Neidio i'r prif gynnwy

Rhagair

Mae cychwyn y Ddyletswydd Economaidd-gymdeithasol (“y Ddyletswydd”) yn amlygu ymrwymiad Llywodraeth Cymru i ddiogelu cydraddoldeb a hawliau dynol. 

Mae’r Ddyletswydd yn rhoi cyfle inni wneud pethau’n wahanol yng Nghymru. Mae’n rhoi mynd i’r afael ag anghydraddoldeb wrth wraidd y broses o wneud penderfyniadau, a bydd yn adeiladu ar y gwaith da y mae cyrff cyhoeddus eisoes yn ei wneud.

Ni fu erioed adeg mwy perthnasol i weithredu. Mae bod yn aelod o’r UE ers degawdau wedi esgor ar fanteision lu yng Nghymru. Mae’r manteision hyn yn cyffwrdd â nifer o agweddau ar fywyd bob dydd, gan gynnwys hawliau cyflogaeth, hawliau amgylcheddol a rheoliadau iechyd a diogelwch. Fodd bynnag, mae ymadael â’r UE yn creu ansicrwydd mawr a bydd yn debygol o gynyddu’r anghydraddoldeb sy’n bodoli ar hyn o bryd. 

Ar wahân i hynny, rydym yn gwybod bod COVID-19 wedi cynyddu anghydraddoldebau yng Nghymru , ac mae’r dystiolaeth yn dangos nad oes unrhyw amheuaeth bod cysylltiad rhwng anghydraddoldeb ac anfantais economaidd-gymdeithasol.

Ni fydd cychwyn y Ddyletswydd yn disodli nac yn cystadlu â dyletswyddau eraill fel Deddf Cydraddoldeb 2010, Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus, Mesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010 a’r Ddyletswydd Llesiant o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015. Ein bwriad yw y bydd cychwyn y Ddyletswydd yn ategu’r dyletswyddau hyn drwy gyfrannu ymhellach at nodau llesiant hirdymor Cymru, yn enwedig “Cymru sy’n fwy cyfartal” a “Cymru o gymunedau cydlynus”. Bydd hyn yn cryfhau trefniadau partneriaethau cymdeithasol ymhellach ac yn datblygu uchelgeisiau gwaith teg.

Y nod felly yw y bydd y Ddyletswydd yn fecanwaith allweddol arall i gefnogi’r bobl fwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas. Bydd mynnu bod cyrff cyhoeddus yn gwneud penderfyniadau gwell, penderfyniadau sy’n rhoi lle canolog i ystyried anghydraddoldeb canlyniadau sy’n deillio o anfantais economaidd-gymdeithasol, yn helpu i fynd i’r afael ag ansicrwydd gadael yr UE a’n hadferiad o COVID-19, gan ganiatáu inni symud at ailgreu Cymru sy’n fwy teg a llewyrchus. 

Jane Hutt 
y Dirprwy Weinidog a’r Prif Chwi

Cyflwyniad

Daeth y Ddyletswydd Economaidd-gymdeithasol i rym yng Nghymru ar 31 Mawrth 2021. Bydd yn arwain at benderfyniadau gwell ac yn y pen draw bydd yn cyflawni canlyniadau gwell i’r rheini sydd dan anfantais economaidd-gymdeithasol.

Mae’r canllawiau statudol hyn yn helpu’r cyrff cyhoeddus a ddaw dan y Ddyletswydd (“cyrff cyhoeddus”) i gyflawni gofynion y Ddyletswydd. 

Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod bod cyrff cyhoeddus yn gweithredu’n wahanol ac felly mae arni eisiau hybu arloesedd wrth gyflawni’r Ddyletswydd, gan groesawu gwahanol ddulliau gweithredu.

Rydym yn gwybod bod llawer o waith da eisoes yn cael ei wneud i leihau anghydraddoldeb ar draws y sector cyhoeddus a nod Llywodraeth Cymru a’r canllawiau hyn yw adeiladu ar y sylfaen gref hon.

Mae’r canllawiau hyn yn statudol ac wedi cael eu llywio gan yr adborth a gafwyd drwy’r ymgynghoriad ffurfiol a’r digwyddiadau ymgysylltu a gynhaliwyd ledled Cymru. Cafodd y canllawiau eu cydgynhyrchu â chynrychiolwyr o’r cyrff cyhoeddus a ddaw dan y Ddeddf, a chynrychiolwyr o’r Trydydd Sector. Rhoddwyd cyngor gan Gyngres Undebau Llafur Cymru, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, a’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol.

Mae amrywiaeth o adnoddau i gefnogi cyrff cyhoeddus, ac sy’n sail i’r canllawiau hyn, ar gael ar dudalen we y Ddyletswydd Economaidd gymdeithasol.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y canllawiau hyn, cysylltwch â the equalityandhumanrightsdivision@llyw.cymru.

Diolch i bawb sydd wedi cyfrannu.

Y cyrff cyhoeddus a ddaw dan y Ddyletswydd

Mae Rheoliadau Deddf Cydraddoldeb (Awdurdodau sy’n ddarostyngedig i’r Ddyletswydd Anghydraddoldeb Economaidd-gymdeithasol) (Cymru) 2021 yn rhestru’r cyrff cyhoeddus canlynol yng Nghymru fel rhai sy’n ddarostyngedig i’r Ddyletswydd, gan eu bod yn perthyn i’r diffiniad o ‘awdurdod perthnasol’ yn adran 2(6) o’r Ddeddf.

  • Gweinidogion Cymru
  • Cynghorau Sir neu Gynghorau Bwrdeistref Sirol
  • Byrddau Iechyd Lleol
  • Ymddiriedolaethau’r GIG
  • Awdurdodau Iechyd Arbennig (sy’n gweithredu yng Nghymru yn unig)
  • Awdurdodau Tân ac Achub
  • Awdurdodau Parciau Cenedlaethol
  • Awdurdod Cyllid Cymru

Y cyfrifoldeb dros gydymffurfio â’r Ddyletswydd

Yn y pen draw, y corff cyhoeddus unigol sy’n gyfrifol am gydymffurfio â’r Ddyletswydd, yn amodol ar ei drefniadau ar gyfer dirprwyo swyddogaethau’n fewnol i gabinetau, i fyrddau, i bwyllgorau neu i swyddogion.

Yn yr un modd ag agendâu cydraddoldeb eraill; argymhellir bod arweinwyr yn enwi uwch hyrwyddwr ar gyfer y Ddyletswydd hon.

Y cyd-destun polisi

Mae cydraddoldeb yn fater sy’n ymwneud â phawb. Mae awdurdodau cyhoeddus yn gwneud penderfyniadau bob dydd ac mae’n bosibl i bob un o’r rhain gael effaith fawr ar fywydau pobl. Wrth wneud y penderfyniadau hyn, rhaid i awdurdodau cyhoeddus gydymffurfio â nifer o ddyletswyddau statudol. 

Roedd Adran 149 o Ddeddf Cydraddoldeb (2010) yn cyflwyno un Ddyletswydd Cydraddoldeb Sector Cyhoeddus, neu “ddyletswydd gyffredinol”, a oedd yn mynnu bod awdurdodau cyhoeddus a chyrff eraill a oedd yn cyflawni swyddogaethau cyhoeddus, yn ystyried yr angen i:

  • ddileu gwahaniaethu, aflonyddu, erlid ac unrhyw ymddygiad arall sydd wedi’i wahardd gan neu o dan y Ddeddf
  • hyrwyddo cyfle cyfartal rhwng pobl sy’n rhannu nodwedd warchodedig a’r rheini nad ydynt yn ei rhannu
  • meithrin perthynas dda rhwng pobl sy’n rhannu nodwedd warchodedig a’r rheini nad ydynt yn ei rhannu

Er bod y ‘ddyletswydd gyffredinol’ yn llywio penderfyniadau cadarn mewn perthynas â chydraddoldeb, nid yw’n mynnu bod cyrff cyhoeddus yn ystyried effaith y penderfyniadau hyn ar yr unigolion hynny sy’n wynebu anfantais economaidd-gymdeithasol. Yn lle hynny, mae’n annog cyrff cyhoeddus i ddeall sut y bydd eu gweithgareddau’n effeithio ar wahanol grwpiau o bobl sydd â nodweddion gwarchodedig penodol, er mwyn i’r gwaith o ddylunio a chyflawni polisïau a gwasanaethau ystyried anghenion y grwpiau hynny.

Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 yn rhoi diben cyffredin sy’n rhwymo’n gyfreithiol, y saith nod llesiant, ar gyfer llywodraeth genedlaethol, llywodraeth leol, byrddau iechyd lleol a chyrff cyhoeddus penodol eraill. Mae’n rhoi manylion sut y mae’n rhaid i gyrff cyhoeddus penodol weithio, a chydweithio i wella llesiant Cymru. Mae’r saith nod llesiant a’r pum ffordd o weithio a nodir yn y Ddeddf wedi cael eu dylunio i gefnogi ac i ddarparu gwasanaeth cyhoeddus sy’n diwallu anghenion y presennol heb amharu ar allu cenedlaethau’r dyfodol. Mae’r Ddyletswydd hefyd yn cefnogi’r diben cyffredin a’r ffyrdd o weithio.

Er ei bod yn rhaid i awdurdodau cyhoeddus yng Nghymru gydymffurfio â nifer o ddyletswyddau statudol, gan gynnwys rhai sy’n ceisio gwreiddio ystyriaethau cydraddoldeb drwyddi draw, mae angen gwneud mwy i ddileu anghydraddoldeb canlyniadau sy’n gysylltiedig ag anfantais economaidd-gymdeithasol.

Y cefndir deddfwriaethol

Pan gafodd Deddf 2010 ei deddfu, roedd y Ddyletswydd yn segur ar y llyfr statud, gan fod Llywodraeth y DU wedi dewis peidio â’i chychwyn. Roedd Deddf Cymru 2017 yn deddfu ar gyfer model newydd o ddatganoli yng Nghymru, a oedd yn cynnwys y pŵer i Weinidogion Cymru gychwyn y Ddyletswydd yng Nghymru. Mae Adran 45 o Ddeddf Cymru 2017, yn diwygio Rhan 1 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010 i gyflawni hyn. Mae Gweinidogion Cymru wedi defnyddio’r pŵer hwn i gychwyn Adrannau 1 i 3 o Ddeddf 2010 yng Nghymru, y Ddyletswydd Economaidd-gymdeithasol.

Adran 1

Mae’n nodi’r Ddyletswydd ei hun, sy’n mynnu bod cyrff cyhoeddus, y mae’r ddyletswydd yn berthnasol iddynt:

Wrth wneud penderfyniadau strategol ynghylch sut byddant yn cyflawni eu swyddogaethau, yn ystyried pa mor briodol yw eu harfer mewn ffordd sydd wedi cael ei dylunio i leihau anghydraddoldebau canlyniadau sy’n deillio o anfantais economaidd-gymdeithasol.

Mae’n rhestru’r cyrff a ddaw dan y Ddyletswydd, a gofyniad sy’n golygu, wrth benderfynu sut i gyflawni’r Ddyletswydd, bod yn rhaid i’r cyrff cyhoeddus yng Nghymru y mae’r ddyletswydd yn berthnasol iddynt ystyried canllawiau a gyhoeddir gan Weinidogion Cymru. 

Adran 2

Mae’n rhoi pŵer i Weinidogion Cymru lunio rheoliadau i ddiwygio adran 1(3) o Ddeddf 2010. Mae hyn yn cynnwys y pŵer i ychwanegu cyrff cyhoeddus yng Nghymru y bydd y Ddyletswydd yn berthnasol iddynt.

Adran 3 

Mae’n egluro na fydd y Ddyletswydd yn creu unrhyw hawliau traddodadwy newydd i unigolion. Yn gryno, mae’r Ddyletswydd yn rhoi cyfrifoldeb cyfreithiol ar gyrff pan fyddant yn gwneud penderfyniadau strategol i roi sylw dyledus i’r angen i leihau’r anghydraddoldebau canlyniadau sy’n deillio o anfantais economaidd gymdeithasol.

Sylwch fod adran 1(6) o Ddeddf 2010 yn datgan nad oes yn rhaid i gyrff ystyried anghydraddoldebau sy’n dod i ran pobl sy’n ddarostyngedig i reolaeth fewnfudo. Nid oes dyletswydd adrodd ynghlwm wrth y Ddyletswydd. Fodd bynnag, mae’n ddyletswydd statudol a rhaid i gyrff allu dangos sut maent wedi’i chyflawni.

Os bydd penderfyniad corff cyhoeddus yn effeithio’n niweidiol ar fuddiannau unigolyn neu grŵp, mewn amgylchiadau lle nad oedd yr unigolyn neu’r grŵp yn teimlo y cydymffurfiwyd yn llawn â’r Ddyletswydd, mae modd cychwyn hawliad adolygiad barnwrol yn erbyn y corff hwnnw. (Gweler yr adran ar Ddangos Sylw Dyledus).

Diffinio’r prif dermau

Mae’r testun isod yn edrych ar y prif dermau sy’n gysylltiedig â’r Ddyletswydd.

Sef:

  • anfantais economaidd-gymdeithasol
  • anghydraddoldebau canlyniadau
  • penderfyniadau strategol eu natur
  • sylw dyledus

Mae’r diffiniadau hyn wedi cael eu datblygu o waith polisi a wnaed gan Lywodraeth Cymru, drwy drafodaethau â rhanddeiliaid allweddol a drwy ystyried canllawiau Dyletswydd Alban Decach, 2018

Anfantais economiadd-gymdeithasol

Diffiinad: byw mewn amgylchiadau cymdeithasol ac economaidd llai ffafriol na phobl eraill yn yr un gymdeithas.

Mae anfantais economaidd-gymdeithasol yn gallu bod yn anghymesur mewn cymunedau buddiant a chymunedau lle, gan arwain at ragor o anghydraddoldeb canlyniadau, sy’n gallu bod yn waeth wrth ystyried rhyngblethedd. Cymunedau buddiant Mae’r rheini syn rhannu hunaniaeth yn cael eu disgrifio fel ‘cymunedau buddiant’. Er enghraifft, efallai fod y bobl hyn yn: unig rieni; gofalwyr; y rheini sy’n rhannu iaith gyntaf; neu’r rheini sy’n rhannu un neu ragor o’r nodweddion gwarchodedig sy’n cael eu rhestru yn Neddf Cydraddoldeb 2010. Ar ben hynny, grwpiau o bobl sy’n rhannu profiad, er enghraifft: pobl sydd wedi bod yn ddigartref; pobl sydd wedi defnyddio’r un system iechyd a gofal cymdeithasol leol; neu wasanaeth lleol. Yn unol â hynny, mae’n debyg y bydd pobl yn rhan o fwy nag un gymuned fuddiant.

Cymunedau lle Mae’r rheini sy’n rhannu lleoliad daearyddol, yn cael eu disgrifio fel ‘cymunedau lle’. Er enghraifft, gallai’r lleoliadau hyn olygu lle mae pobl yn byw, yn gweithio, yn ymweld â nhw neu’n treulio llawer iawn o’u hamser yno. Nid yw anfantais economaidd-gymdeithasol yn parchu ffiniau trefol a gwledig, mae’r ffactorau hyn yn gallu cynyddu anfantais. Rhyngblethedd Mae’r Adolygiad o Gydraddoldeb Rhywiol yn diffinio rhyngblethedd fel hyn:

Cydnabod y ffordd y mae strwythurau pŵer sy’n seiliedig ar ffactorau fel rhywedd, hil, rhywioldeb, anabledd, dosbarth, oedran a ffydd yn rhyngweithio â’i gilydd ac yn creu anghydraddoldeb, gwahaniaethu a gormes. Yn hanfodol, mae’n ymwneud â deall y ffordd y mae nodweddion, fel rhywedd, hil neu ddosbarth, yn gallu rhyngweithio a chynhyrchu anfantais a phrofiadau unigryw a lluosog yn aml mewn sefyllfaoedd penodol. Ni ellir ac ni ddylid deall un math o wahaniaethu ar wahân i un arall. Mae dull cwbl rhyngblethol yn sicrhau nad yw hyn yn digwydd.

Anghydraddoldebau canlyniadau

Diffiniad: mae anghydraddoldeb canlyniadau yn ymwneud ag unrhyw wahaniaeth mae modd ei fesur yn y canlyniad a gaiff y rheini sydd wedi wynebu anfantais economaidd-gymdeithasol a’r canlyniad a gaiff gweddill y boblogaeth.

Dylai cyrff cyhoeddus ddeall lle gallant gael yr effaith gadarnhaol fwyaf o ran lleihau anghydraddoldebau canlyniadau.

Mae’r diagram isod yn dangos bod anfantais economaidd-gymdeithasol yn ffactor sy’n arwain at ganlyniad anghyfartal (anghydraddoldeb canlyniadau). Mae’r derminoleg a ddefnyddir yn y diagram yn adlewyrchu fframwaith mesur y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol ar gyfer cydraddoldeb a hawliau dynol.

Anfantais economaidd-gymdeithasol

  • amddifadedd ardal
  • cyfoeth isel/ dim cyfoeth
  • cefndir economaidd-gymdeithasol
  • incwm isel/ dim incwm
  • amddifadedd materol

Canlyniad anghyfartal

  • addysg: y gallu i fod yn wybodus
  • iechyd: y gallu i fod yn iach, yn gorfforol ac yn feddyliol
  • gwaith: y gallu I weithio mewn amodau teg a ffafriol
  • cyfiawnder a diogelwch personol: y gallu i osgoi morbidrwydd cynnar
  • safonau byw: y gallu i fwynhau safon byw cyfforddus
  • cyfranogiad: y gallu i gymryd rhan mewn prosesau gwneud penderfyniadau o fewn cymunedau, gan fanteisio ar wasanaethau

Anghydraddoldeb a phandemig COVID-19 

Ym mis Awst 2020, cyhoeddodd y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau adroddiad “Amlygu’r materion: anghydraddoldeb a’r pandemig.” Mae’r adroddiad yn datgan:

Yn ystod y pandemig, mae ein tebygolrwydd o farw, colli swydd neu fynd ar ei hôl hi ym maes addysg wedi cael ei benderfynu’n rhannol gan ein hoedran, hil, rhyw, anabledd, incwm a ble rydyn ni’n byw. Mae’r feirws a’r ymateb iddo yn ehangu’r anghydraddoldebau presennol, a hynny drwy leihau incwm a chynyddu risgiau yn anghymesur i rai grwpiau o bobl.

Mae ciplun o enghreifftiau o anghydraddoldebau canlyniadau a sut maent wedi cynyddu o ganlyniad i COVID-19 ar gael ar dudalen we Dyletswydd Economaidd-gymdeithasol Llywodraeth Cymru. 

Cael gafael ar dystiolaeth

Mae amryw o ffyrdd y gall cyrff cyhoeddus ddeall anghydraddoldebau canlyniadau yn well a lle gallant gael yr effaith fwyaf ar leihau canlyniadau anghyfartal o ganlyniad i anfantais economaidd-gymdeithasol. Bydd cyrff cyhoeddus eisoes yn gallu cael gafael ar ystod eang o ddata meintiol ac ansoddol. Dyma enghreifftiau o ddata lefel uchel, sy’n cael eu diweddaru’n rheolaidd:

Bydd rhai cyrff cyhoeddus yn gallu casglu tystiolaeth drwy eu haelodaeth o Fyrddau Gwasanaethau Cyhoeddus a sefydlwyd o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015, sy’n cynnal asesiadau o lesiant lleol er mwyn cyfrannu at ddatblygu cynlluniau llesiant lleol.

Mae gan rai cyrff cyhoeddus hefyd ddyletswydd dan Fesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010 i osod amcanion ar gyfer mynd i’r afael â thlodi plant. Mae rhai cyrff cyhoeddus yn gallu cyflawni’r ddyletswydd hon drwy gyhoeddi eu cynllun llesiant lleol ond dim ond os yw eu strategaeth tlodi plant yn rhan annatod o’r cynllun hwnnw. Mae cyrff cyhoeddus eraill yn gallu nodi eu hamcanion tlodi plant yn eu cynllun sefydliadol neu efallai byddant yn cyhoeddi strategaeth tlodi plant ar wahân. Bydd y cyrff cyhoeddus a ddaw dan y Ddyletswydd yn gallu defnyddio tystiolaeth ynghylch yr hyn sy’n gweithio’n dda wrth fynd i’r afael â’r anghydraddoldebau hynny sy’n gysylltiedig â thlodi, yn ogystal â’r mesurau hynny sy’n helpu i atal a mynd i’r afael ag anfantais economaidd-gymdeithasol.

Ar wahân, argymhellir bod cyrff cyhoeddus yn ymgysylltu’n uniongyrchol ag unigolion a chymunedau y mae anfantais economaidd-gymdeithasol yn effeithio arnynt er mwyn cyfrannu at benderfyniadau strategol.

Gweithio gyda Phartneriaid Trydydd Sector

Drwy gydol argyfwng COVID-19 a llifogydd 2020, dangosodd y Trydydd Sector pa mor hanfodol oedd ei waith gyda chyrff cyhoeddus i gefnogi ein cymunedau. Gan adeiladu ar yr arfer da hwn, dylai cyrff cyhoeddus ymgysylltu â phartneriaid yn y Trydydd Sector wrth asesu effaith eu penderfyniadau strategol ar anghydraddoldebau canlyniadau sy’n gysylltiedig ag anfantais economaidd-gymdeithasol.

Felly, er mwyn helpu cyrff cyhoeddus i gyflawni’r Ddyletswydd, dylai cyrff cyhoeddus fabwysiadu’r egwyddorion a nodir yng Nghynllun Trydydd Sector Llywodraeth Cymru, er enghraifft:

  • Mae’r Trydydd Sector yn gallu helpu i drawsnewid y ffordd mae gwasanaethau cyhoeddus yn bodloni gofynion nawr ac yn y dyfodol, drwy drin pobl a chymunedau fel asedau ac yn gyfartal wrth ddylunio a darparu gwasanaethau, nid dim ond eu trin fel y rheini a fydd yn derbyn gwasanaethau.
  • Mae’n gwneud i adnoddau fynd ymhellach o lawer drwy eu defnyddio mewn ffyrdd gwahanol a newydd sy’n cryfhau unigolion a chymunedau.
  • Rhaid i bartneriaethau effeithiol fod yn seiliedig ar werthfawrogiad o gyfraniad neilltuol pob parti.
  • Mae modd cyflawni hyn drwy ymgysylltu ac ymgynghori’n gynnar â’r sector ynghylch yr effaith a chyfraniad y Trydydd Sector at y penderfyniadau polisi.

Penderfyniadau strategol eu natur

Diffinid: yn gyffredinol, penderfyniadau strategol fydd y rheini sy’n effeithio ar sut mae’r corff cyhoeddus yn cyflawni ei bwrpas statudol arfaethedig (ei swyddogaethau o ran y set o bwerau a dyletswyddau y mae’n eu defnyddio i gyflawni ei gylch gwaith) dros gyfnod sylweddol ac ni fyddant yn cynnwys penderfyniadau arferol ‘o ddydd i ddydd’.

Efallai mai dim ond yn flynyddol y bydd penderfyniadau o’r fath yn cael eu gwneud mewn rhai cyrff cyhoeddus, ond byddant yn cael eu gwneud yn amlach mewn achosion eraill. 

Bydd y Ddyletswydd yn berthnasol i benderfyniadau strategol newydd ac wrth adolygu penderfyniadau strategol blaenorol. Sylwer nad yw’r Ddyletswydd yn ôl-weithredol, sy’n golygu nad oes yn rhaid i gyrff cyhoeddus roi sylw dyledus i benderfyniadau sydd wedi’u gwneud cyn iddi gael ei chychwyn. 

Dyma rai enghreifftiau (nid rhestr gynhwysfawr) o benderfyniadau strategol y gall cyrff cyhoeddus eu gwneud: 

  • Cyfarwyddeb a bwriad strategol
  • Cynlluniau tymor canolig i hir (er enghraifft, cynlluniau corfforaethol, cynlluniau datblygu, cynlluniau cyflenwi gwasanaethau a chynlluniau gwella)
  • Gosod amcanion (er enghraifft, amcanion llesiant, Deddf Cydraddoldeb, amcanion cydraddoldeb 2010, strategaeth iaith Gymraeg)
  • Newid a datblygu gwasanaethau cyhoeddus
  • Cynllunio ariannol strategol
  • Penderfyniadau caffael a chomisiynu mawr
  • Datblygu polisïau strategol
  • Strategaethau a ddatblygir gan Fyrddau Partneriaeth Rhanbarthol a Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus (Nid yw Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol na Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus yn dod o dan y Ddyletswydd, edrychwch ar dudalen X i gael rhagor o wybodaeth am weithio mewn partneriaeth)

Sylw dyledus

Diffiniad: rhoi pwys i fater penodol sy’n gymesur â’i berthnasedd.

Mae sylw dyledus yn gysyniad cyfreithiol sefydledig mewn cyfraith cydraddoldeb a chyhoeddus. Dylai cyrff cyhoeddus ddeall y cysyniad o sylw dyledus mewn perthynas â Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus. Mae’n golygu rhoi pwys i fater penodol sy’n gymesur â’i berthnasedd. Mae’r un egwyddorion yn berthnasol i’r Ddyletswydd hon rhoi sylw dyledus i leihau anghydraddoldebau canlyniadau a achosir gan anfantais economaidd-gymdeithasol. 

Dangos ‘sylw dyledus’

Yn yr un modd â Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus, gall unigolyn neu grŵp ddwyn achos adolygiad barnwrol yn erbyn corff cyhoeddus a ddaw dan y Ddyletswydd os ydynt yn credu nad yw’r corff cyhoeddus wedi ystyried anfantais economaidd-gymdeithasol wrth wneud penderfyniadau strategol eu natur. 

Er mwyn sicrhau bod cyrff cyhoeddus yn gallu darparu tystiolaeth ynghylch sut maent yn bodloni eu gofynion statudol o dan y Ddyletswydd, argymhellir eu bod yn cadw trywydd archwilio ar gyfer yr holl benderfyniadau perthnasol a wneir. Yn y cyd-destun hwn, dylai ‘trywydd archwilio’ adlewyrchu cofnod cam wrth gam o’r dystiolaeth a gasglwyd fel sail i benderfyniad, gan gynnwys:

  • tystiolaeth sy’n nodi unrhyw effeithiau tebygol a gaiff penderfyniad o’r fath mewn perthynas â’r Ddyletswydd Economaidd-gymdeithasol
  • thystiolaeth o sut y rhoddwyd sylw dyledus, gan gynnwys cofnodion o newidiadau a wnaed i’r penderfyniad, er mwyn lleihau anghydraddoldebau canlyniadau o ganlyniad i anfantais economaidd-gymdeithasol

Er mwyn gwella’r ffordd y caiff yr anfantais economaidd-gymdeithasol honno ei hystyried a darparu tystiolaeth bod ‘sylw dyledus’ wedi’i roi, awgrymir ymgorffori hynny mewn prosesau sy’n bodoli eisoes. Gallai hyn gynnwys: asesiadau o’r effaith; systemau ar gyfer ymgysylltu a chynnwys; systemau ar gyfer asesu risg; papurau Bwrdd neu Bwyllgorau; ystyried tueddiadau yn y dyfodol a defnyddio pum ffordd o weithio Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru). Byddai Llywodraeth Cymru hefyd yn annog cyrff i ddod o hyd i ffyrdd newydd ac arloesol o wella i ba raddau mae anfantais gymdeithasol ac economaidd yn cael ei hystyried. 

Sicrhau bod ‘Sylw Dyledus’ wedi’i roi i’r angen i leihau’r anghydraddoldebau canlyniadau sy’n deillio o anfantais economaidd-gymdeithasol.

Rhaid i’r rheini sy’n gwneud penderfyniadau mewn cyrff cyhoeddus fod yn fodlon bod y corff wedi deall y dystiolaeth a’r effaith debygol, ac wedi ystyried a ellir newid y polisi i leihau anghydraddoldeb canlyniadau o ganlyniad i anfantais economaidd-gymdeithasol.

Mae fframwaith craffu i gefnogi’r rheini sy’n gwneud penderfyniadau i gyflawni eu Dyletswydd, gan gynnwys enghreifftiau o dystiolaeth y gallai’r rheini sy’n gwneud penderfyniadau ei chael neu ofyn amdani, ar gael ar wefan Dyletswydd Economaidd-gymdeithasol Llywodraeth Cymru.

Rhoi’r Ddyletswydd ar waith

Mae enghraifft o sut y gallai cyrff cyhoeddus gyflawni’r Ddyletswydd yn ymarferol wedi’i nodi isod gan ddefnyddio dull pum cam:

Cam 1 cynllunio: a yw’r penderfyniad yn benderfyniad strategol?

Cam 2 tystiolaeth: pa dystiolaeth sydd gennych chi am anfantais economaidd-gymdeithasol ac anghydraddoldebau canlyniadau yng nghyswllt y penderfyniad hwn? Ydych chi wedi ymgysylltu â’r rheini y mae’r penderfyniad yn effeithio arnynt? Ydych chi wedi ystyried nodweddion gwarchodedig? Ydych chi wedi ystyried cymunedau lle a chymunedau buddiant?

Cam 3 asesu a gwella: beth yw prif effeithiau’r cynnig? Sut gellir gwella’r cynnig er mwyn iddo leihau anghydraddoldebau canlyniadau o ganlyniad i anfantais economaidd-gymdeithasol? 

Cam 4 y rheini sy'n gwneud penderfyniadau strategol: mae’r cam hwn yn gyfle i’r penderfynwyr gadarnhau bod sylw dyledus wedi cael ei roi, er enghraifft swyddogion gweithredol a chyfarwyddwyr anweithredol, aelodau’r bwrdd a phwyllgorau. Rhaid iddynt fod yn fodlon bod y corff wedi deall y dystiolaeth a’r effaith debygol, ac wedi ystyried a ellir newid y polisi i leihau anghydraddoldeb canlyniadau o ganlyniad i anfantais economaidd-gymdeithasol.

Cam 5: mae’r cam hwn yn gyfle i gyflwyno tystiolaeth a chofnodi sut mae ‘sylw dyledus’ wedi cael ei roi. Dylid gwneud newidiadau i’r penderfyniad a’u cofnodi yn ystod y cam hwn.

Argymhellir bod cyrff cyhoeddus yn ystyried cyfleoedd i wreiddio’r ffordd hon o weithio ym mhrosesau presennol y sefydliad, gan gynnwys y rheini a ddefnyddir i gyflawni eu gofynion deddfwriaethol presennol, gan sicrhau penderfyniadau mwy cyflawn a gwell.

Mae canllaw mapio wedi cael ei baratoi i helpu cyrff cyhoeddus i ystyried cyfleoedd i ddefnyddio’r Ddyletswydd, Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus a dyletswyddau Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol mewn ffordd gyson gan beidio â thanseilio gofynion penodol y dyletswyddau hyn a’r canlyniadau maen nhw’n ceisio eu cyflawni.

Hawliau Dynol

Mae cysylltiad annatod rhwng cydraddoldeb a gwahaniaethu a hawliau dynol. Mae’n bosibl i anfantais economaidd-gymdeithasol amharu ar allu rhywun i ddefnyddio ac i fwynhau’r hawliau dynol sydd ar gael iddynt yn y DU, drwy gymysgedd o gyfraith ddomestig (Deddf Hawliau Dynol 1998), cyfraith yr UE a ddargedwir a chyfraith hawliau dynol ryngwladol. Mae anfantais o’r fath yn gallu arwain at anghydraddoldebau hirdymor mewn addysg, iechyd, bodlonrwydd ar fywyd, ffyniant a chymryd rhan mewn bywyd cyhoeddus.

Bydd mynd ati i weithredu’r Ddyletswydd Economaidd-gymdeithasol yn y ffordd iawn yn helpu cyrff cyhoeddus i gynyddu eu cyfraniad at fynd i’r afael ag anghydraddoldebau o’r fath, ac yn eu helpu i ddiwallu eu rhwymedigaethau o dan Ddeddf Hawliau Dynol 1998 a chyfraith hawliau dynol ryngwladol.

Mae’n anghyfreithlon i gyrff cyhoeddus yng Nghymru weithredu mewn ffordd sy’n mynd yn groes i’r Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol. Mae gan gyrff cyhoeddus hefyd rwymedigaethau fel rhan o’r wladwriaeth i ystyried, i arsylwi ac i weithredu cytuniadau hawliau dynol rhyngwladol sydd wedi’u llofnodi a’u cadarnhau gan y DU. Gyda’i gilydd, mae saith o offerynnau hawliau dynol rhyngwladol wedi cael eu cadarnhau gan y DU, pob un yn berthnasol i elfennau economaidd-gymdeithasol: 

Mae anfantais economaidd-gymdeithasol yn torri ar draws sawl agwedd ar ein cymdeithas. Mae Adroddiad 2020 Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru yn nodi:

Mae mwy o dlodi yng Nghymru yn arwain at hyd yn oed mwy o fwlch ym mhrofiadau a chyfleoedd pobl sy’n cael eu geni i gefndiroedd economaidd-gymdeithasol gwahanol. Mae ein canfyddiadau’n dangos bod y bwlch hwn wedi ehangu’n benodol i fenywod, i bobl anabl ac i rai grwpiau lleiafrifoedd ethnig.

Bydd ategu elfen sylw dyledus y Ddyletswydd gyda chysylltiadau priodol â deddfwriaeth sy’n bodoli eisoes ar gydraddoldeb ac egwyddorion hawliau dynol yn helpu cyrff cyhoeddus i ddeall yn well sut mae anfantais economaidd-gymdeithasol yn rhyngweithio â nodweddion gwarchodedig pobl ac ystyried yn well sut mae’n torri ar draws anghenion penodol a natur fregus grwpiau ymylol. Bydd hyn yn galluogi gwasanaethau cyhoeddus i ganfod yr anghydraddoldebau mwyaf enbyd yn eu hardal ac i adeiladu ar y trefniadau partneriaeth sydd eisoes yn bodoli i ddatblygu ymyriadau strategol a chyfannol.

Cyflawni’r Ddyletswydd wrth gomisiynu a chaffael gwasanaethau

Gan mai dim ond cyrff cyhoeddus penodol sy’n ddarostyngedig i’r Ddyletswydd, mae’r Ddyletswydd yn aros gyda’r corff hwnnw. Felly, ni chaiff y gofyniad i gyflawni’r Ddyletswydd ei drosglwyddo i drydydd parti drwy gaffael, comisiynu neu gontract allanol.

Fodd bynnag, mewn amgylchiadau pan fydd y corff cyhoeddus yn ystyried bod y gweithgaredd hwn yn ymwneud â’r Ddyletswydd, rhaid i’r corff cyhoeddus ystyried sut mae trefniadau o’r fath yn lleihau anghydraddoldebau canlyniadau a achosir gan anfantais economaidd-gymdeithasol.

Cyflawni’r Ddyletswydd wrth weithio mewn partneriaeth

Pan fydd corff cyhoeddus yn gweithio mewn partneriaeth â chyrff nad ydynt yn dod dan y Ddyletswydd, dim ond i’r corff penodol hwnnw y mae’r Ddyletswydd yn berthnasol.

Er enghraifft, mae amrywiaeth o bartneriaid yn datblygu ac yn berchen ar gynlluniau llesiant lleol, ond mae’n rhaid i’r cyrff cyhoeddus hynny sy’n ddarostyngedig i’r Ddyletswydd sicrhau eu bod yn cyflawni eu Dyletswydd drwy ystyried sut bydd yr elfennau o’r cynllun maen nhw’n gyfrifol amdanynt yn lleihau anghydraddoldebau canlyniadau a achosir gan anfantais economaidd-gymdeithasol.

Fodd bynnag, er mai dim ond y cyrff cyhoeddus hynny a nodir yn y rheoliadau fydd o dan ddyletswydd statudol i gydymffurfio ac i ystyried unrhyw ganllawiau a gyhoeddir, byddai Llywodraeth Cymru yn annog pob corff cyhoeddus arall i ystyried yr adnoddau sydd ar gael i’w cefnogi wrth iddynt wneud penderfyniadau.

Monitro a rheoleiddio

Bydd y Ddyletswydd yn gwella’r broses o wneud penderfyniadau mewn cyrff cyhoeddus, a fydd yn arwain at ganlyniadau gwell i’r rheini sy’n dioddef anfantais gymdeithasol ac economaidd. Bydd perfformiad mewn perthynas ag i ba raddau mae cyrff yn bodloni gofynion y Ddyletswydd, a pherfformiad mewn perthynas â gwella anghydraddoldebau canlyniadau o ganlyniad i anfantais economaidd-gymdeithasol yn cael eu hymgorffori yng ngwaith cyrff sy’n cyfrannu at ddeall sut mae cyrff cyhoeddus yn creu Cymru sy’n fwy cyfartal. Bydd hyn yn cael ei adolygu.

Fel yr eglurwyd, nid oes dyletswydd adrodd ynghlwm wrth y Ddyletswydd. Yn ei rôl fel rheoleiddiwr Deddf Cydraddoldeb 2010, mae gan y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol bwerau i hyrwyddo ac i ddarparu cyngor a chanllawiau, a chyhoeddi ymchwil ar weithredu’r Ddyletswydd. Nid yw’n defnyddio ei bwerau gorfodi llawn mewn perthynas â’r Ddyletswydd gan nad yw Deddf 2010 yn sefydlu ‘gwahaniaethu economaidd-gymdeithasol’, ac nid yw ychwaith yn nodi yn Neddf 2010 bod anfantais economaidd-gymdeithasol yn nodwedd warchodedig, ac felly ni fydd y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yn gorfodi’r Ddyletswydd ar sail ‘gweithred anghyfreithlon".

Codi pryderon

Os bydd penderfyniad corff cyhoeddus yn effeithio’n andwyol ar unigolyn neu grŵp, ac os yw’n ystyried na chydymffurfiwyd yn briodol â’r Ddyletswydd, gall ddatrys ei bryderon drwy weithdrefn gwyno ffurfiol y corff perthnasol. Argymhellir bod cyrff cyhoeddus yn sicrhau bod gwybodaeth am leisio pryder/cwyn ar gael yn rhwydd.

Atodiad

Bwriad yr adran ganlynol yw rhoi trosolwg byr o ddyletswyddau o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010, Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 a Deddf Hawliau Dynol 1998.

Diben hyn yw sicrhau bod cyrff cyhoeddus, wrth baratoi ar gyfer y Ddyletswydd, yn ymwybodol o’r dyletswyddau cydraddoldeb a llesiant eraill a fydd yn cyd-fodoli ochr yn ochr â’r Ddyletswydd. 

Gall fod yn ddefnyddiol i gyrff cyhoeddus ddechrau meddwl am sut gellir arfer y dyletswyddau hyn mor effeithlon â phosibl, er enghraifft, er mwyn osgoi dyblygu gwaith mewn amgylchiadau lle mae’r dyletswyddau hyn yn gorgyffwrdd a rhoi sylw iddynt mewn ffordd integredig. Mae canllaw mapio wedi cael ei baratoi i helpu cyrff gyda hyn ac mae ar gael ar wefan y Ddyletswydd economaidd-gymdeithasol. 

Yn ogystal â’r prif ddyletswyddau a nodir isod, mae’n bosibl y bydd gan gyrff cyhoeddus unigol ddyletswyddau eraill sy’n benodol iddyn nhw, y byddent yn dymuno eu hystyried yma. Dyma’r prif ddyletswyddau.

Deddf Cydraddoldeb 2010 

Mae Adran 149 o Ddeddf Cydraddoldeb 201066 yn nodi Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus sydd, yn gryno, yn rhoi dyletswydd gyffredinol ar gyrff cyhoeddus i roi sylw dyledus wrth gyflawni eu swyddogaethau o ran yr angen i:

  • gael gwared ar wahaniaethu, aflonyddu ac erledigaeth
  • hyrwyddo cyfle cyfartal rhwng y rheini sy’n rhannu nodwedd warchodedig a’r rheini nad ydynt yn ei rhannu
  • meithrin perthynas dda rhwng pobl sy’n rhannu nodwedd warchodedig a’r rheini nad ydynt yn ei rhannu.

Y nodweddion gwarchodedig perthnasol at ddibenion Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus yw: oedran; anabledd; ailbennu rhywedd; beichiogrwydd a mamolaeth; hil; crefydd neu gred; rhyw a chyfeiriadedd rhywiol.

Gan adeiladu ar Ddeddf 2010, mae rheoliadau penodol yng Nghymru yn gosod dyletswyddau penodol ar gyrff cyhoeddus a enwir yng Nghymru er mwyn iddyn nhw gydymffurfio’n well â Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus. Dan y dyletswyddau penodol hyn, rhaid i gyrff sector cyhoeddus datganoledig penodol gyhoeddi amcanion cydraddoldeb a’u hadolygu o leiaf bob pedair blynedd. Wrth adolygu’r amcanion hyn, dylai’r cyrff penodol gynnwys pobl sy’n rhannu un neu ragor o’r nodweddion gwarchodedig perthnasol ac sydd â diddordeb yn y ffordd mae’r corff sector cyhoeddus yn cyflawni ei swyddogaethau. 

Mae’r Ddyletswydd hefyd yn mynnu bod y cyrff dan sylw yn adrodd am eu cynnydd tuag at gyflawni pob un o’u hamcanion cydraddoldeb bob blwyddyn, ac asesu effaith debygol polisïau ac arferion arfaethedig ar ei allu i gydymffurfio â’r ddyletswydd gyffredinol. O bryd i’w gilydd, rhaid i gorff rhestredig gynnal asesiad o’i weithgareddau mewn perthynas â chydymffurfio â’r ddyletswydd gyffredinol, cyhoeddi adroddiad a chyhoeddi gwybodaeth am gydraddoldeb. 

Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 

Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 yn canolbwyntio ar wella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru. 

Mae’n gwneud i’r 44 corff cyhoeddus a restrir yn y Ddeddf feddwl mwy am yr hirdymor, atal problemau rhag digwydd neu waethygu drwy gynnwys pobl a gweithio mewn ffordd sy’n fwy cydgysylltiedig.

Er mwyn sicrhau bod cyrff cyhoeddus i gyd yn gweithio tuag at yr un weledigaeth, mae’r Ddeddf yn sefydlu saith nod llesiant. Bydd hyn yn helpu i greu Cymru rydym i gyd am fyw ynddi, nawr ac yn y dyfodol.

Y saith nod llesiant

  • Cymru Iewyrchus
  • Cymru gydnerth
  • Cymru iachach
  • Cymru sy'n fwy cyfartal
  • Cymru o gymendau cydlynus
  • Cymru a diwylliant bywiog lle mae'r Gymraeg yn ffynnu
  • Cymru sy'n gyfrifol ar lefel fyd-eang

Mae’r Ddyletswydd Economaidd-gymdeithasol yn cyfrannu’n bennaf at Gymru sy’n Fwy Cyfartal.

Cymdeithas sy’n galluogi pobl i gyflawni eu potensial ni waeth beth yw eu cefndir neu eu hamgylchiadau (gan gynnwys eu cefndir a’u hamgylchiadau economaidd-gymdeithasol). 

Roedd Deddf 2015 yn cyflwyno’r egwyddor datblygu cynaliadwy sy’n rhoi dyletswydd ar gyrff cyhoeddus i wneud yn siŵr eu bod yn ystyried effaith eu penderfyniadau ar y bobl sy’n byw yng Nghymru nawr ac yn y dyfodol. 

Mae pum peth mae angen i gyrff cyhoeddus feddwl amdanyn nhw i ddangos eu bod wedi defnyddio’r egwyddor datblygu cynaliadwy, a elwir yn bum ffordd o weithio.

Cydweithio: Gallai cydweithio ag unrhyw berson arall (neu wahanol adrannau yn y corff ei hun) helpu’r corff i fodloni ei amcanion llesiant.

Integreiddio: Ystyried sut gall amcanion llesiant y corff cyhoeddus effeithio ar bob un o’r nodau llesiant, ar bob un o’i amcanion eraill, neu ar amcanion cyrff cyhoeddus eraill.

Cynnwys: Pwysigrwydd cynnwys pobl sydd â diddordeb mewn cyflawni’r nodau llesiant, a sicrhau bod y bobl hynny’n adlewyrchu amrywiaeth yr ardal mae’r corff yn ei gwasanaethu.

Hirdymor: Pwysigrwydd sicrhau cydbwysedd rhwng anghenion tymor byr a’r angen i ddiogelu’r gallu i ddiwallu anghenion tymor hir hefyd.

Atal: Sut gall gweithredu i atal problemau rhag digwydd neu waethygu helpu cyrff cyhoeddus i gyflawni eu hamcanion. Gyda’i gilydd, mae’r saith nod llesiant a’r pum ffordd o weithio a nodir yn y Ddeddf wedi cael eu dylunio i gefnogi ac i ddarparu gwasanaeth cyhoeddus sy’n diwallu anghenion y presennol heb amharu ar allu cenedlaethau’r dyfodol i ddiwallu eu hanghenion eu hunain.

Rhestr termau

Trywydd Archwilio

Dylai ‘trywydd archwilio’ adlewyrchu cofnod cam wrth gam o’r dystiolaeth a gasglwyd yn sail i benderfyniad. 

Cymunedau buddiant

Mae’r rheini syn rhannu hunaniaeth yn cael eu disgrifio fel ‘cymunedau buddiant’. Er enghraifft, efallai fod y bobl hyn yn: unig rieni; gofalwyr; y rheini sy’n rhannu iaith gyntaf; neu’r rheini sy’n rhannu un neu ragor o’r nodweddion gwarchodedig sy’n cael eu rhestru yn Neddf Cydraddoldeb 2010. Ar ben hynny, grwpiau o bobl sy’n rhannu profiad, er enghraifft: pobl sydd wedi bod yn ddigartref; pobl sydd wedi defnyddio’r un system iechyd a gofal cymdeithasol leol; neu wasanaeth lleol. Yn unol â hynny, mae’n debyg y bydd pobl yn rhan o fwy nag un gymuned fuddiant. 

Cymunedau lle

Mae’r rheini sy’n rhannu lleoliad daearyddol, yn cael eu disgrifio fel ‘cymunedau lle’. Er enghraifft, gallai’r lleoliadau hyn olygu lle mae pobl yn byw, yn gweithio, yn ymweld â nhw neu’n treulio llawer iawn o’u hamser yno.

Penderfyniadau o natur strategol

Y rheini sy’n effeithio ar sut mae’r corff cyhoeddus yn cyflawni ei bwrpas statudol arfaethedig (ei swyddogaethau o ran y set o bwerau a dyletswyddau y mae’n eu defnyddio i gyflawni ei gylch gwaith) dros gyfnod sylweddol ac ni fyddant yn cynnwys penderfyniadau arferol ‘o ddydd i ddydd’.

Sylw dyledus

Rhoi pwys i fater penodol sy’n gymesur â’i berthnasedd.

Hawliau Dynol 

Hawliau Dynol yw’r hawliau sylfaenol sy’n perthyn i bob person yn y byd, o’i enedigaeth hyd at farwolaeth. Maen nhw’n berthnasol, ni waeth o ble rydych chi’n dod, beth rydych chi’n ei gredu neu sut rydych chi’n dewis byw eich bywyd. Ni ellir byth eu cymryd i ffwrdd, er y gellir eu cyfyngu weithiau, er enghraifft os bydd person yn torri’r gyfraith, neu er budd diogelwch gwladol. Mae’r hawliau sylfaenol hyn yn seiliedig ar werthoedd cyffredin fel urddas, tegwch, cydraddoldeb, parch ac annibyniaeth.

Adolygiad Barnwrol 

Mae adolygiad barnwrol yn broses llys sydd ar gael i unigolyn neu grŵp y mae penderfyniad, gweithred neu ddiffyg gweithred gan awdurdod cyhoeddus wedi effeithio arno. Caiff yr unigolyn neu’r grŵp hwnnw wneud cais i’r Uchel Lys, er mwyn herio’r penderfyniad hwnnw. Os bydd y cais yn llwyddo, caiff y llys ddarparu rhwymedi os yw’n penderfynu bod yr awdurdod wedi gweithredu’n anghyfreithlon, yn annheg neu’n afresymol. Nid yw adolygiad barnwrol yn ymwneud â rhinweddau’r penderfyniad, ond a yw’r corff cyhoeddus wedi dilyn y gweithdrefnau cywir ac wedi gwneud y penderfyniad yn y ffordd gywir.

Anghydraddoldebau canlyniadau

Mae anghydraddoldeb canlyniadau yn ymwneud ag unrhyw wahaniaethau mae modd eu mesur rhwng y canlyniad a gaiff y rheini sydd wedi profi anfantais economaidd-gymdeithasol a’r canlyniad a gaiff gweddill y boblogaeth.

Rhyngblethedd

Cydnabod sut mae strwythurau pŵer ar sail ffactorau fel rhywedd, hil, rhywioldeb, anabledd, dosbarth, oed ran a ffydd yn rhyngweithio â’i gilydd ac yn arwain at anghydraddoldebau, gwahaniaethu a gorthrwm.

Cyrff cyhoeddus 

Mae’r cyrff hynny y rhestrir eu bod yn ddarostyngedig i’r Ddyletswydd (mae eu manylion ar dudalen 6) yn cael eu galw yn gyrff cyhoeddus drwy’r ddogfen hon.

Anfantais economaidd-gymdeithasol

Byw mewn amgylchiadau cymdeithasol ac economaidd llai ffafriol na phobl eraill yn yr un gymdeithas. 

Deddf Cydraddoldeb 2010

Mae Deddf Cydraddoldeb 2010 yn fframwaith cyfreithiol, sy’n ceisio cysoni a chryfhau cyfraith gwahaniaethu, gan gefnogi’r cynnydd tuag at gydraddoldeb.

Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 

Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 yn canolbwyntio ar wella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru. 

Gwybodaeth ychwanegol

Mae modd defnyddio Egwyddorion Brown hefyd i benderfynu a roddwyd sylw dyledus ai peidio. Mae Making Fair Financial Decisions (y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol, 2019) yn cynnwys gwybodaeth ddefnyddiol am ‘Egwyddorion Brown’. Ar ben hynny, mae Canllawiau Llywodraeth Cymru Gwneud Penderfyniadau Da yn cyfeirio at yr egwyddor o sylw dyledus ac yn helpu cyrff cyhoeddus i wneud penderfyniadau da sy’n gyfreithlon ac sy’n cydymffurfio â rheolau’r gyfraith.