Trwydded gyffredinol ar gyfer symud wyau (gan gynnwys gwastraff wyau) i’w gwaredu o safle y tu allan i barth gwarchod neu barth gwyliadwriaeth i safle sgil-gynhyrchion anifeiliaid cymeradwy mewn parth gwarchod neu barth gwyliadwriaeth (EXD653(HPAI)(EW))
Trwydded gyffredinol ar gyfer symud wyau (gan gynnwys gwastraff wyau) i’w gwaredu o safle y tu allan i barth gwarchod neu barth gwyliadwriaeth i safle sgil-gynhyrchion anifeiliaid cymeradwy mewn parth gwarchod neu barth gwyliadwriaeth
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
- Deddf Iechyd Anifeiliaid 1981 (fel y’i diwygiwyd)
- Gorchymyn Ffliw Adar a Ffliw sy’n Deillio o Adar mewn Mamaliaid (Cymru) (Rhif 2) 2006 (fel y’i diwygiwyd) – Atodlen 4 paragraffau 14 ac 16; Atodlen 5 paragraff 11
- Gorchymyn Ffliw Adar a Ffliw sy’n Deillio o Adar mewn Mamaliaid (Lloegr) (Rhif 2) 2006 (fel y’i diwygiwyd) – Atodlen 4 paragraffau 14 ac 16; Atodlen 5 paragraff 11
Mae’r drwydded hon, yn amodol ar gydymffurfiaeth â’r amodau a nodir yn yr Atodlen o Amodau isod, yn caniatáu symud wyau (gan gynnwys gwastraff wyau) i’w gwaredu yn uniongyrchol o safle y tu allan i barth gwarchod neu barth gwyliadwriaeth i safle sgil-gynhyrchion anifeiliaid cymeradwy mewn parth gwarchod neu barth gwyliadwriaeth yng Nghymru neu Loegr.
Dim ond symudiadau sydd fel arall yn cael eu gwahardd gan ddatganiad a gyhoeddwyd mewn ymateb i achosion o H5NX sy’n cael eu caniatáu o dan y drwydded hon, lle mae H5NX yn unrhyw straen o feirws ffliw adar pathogenig iawn cytras 2.3.4.4b, er enghraifft H5N1, H5N5. Nid yw’n caniatáu symudiadau sydd wedi’u gwahardd gan ddatganiad a gyhoeddwyd mewn ymateb i achosion o unrhyw straen arall o HPAI.
Mae’r drwydded hon yn ddilys o 5:16pm ar 4 Mawrth 2025 hyd nes y caiff ei hatal neu ei dirymu’n ysgrifenedig.
Cyhoeddwyd y drwydded hon gan Arolygydd Milfeddygol a benodwyd gan Weinidogion Cymru/yr Ysgrifennydd Gwladol.
Llofnodwyd: Emily Hayes, Arolygydd Milfeddygol
Dyddiad: 4 Mawrth 2025 Amser: 5:16pm
Atodlen yr amodau
- Rhaid i wyau sy’n cael eu symud o dan y drwydded hon gael eu gwaredu mewn safle a gymeradwywyd o dan Erthygl 24 o Reoliad (CE) 1069/2009.
- Rhaid i’r gwaith symud ddigwydd yn uniongyrchol i safle’r cyrchfan.
- Rhaid trin wyau sy’n cael eu symud o dan y drwydded hon yn unol â Rheoliad (CE) 1069/2009 a gymathwyd a phob deddfwriaeth arall ar sgil-gynhyrchion anifeiliaid bob amser.
- Rhaid i’r trwyddedai sicrhau bod yr wyau yn cael eu trin â gwres yn safle’r cyrchfan, ac eithrio pan fyddant eisoes wedi’u trin â gwres cyn eu symud, heb oedi gormodol, i ddinistrio unrhyw feirws ffliw adar a allai fod yn bresennol.
- Rhaid i’r trwyddedai sicrhau nad yw plisgyn wy yn cael ei daenu’n uniongyrchol ar y tir ar ffurf heb ei brosesu neu ei ddefnyddio mewn unrhyw gynhyrchion sy’n cael eu bwydo i anifeiliaid.
- Yn union cyn symud yr wyau o’u safle gwreiddiol, rhaid i’r person sy’n symud yr wyau tra’n dibynnu ar y drwydded hon archwilio cofnodion deor y safle gwreiddiol ac unrhyw ddofednod byw ar y safle i sicrhau nad ydynt yn dangos unrhyw arwyddion clinigol (Ffliw adar | LLYW.CYMRU / (https://www.gov.uk/guidance/avian-influenza-bird-flu) a allai fod yn gysylltiedig â ffliw adar.
- Rhaid i unrhyw gerbyd sy’n cludo wyau o dan y drwydded hon fod yn un sy’n:
- atal gollyngiadau;
- wedi’i orchuddio fel na all unrhyw ran o’i lwyth syrthio neu ddianc o’r cerbyd;
- fod â phecyn gollyngiadau i’w ddefnyddio mewn achos o ollyngiad yn ystod y broses gludo.
- Rhaid glanhau a diheintio olwynion a bwâu olwyn unrhyw gerbyd a ddefnyddir i gludo wyau o dan y drwydded hon ar ôl llwytho a chyn gadael y safle gwreiddiol. Rhaid i’r gwaith glanhau a diheintio ddigwydd mewn man lle nad oes modd i’r cerbyd gael ei halogi y tu hwnt i’r fan honno gan laid, slyri, tail dofednod, plu, sarn, plisgyn wy neu unrhyw ddeunydd tebyg.
- Ar ôl dadlwytho yn safle’r cyrchfan:
- rhaid glanhau a diheintio’r rhannau o’r cerbyd ac unrhyw offer a ddefnyddiwyd i gludo unrhyw beth a allai fod wedi’i halogi gan laid, slyri, tail dofednod, ysgarthion, plu neu unrhyw ddeunydd tebyg arall, a hynny ar y safle;
- rhaid glanhau a diheintio olwynion a bwâu olwynion y cerbyd cyn gadael safle’r cyrchfan.
- Rhaid i berson sy’n dibynnu ar y drwydded hon sicrhau ei fod ef ac unrhyw berson sy’n cael ei gyflogi ganddo neu sy’n ei gynorthwyo yn gwneud y canlynol:
- peidio â mynd i mewn i unrhyw safle dofednod neu adar caeth, neu adael unrhyw safle o’r fath, os yw/ydynt yn gwisgo dillad neu esgidiau sy’n amlwg wedi’u baeddu gan laid, ysgarthion dofednod neu adar, neu unrhyw ddeunydd tebyg;
- yn glanhau ac yn diheintio ei esgidiau/eu hesgidiau cyn mynd i mewn neu adael unrhyw safle neu fan lle mae dofednod neu adar caeth yn bresennol
- yn tynnu unrhyw ddillad tafladwy cyn gadael safle dofednod neu adar caeth a pheidio â’u hailddefnyddio ar safle arall;
- yn sicrhau bod dillad nad ydynt yn dafladwy, sy’n cael eu gwisgo tra’n dibynnu ar y drwydded hon, yn lân ac yn rhydd o unrhyw halogiad gweladwy cyn gadael safle dofednod neu adar caeth; #
- yn cymryd pob rhagofal rhesymol arall i osgoi trosglwyddo llaid, slyri, tail anifeiliaid, ysgarthion, plu neu unrhyw ddeunydd tebyg arall rhwng safleoedd.
- Rhaid i’r gwaith glanhau a diheintio gydymffurfio ag Erthygl 66 o’r Gorchymyn.
- Nid yw’r drwydded hon yn berthnasol i unrhyw safle sy’n destun i gyfyngiadau gan hysbysiad a gyflwynwyd o dan y Gorchymyn.
Nodiadau esboniadol
- Os nad yw’r drwydded hon yn berthnasol i’r gweithgaredd rydych yn dymuno ymgymryd ag ef, neu os na allwch gydymffurfio ag unrhyw un o’r telerau ac amodau sy’n berthnasol i ddefnyddio’r drwydded hon, yna bydd angen i chi wneud cais am drwydded benodol.
- Mae ystyr y termau a ddefnyddir yn y ddogfen hon fel a ganlyn:
- ystyr “wy” yw unrhyw ran o wy, gan gynnwys gwastraff wyau, cynhyrchion wyau hylif a phlisgyn wy;
- ystyr “safle sgil-gynhyrchion anifeiliaid cymeradwy” yw safle a gymeradwywyd o dan Erthygl 24 o Reoliad (CE) 1069/2009 a gymathwyd;
- ystyr “safle’r cyrchfan” yw’r lleoliad sgil-gynnyrch anifeiliaid cymeradwy lle symudir wyau iddo o dan y drwydded hon;
- ystyr “safle gwreiddiol wyau” yw’r safle lle cynhyrchwyd yr wyau;
- ystyr “y Gorchymyn” yw Gorchymyn Ffliw Adar a Ffliw sy’n Deillio o Adar mewn Mamaliaid (Cymru) (Rhif 2) 2006 (fel y’i diwygiwyd) mewn perthynas â Chymru neu Orchymyn Ffliw Adar a Ffliw sy’n Deillio o Adar mewn Mamaliaid (Lloegr) (Rhif 2) 2006 (fel y’i diwygiwyd) mewn perthynas â Lloegr;
- ystyr “safle gwreiddiol” yw’r safle y mae wyau yn cael eu symud ohono o dan y drwydded hon;
- ystyr “parth gwarchod” yw parth o’r enw hwnnw a ddatganwyd o dan y Gorchymyn;
- ystyr “parth gwyliadwriaeth” yw parth o’r enw hwnnw a ddatganwyd o dan y Gorchymyn.
- Rhaid i unigolyn sy’n symud unrhyw beth o dan awdurdod y drwydded hon sicrhau bod ganddo nodyn cludo. Rhaid i’r nodyn cludo gynnwys:
- faint o ddeunyddiau sy’n cael eu symud
- dyddiad y symudiad
- enw’r traddodwr
- cyfeiriad y safle gwreiddiol
- rhif cofrestru’r cerbyd sy’n casglu
- enw’r traddodai
- cyfeiriad safle’r cyrchfan gwaredu
- Pan fydd angen defnyddio diheintydd o dan y drwydded hon, rhaid defnyddio’r crynodiad cywir, caniatáu amser cyswllt digonol a rhaid iddo fod wedi ei gymeradwyo o dan Orchymyn Clefydau Anifeiliaid (Diheintyddion a Gymeradwywyd) (Cymru) 2007 (fel y’i diwygiwyd) neu Orchymyn Clefydau Anifeiliaid (Diheintyddion a Gymeradwywyd) (Lloegr) 2007 (fel y’i diwygiwyd)
- Rhaid i berson sy’n symud unrhyw beth o dan awdurdod y drwydded hon roi ei enw a’i gyfeiriad, dangos y nodyn cludo a chaniatáu i rywun wneud copi llawn neu gopi o ran o’r nodyn cludo, os gofynnir iddo wneud hynny gan arolygydd neu un o swyddogion eraill Gweinidogion Cymru neu’r Ysgrifennydd Gwladol.
- Rhaid i ddeiliad y safle gwreiddiol gadw cofnod o symudiadau, gan gynnwys rhif cofrestru unrhyw gerbyd a ddefnyddir, cyn gynted ag sy’n rhesymol ymarferol ar ôl y symudiad, a dylid cadw’r cofnod am o leiaf chwe wythnos ar ôl cwblhau’r symudiad, yn unol â gofyniad Erthygl 74 o’r Gorchymyn yng Nghymru a Lloegr.
- Rhaid cydymffurfio â phob deddfwriaeth berthnasol arall. Yn benodol, rhaid cydymffurfio â holl ofynion y ddeddfwriaeth sgil-gynhyrchion anifeiliaid.
Os ydych chi’n amau achos o glefyd hysbysadwy, rhaid i chi roi gwybod am hyn ar unwaith:
Cymru – APHA ar 0300 303 8268
Lloegr – llinell gymorth gwasanaethau gwledig Defra ar 03000 200 301- Rhaid i bawb sy’n cadw adar gadw llygad barcud ar eu hadar am arwyddion o glefydau a sicrhau bioddiogelwch da bob amser https://www.gov.uk/guidance/bird-flu-avian-influenza-how-to-prevent-it-and-stop-it-spreading . Os oes gennych unrhyw bryderon am iechyd eich adar, gofynnwch am gyngor gan eich milfeddyg yn ddi-oed.
- Am ragor o fanylion ynghylch deddfwriaeth sy’n ymwneud â ffliw adar yng Nghymru, gweler [Gwefan Llywodraeth Cymru] (https://www.llyw.cymru/ffliw-adar-0#127016)
- Mae methu â chydymffurfio â’r mesurau gofynnol yn y drwydded hon yn drosedd o dan Adran 73 o Ddeddf Iechyd Anifeiliaid 1981. Os yw rhywun yn euog o gyflawni trosedd o dan yr adran hon, y gosb yw uchafswm o chwe mis yn y carchar neu ddirwy nad yw’n uwch na Lefel 5 ar y raddfa safonol, neu’r ddau.
Cysylltu â ni
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y drwydded gyffredinol hon, cysylltwch â’r Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion.
Dylech gynnwys eich enw, eich cyfeiriad llawn a’ch rhif ffôn fel y gallwn sicrhau bod eich ymholiad yn cael ei gyfeirio at yr arbenigwr cywir.
