAF â chanlyniad llwyddiannus bob blwyddyn. Mae canran y cynlluniau gweithredu TAF a gaewyd yn llwyddiannus hefyd wedi parhau'n eithaf cyson rhwng 2018-19 (68%) a 2022-23 (66%) ar gyfer teuluoedd ag anghenion sy'n ymwneud ag anabledd.
4. Mesurau Perfformiad Cenedlaethol
4.1 Rhwng Ebrill 2018 a Mawrth 2023, mae canran y cyfranogwyr llwyddiannus yr adroddwyd arnynt o safbwynt pob un o'r mesurau perfformiad cenedlaethol wedi parhau'n uwch na 50% o'r rhai y gweithiwyd gyda nhw.
4.2 Yn 2022-23, y mesur perfformiad cenedlaethol â'r nifer uchaf o gyfranogwyr llwyddiannus oedd gwell lles emosiynol/meddyliol, lle nodwyd 23,575. Roedd hyn yn cynrychioli 86% o gyfanswm nifer yr unigolion neu'r teuluoedd y gweithiwyd gyda nhw o safbwynt y mesur perfformiad cenedlaethol hwn. Y mesur perfformiad cenedlaethol â'r gyfran uchaf o lwyddiant oedd rhieni a elwodd o ymyriad rhianta (87%), er mai dim ond ychydig yn uwch na rhai o'r mesurau perfformiad eraill oedd y gyfran hon.
Disgrifiad o ffigur 1: Siart far lorweddol sy'n dangos canran yr unigolion/teuluoedd llwyddiannus o'r cyfanswm y gweithiwyd gyda nhw ar gyfer pob un o'r 14 mesur perfformiad cenedlaethol. Mae'r siart wedi'i threfnu o'r mesur perfformiad sydd â'r nifer uchaf o gyfranogwyr llwyddiannus i'r mesur perfformiad sydd â'r nifer isaf o gyfranogwyr llwyddiannus.
5. Materion Ansawdd Data
5.1 Mae ymyriadau Teuluoedd yn Gyntaf yn amrywio rhwng awdurdodau lleol, ac felly efallai na fydd modd cymharu'r ffigurau yn uniongyrchol.
5.2 Mae'n amlwg o'r data bod anghysondebau o hyd ar gyfer rhai metrigau, ac mae'n debygol mai dehongliadau o ran sut y dylid adrodd ar ddata ac arferion lleol sydd i'w gyfrif am hyn.
5.3 Cafodd y gwaith o gasglu data monitro Teuluoedd yn Gyntaf ei atal dros dro ym mis Mawrth 2020 oherwydd pandemig COVID-19, a chasglwyd data ar gyfer 2019-20 a 2020-21 yn ôl-weithredol. O ganlyniad, nid oedd modd casglu pob eitem o ddata gan bob awdurdod lleol. Mae'r gwerthoedd coll yn y tablau cysylltiedig yn cael eu dynodi â x. Dylid bod yn ofalus wrth ddehongli ffigurau'r blynyddoedd hyn.
5.4 Nid yw data mesurau perfformiad cenedlaethol 2019-20 yn cynnwys Casnewydd gan nad oeddent yn gallu cyflwyno eu data nhw.
5.5 Oherwydd newidiadau a phroblemau gyda systemau casglu data, nid oedd pob awdurdod lleol wedi gallu casglu gwybodaeth am elfen proffil anabledd rhaglen Teuluoedd yn Gyntaf.
5.6 Cesglir data ychwanegol ar unigolion sy'n gysylltiedig â phrosiectau a gomisiynwyd gan raglen Teuluoedd yn Gyntaf. Nid yw'r data hwn wedi'i gynnwys yn y cyhoeddiad hwn oherwydd pryderon ynghylch ansawdd y data.
