Neidio i'r prif gynnwy
  • Deddf Iechyd Anifeiliaid 1981 (fel y’i diwygiwyd)
  • Gorchymyn Ffliw Adar a Ffliw sy’n Deillio o Adar mewn Mamaliaid (Cymru) (Rhif 2) 2006 (fel y’i diwygiwyd) – Atodlen 4 paragraffau 14 ac 16; Atodlen 5 paragraff 11
  • Gorchymyn Ffliw Adar a Ffliw sy’n Deillio o Adar mewn Mamaliaid (Lloegr) (Rhif 2) 2006 (fel y’i diwygiwyd) – Atodlen 4 paragraffau 14 ac 16; Atodlen 5 paragraff 11 

Mae’r drwydded hon, yn amodol ar gydymffurfiaeth â’r amodau a nodir yn yr Atodlen o Amodau isod, yn caniatáu symud wyau (gan gynnwys gwastraff wyau) i’w gwaredu yn uniongyrchol o safle y tu allan i barth gwarchod neu barth gwyliadwriaeth i safle sgil-gynhyrchion anifeiliaid cymeradwy mewn parth gwarchod neu barth gwyliadwriaeth yng Nghymru neu Loegr.

Dim ond symudiadau sydd fel arall yn cael eu gwahardd gan ddatganiad a gyhoeddwyd mewn ymateb i achosion o H5NX sy’n cael eu caniatáu o dan y drwydded hon, lle mae H5NX yn unrhyw straen o feirws ffliw adar pathogenig iawn cytras 2.3.4.4b, er enghraifft H5N1, H5N5. Nid yw’n caniatáu symudiadau sydd wedi’u gwahardd gan ddatganiad a gyhoeddwyd mewn ymateb i achosion o unrhyw straen arall o HPAI.

Mae’r drwydded hon yn ddilys o 5:16pm ar 4 Mawrth 2025 hyd nes y caiff ei hatal neu ei dirymu’n ysgrifenedig.

Cyhoeddwyd y drwydded hon gan Arolygydd Milfeddygol a benodwyd gan Weinidogion Cymru/yr Ysgrifennydd Gwladol.

Llofnodwyd: Emily Hayes, Arolygydd Milfeddygol

Dyddiad:      4 Mawrth 2025 Amser: 5:16pm

Atodlen yr amodau

  1. Rhaid i wyau sy’n cael eu symud o dan y drwydded hon gael eu gwaredu mewn safle a gymeradwywyd o dan Erthygl 24 o Reoliad (CE) 1069/2009.
  2. Rhaid i’r gwaith symud ddigwydd yn uniongyrchol i safle’r cyrchfan.
  3. Rhaid trin wyau sy’n cael eu symud o dan y drwydded hon yn unol â Rheoliad (CE) 1069/2009 a gymathwyd a phob deddfwriaeth arall ar sgil-gynhyrchion anifeiliaid bob amser.
  4. Rhaid i’r trwyddedai sicrhau bod yr wyau yn cael eu trin â gwres yn safle’r cyrchfan, ac eithrio pan fyddant eisoes wedi’u trin â gwres cyn eu symud, heb oedi gormodol, i ddinistrio unrhyw feirws ffliw adar a allai fod yn bresennol.
  5. Rhaid i’r trwyddedai sicrhau nad yw plisgyn wy yn cael ei daenu’n uniongyrchol ar y tir ar ffurf heb ei brosesu neu ei ddefnyddio mewn unrhyw gynhyrchion sy’n cael eu bwydo i anifeiliaid.
  6. Yn union cyn symud yr wyau o’u safle gwreiddiol, rhaid i’r person sy’n symud yr wyau tra’n dibynnu ar y drwydded hon archwilio cofnodion deor y safle gwreiddiol ac unrhyw ddofednod byw ar y safle i sicrhau nad ydynt yn dangos unrhyw arwyddion clinigol (Ffliw adar | LLYW.CYMRU /  (https://www.gov.uk/guidance/avian-influenza-bird-flu) a allai fod yn gysylltiedig â ffliw adar.
  7. Rhaid i unrhyw gerbyd sy’n cludo wyau o dan y drwydded hon fod yn un sy’n:
    • atal gollyngiadau;
    • wedi’i orchuddio fel na all unrhyw ran o’i lwyth syrthio neu ddianc o’r cerbyd;
    • fod â phecyn gollyngiadau i’w ddefnyddio mewn achos o ollyngiad yn ystod y broses gludo.
  8. Rhaid glanhau a diheintio olwynion a bwâu olwyn unrhyw gerbyd a ddefnyddir i gludo wyau o dan y drwydded hon ar ôl llwytho a chyn gadael y safle gwreiddiol. Rhaid i’r gwaith glanhau a diheintio ddigwydd mewn man lle nad oes modd i’r cerbyd gael ei halogi y tu hwnt i’r fan honno gan laid, slyri, tail dofednod, plu, sarn, plisgyn wy neu unrhyw ddeunydd tebyg.
  9. Ar ôl dadlwytho yn safle’r cyrchfan:
  • rhaid glanhau a diheintio’r rhannau o’r cerbyd ac unrhyw offer a ddefnyddiwyd i gludo unrhyw beth a allai fod wedi’i halogi gan laid, slyri, tail dofednod, ysgarthion, plu neu unrhyw ddeunydd tebyg arall, a hynny ar y safle;
  • rhaid glanhau a diheintio olwynion a bwâu olwynion y cerbyd cyn gadael safle’r cyrchfan.
  1. Rhaid i berson sy’n dibynnu ar y drwydded hon sicrhau ei fod ef ac unrhyw berson sy’n cael ei gyflogi ganddo neu sy’n ei gynorthwyo yn gwneud y canlynol:
  • peidio â mynd i mewn i unrhyw safle dofednod neu adar caeth, neu adael unrhyw safle o’r fath, os yw/ydynt yn gwisgo dillad neu esgidiau sy’n amlwg wedi’u baeddu gan laid, ysgarthion dofednod neu adar, neu unrhyw ddeunydd tebyg;
  • yn glanhau ac yn diheintio ei esgidiau/eu hesgidiau cyn mynd i mewn neu adael unrhyw safle neu fan lle mae dofednod neu adar caeth yn bresennol
  • yn tynnu unrhyw ddillad tafladwy cyn gadael safle dofednod neu adar caeth a pheidio â’u hailddefnyddio ar safle arall;
  • yn sicrhau bod dillad nad ydynt yn dafladwy, sy’n cael eu gwisgo tra’n dibynnu ar y drwydded hon, yn lân ac yn rhydd o unrhyw halogiad gweladwy cyn gadael safle dofednod neu adar caeth; #
  • yn cymryd pob rhagofal rhesymol arall i osgoi trosglwyddo llaid, slyri, tail anifeiliaid, ysgarthion, plu neu unrhyw ddeunydd tebyg arall rhwng safleoedd.  
  1. Rhaid i’r gwaith glanhau a diheintio gydymffurfio ag Erthygl 66 o’r Gorchymyn.
  2. Nid yw’r drwydded hon yn berthnasol i unrhyw safle sy’n destun i gyfyngiadau gan hysbysiad a gyflwynwyd o dan y Gorchymyn.

Nodiadau esboniadol

  1. Os nad yw’r drwydded hon yn berthnasol i’r gweithgaredd rydych yn dymuno ymgymryd ag ef, neu os na allwch gydymffurfio ag unrhyw un o’r telerau ac amodau sy’n berthnasol i ddefnyddio’r drwydded hon, yna bydd angen i chi wneud cais am drwydded benodol.
  2. Mae ystyr y termau a ddefnyddir yn y ddogfen hon fel a ganlyn:
    1. ystyr “wy” yw unrhyw ran o wy, gan gynnwys gwastraff wyau, cynhyrchion wyau hylif a phlisgyn wy;
    2. ystyr “safle sgil-gynhyrchion anifeiliaid cymeradwy” yw safle a gymeradwywyd o dan Erthygl 24 o Reoliad (CE) 1069/2009 a gymathwyd;
    3. ystyr “safle’r cyrchfan” yw’r lleoliad sgil-gynnyrch anifeiliaid cymeradwy lle symudir wyau iddo o dan y drwydded hon;
    4. ystyr “safle gwreiddiol wyau” yw’r safle lle cynhyrchwyd yr wyau;
    5. ystyr “y Gorchymyn” yw Gorchymyn Ffliw Adar a Ffliw sy’n Deillio o Adar mewn Mamaliaid (Cymru) (Rhif 2) 2006 (fel y’i diwygiwyd) mewn perthynas â Chymru neu Orchymyn Ffliw Adar a Ffliw sy’n Deillio o Adar mewn Mamaliaid (Lloegr) (Rhif 2) 2006 (fel y’i diwygiwyd) mewn perthynas â Lloegr;
    6. ystyr “safle gwreiddiol” yw’r safle y mae wyau yn cael eu symud ohono o dan y drwydded hon;
    7. ystyr “parth gwarchod” yw parth o’r enw hwnnw a ddatganwyd o dan y Gorchymyn;
    8. ystyr “parth gwyliadwriaeth” yw parth o’r enw hwnnw a ddatganwyd o dan y Gorchymyn.
  3. Rhaid i unigolyn sy’n symud unrhyw beth o dan awdurdod y drwydded hon sicrhau bod ganddo nodyn cludo. Rhaid i’r nodyn cludo gynnwys:
    1. faint o ddeunyddiau sy’n cael eu symud
    2. dyddiad y symudiad
    3. enw’r traddodwr
    4. cyfeiriad y safle gwreiddiol
    5. rhif cofrestru’r cerbyd sy’n casglu
    6. enw’r traddodai
    7. cyfeiriad safle’r cyrchfan gwaredu
  4. Pan fydd angen defnyddio diheintydd o dan y drwydded hon, rhaid defnyddio’r crynodiad cywir, caniatáu amser cyswllt digonol a rhaid iddo fod wedi ei gymeradwyo o dan Orchymyn Clefydau Anifeiliaid (Diheintyddion a Gymeradwywyd) (Cymru) 2007 (fel y’i diwygiwyd) neu Orchymyn Clefydau Anifeiliaid (Diheintyddion a Gymeradwywyd) (Lloegr) 2007 (fel y’i diwygiwyd)
  5. Rhaid i berson sy’n symud unrhyw beth o dan awdurdod y drwydded hon roi ei enw a’i gyfeiriad, dangos y nodyn cludo a chaniatáu i rywun wneud copi llawn neu gopi o ran o’r nodyn cludo, os gofynnir iddo wneud hynny gan arolygydd neu un o swyddogion eraill Gweinidogion Cymru neu’r Ysgrifennydd Gwladol.
  6. Rhaid i ddeiliad y safle gwreiddiol gadw cofnod o symudiadau, gan gynnwys rhif cofrestru unrhyw gerbyd a ddefnyddir, cyn gynted ag sy’n rhesymol ymarferol ar ôl y symudiad, a dylid cadw’r cofnod am o leiaf chwe wythnos ar ôl cwblhau’r symudiad, yn unol â gofyniad Erthygl 74 o’r Gorchymyn yng Nghymru a Lloegr.
  7. Rhaid cydymffurfio â phob deddfwriaeth berthnasol arall. Yn benodol, rhaid cydymffurfio â holl ofynion y ddeddfwriaeth sgil-gynhyrchion anifeiliaid. 
  8. Os ydych chi’n amau achos o glefyd hysbysadwy, rhaid i chi roi gwybod am hyn ar unwaith: 

    Cymru – APHA ar 0300 303 8268 
    Lloegr – llinell gymorth gwasanaethau gwledig Defra ar 03000 200 301 

  9. Rhaid i bawb sy’n cadw adar gadw llygad barcud ar eu hadar am arwyddion o glefydau a sicrhau bioddiogelwch da bob amser https://www.gov.uk/guidance/bird-flu-avian-influenza-how-to-prevent-it-and-stop-it-spreading . Os oes gennych unrhyw bryderon am iechyd eich adar, gofynnwch am gyngor gan eich milfeddyg yn ddi-oed.
  10. Am ragor o fanylion ynghylch deddfwriaeth sy’n ymwneud â ffliw adar yng Nghymru, gweler [Gwefan Llywodraeth Cymru] (https://www.llyw.cymru/ffliw-adar-0#127016)  
  11. Mae methu â chydymffurfio â’r mesurau gofynnol yn y drwydded hon yn drosedd o dan Adran 73 o Ddeddf Iechyd Anifeiliaid 1981. Os yw rhywun yn euog o gyflawni trosedd o dan yr adran hon, y gosb yw uchafswm o chwe mis yn y carchar neu ddirwy nad yw’n uwch na Lefel 5 ar y raddfa safonol, neu’r ddau.

Cysylltu â ni

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y drwydded gyffredinol hon, cysylltwch â’r Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion

Dylech gynnwys eich enw, eich cyfeiriad llawn a’ch rhif ffôn fel y gallwn sicrhau bod eich ymholiad yn cael ei gyfeirio at yr arbenigwr cywir.