Lefel y cymwysterau uchaf a ddelir gan oedolion o oed gweithio: 2024
Yn cyflwyno ystadegau allweddol ar y cymwysterau uchaf sydd gan oedolion o oedran gweithio yng Nghymru ar gyfer 2024.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Cyflwyniad
Mae'r holl ddata yn yr adroddiad hwn yn dod o'r Arolwg Blynyddol o'r Boblogaeth (y Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG). Diweddarwyd y cwestiynau yn yr Arolwg Blynyddol o'r Boblogaeth sy'n ymwneud â chymwysterau yn 2022 i adlewyrchu'r Fframwaith Cymwysterau Rheoleiddiedig (RFQ) cyfredol (Ofqual) gan eu bod yn seiliedig yn flaenorol ar yr hen Fframwaith Cymwysterau Cenedlaethol (NQF). Oherwydd hynny, ni ellir cymharu’r ystadegau a gyflwynir yma o 2022 ymlaen â blynyddoedd blaenorol. Ceir rhagor o fanylion am hyn yn yr adran gwybodaeth am ansawdd.
Cyflwynir data isod mewn perthynas â gwahanol lefelau y cymwysterau a ddelir gan y boblogaeth oedran gweithio. Ceir rhagor o fanylion am lefelau cymwysterau yn yr adran Gwybodaeth am Ansawdd. Mae cymwysterau Lefel 2 yn cyfateb i TGAU graddau A* i C neu ddiploma lefel 2; mae cymwysterau Lefel 3 yn cyfateb i Safon Uwch neu Safon UG, Lefel T neu ddiploma lefel 3; ac mae cymwysterau Lefel 4 neu uwch yn lefel addysg uwch, sy'n cyfateb i o leiaf gradd sylfaen, blwyddyn gyntaf gradd Baglor neu Dystysgrif Genedlaethol Uwch (HNC) neu Ddiploma Cenedlaethol Uwch (HND).
Roedd yr amcangyfrifon hyn yn cael eu dosbarthu'n ystadegau swyddogol achrededig yn flaenorol. Bu lleihad ym maint y samplau a ddefnyddiwyd yn yr Arolwg Blynyddol o'r Boblogaeth yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Oherwydd hyn a'r ffaith nad yw'r arolwg wedi'i ailbwysoli i'r amcangyfrifon diweddaraf o'r boblogaeth, cytunodd y Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau y dylid atal yr achrediad hwn dros dro ac y dylai'r amcangyfrifon gael eu hailddynodi'n ystadegau swyddogol (SYG).
Mae'n dal i fod yn briodol defnyddio'r ystadegau hyn. Fodd bynnag, dylai defnyddwyr nodi'r ansicrwydd cynyddol ynghylch amcangyfrifon sy'n deillio o'r Arolwg Blynyddol o'r Boblogaeth. Ar lefel genedlaethol, mae amcangyfrifon yn parhau i ddarparu arwydd rhesymol o dueddiadau ar gyfer Cymru. Ond, mae amcangyfrifon ar gyfer ardaloedd daearyddol llai neu is-grwpiau o'r boblogaeth yn llai dibynadwy.
Prif ganlyniadau
- Roedd 7.9% o oedolion oedran gweithio yng Nghymru, yn ôl yr amcangyfrifon, yn dweud nad oedd ganddynt gymwysterau yn 2024, sef dim newid o'i gymharu â 2023.
- Roedd gan 87.6% o oedolion oedran gweithio yng Nghymru gymwysterau lefel 2 o leiaf. Roedd gan 68.6% gymwysterau lefel 3 o leiaf a 46.4% gymwysterau lefel 4 o leiaf.
- Roedd menywod yn fwy tebygol na dynion o feddu ar gymwysterau lefel 4 o leiaf, ac roeddent yn llai tebygol o beidio â chael unrhyw gymwysterau.
- O'r holl oedolion oedran gweithio, y gyfran uchaf a chanddynt gymwysterau oedd y grŵp oedran 25 i 34 oed yn 2024.
- Roedd lefelau cymwysterau yn uwch ar gyfer y DU gyfan o'i chymharu â Chymru.
Ffigur 1: Lefel y cymwysterau uchaf a ddelir gan oedolion oedran gweithio yng Nghymru, 2008 i 2024 [Nodyn 1]
Disgrifiad o Ffigur 1: Mae lefelau cymwysterau yng Nghymru wedi cynyddu'n raddol ers 2008.
Lefelau cymwysterau uchaf oedolion oedran gweithio yn ôl blwyddyn a chymhwyster ar StatsCymru
[Nodyn 1] Ni ellir cymharu amcangyfrifon ers 2022 â blynyddoedd blaenorol yn dilyn newidiadau i’r cwestiynau ar gymwysterau yn yr Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth.
Mae'r datganiad hwn yn cynnwys un o'r dangosyddion cenedlaethol a gyhoeddwyd o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol, sef:
8. Canran yr oedolion â chymwysterau ar wahanol lefelau’r Fframwaith Cymwysterau Cenedlaethol
Mae dwy garreg filltir genedlaethol yn gysylltiedig â'r dangosydd cenedlaethol hwn, ac un ohonynt yw y 'bydd 75% o oedolion oedran gweithio yng Nghymru wedi’u cymhwyso i lefel 3 neu'n uwch erbyn 2050'. Roedd 68.6% o oedolion oedran gweithio yng Nghymru, yn ôl yr amcangyfrifon, wedi’u cymhwyso i lefel 3 neu'n uwch yn 2024.
Darperir rhagor o wybodaeth am y dangosyddion cenedlaethol, y cerrig milltir cenedlaethol a Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol tua diwedd y datganiad hwn. Mae dadansoddiad sy'n ymwneud â'r ail garreg filltir genedlaethol – 'canran yr oedolion oedran gweithio heb unrhyw gymwysterau fydd 5% neu'n is ym mhob awdurdod lleol yng Nghymru erbyn 2050' – wedi'i gynnwys yn yr adran ar ddaearyddiaeth.
Lefel y cymhwyster uchaf a ddelir yn ôl daearyddiaeth
Roedd cyfran yr oedolion oedran gweithio a chanddynt gymhwyster ar lefel addysg uwch neu gymwysterau cyfatebol (Lefel 4+) ar ei huchaf yng Nghaerdydd (58.3%), Sir Fynwy (57.2%), a Bro Morgannwg (54.1%). Roedd y gyfran isaf ym Mlaenau Gwent (31.1%), Merthyr Tudful (33.8%) a Chastell-nedd Port Talbot (36.5%).
Roedd y gyfran uchaf o oedolion oedran gweithio heb unrhyw gymwysterau ym Mlaenau Gwent (13.8%) a Rhondda Cynon Taf (13.6%). Roedd y gyfran isaf yng Ngheredigion (2.3%) a Phowys (3.1%).
Yr ail garreg filltir genedlaethol sy'n gysylltiedig â'r dangosydd cenedlaethol a gynhwysir yn y datganiad hwn yw 'canran yr oedolion oedran gweithio heb unrhyw gymwysterau fydd 5% neu'n is ym mhob awdurdod lleol yng Nghymru erbyn 2050’. Ar hyn o bryd, mae canran yr oedolion oedran gweithio heb unrhyw gymwysterau yn is na 5% mewn chwe awdurdod lleol – Bro Morgannwg, Sir Fynwy, Wrecsam, Gwynedd, Powys a Cheredigion.
Roedd cyfran yr oedolion oedran gweithio ag o leiaf gymhwyster Lefel 1 yng Nghymru (92.1%) yn is nag yn Lloegr (94.3%) a'r DU (93.9%), ar lefel debyg i'r Alban (92.3%) ac yn uwch na Gogledd Iwerddon (90.0%).
Roedd y bwlch yng nghyfran yr oedolion oedran gweithio heb unrhyw gymwysterau rhwng Cymru a'r DU yn 1.9 pwynt canran yn 2024 (Cymru yn uwch na'r DU). Roedd gan y DU gyfran uwch o oedolion oedran gweithio a oedd wedi’u cymhwyso i o leiaf lefel 2 (bwlch o 1.5 pwynt canran), i o leiaf lefel 3 (bwlch o 2.2 pwynt canran) ac i o leiaf lefel 4 (bwlch o 3.0 pwynt canran) na Chymru.
Ffigur 2: Lefel y cymhwyster uchaf a ddelir gan oedolion oedran gweithio Cymru a'r DU, 2008 i 2024 [Nodyn 1]
Disgrifiad o Ffigur 2: Mae lefelau cymwysterau ledled y DU gyfan wedi bod yn gyson yn uwch nag yng Nghymru ers 2008, gyda chyfran ychydig yn is heb unrhyw gymwysterau ledled y DU gyfan. Mae'r bwlch rhwng y rhai sydd wedi’u cymhwyso i lefel 2 neu'n uwch o'i gymharu â'r rhai heb gymwysterau wedi ehangu ers 2008.
[Nodyn 1] Ni ellir cymharu amcangyfrifon ers 2022 â blynyddoedd blaenorol yn dilyn newidiadau i’r cwestiynau ar gymwysterau yn yr Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth.
Lefelau y cymhwyster uchaf a ddelir, yn ôl nodwedd
Rhyw ac oedran
Dangosir y proffil cymwysterau ar gyfer pob oedolyn oedran gweithio (18 i 64 oed), ynghyd ag ar gyfer y rheini sydd rhwng 18 a 24 oed a rhwng 60 a 64 oed.
Ffigur 3a: Lefel uchaf y cymhwyster a ddelir gan oedolion oedran gweithio (18 i 64 oed), yn ôl rhyw, Cymru, 2024
Disgrifiad o Ffigur 2a: Yn gyffredinol, amcangyfrifir nad oedd gan 8.8% o ddynion unrhyw gymwysterau yn 2024 o'i gymharu â 7.2% o fenywod. Mae menywod yn fwy tebygol o feddu ar gymwysterau lefel 4 neu uwch. Roedd y gyfran uchaf ar gyfer dynion a menywod ar lefelau 4 i 6.
Roedd cyfran uwch o ddynion na menywod heb unrhyw gymwysterau yn yr holl grwpiau oedran ar wahân i’r grŵp oedran 60 i 64 oed. Y grŵp oedran 25 i 34 oed oedd â'r gyfran uchaf o oedolion sydd wedi’u cymhwyso i lefel 2 ac uwch, a lefel 3 ac uwch. Y grŵp oedran 35 i 49 oed oedd â'r gyfran uchaf o oedolion sydd wedi’u cymhwyso i lefel 4 ac uwch. Mae cyfran yr oedolion sydd â chymwysterau yn gostwng yn gyffredinol wrth i oedran gynyddu.
Ffigur 3b: Lefel uchaf y cymhwyster a ddelir gan oedolion 18 i 24 oed, yn ôl rhyw, Cymru, 2024
Disgrifiad o Ffigur 3b: Roedd menywod rhwng 18 a 24 oed yn fwy tebygol o feddu ar gymwysterau ar lefel 3 ac uwch yn 2024. Roedd dynion yn y grŵp oedran hwnnw yn fwy tebygol o beidio â meddu ar gymwysterau neu feddu ar gymwysterau ar lefel 2. Lefel 3 oedd y lefel fwyaf cyffredin o ran y cymhwyster uchaf ar gyfer y ddau ryw yn y grŵp oedran 18 i 24 oed.
Ffigur 3c: Lefel uchaf y cymhwyster a ddelir gan oedolion 60 i 64 oed, yn ôl rhyw, Cymru, 2024
Disgrifiad o Ffigur 3c: Roedd lefel y cymhwyster uchaf a ddelir gan bobl 60 i 64 oed wedi'i ddosbarthu'n fwy cyfartal nag mewn grwpiau oedran iau. Mae yna hefyd lai o batrwm clir rhwng y rhywiau. Roedd cyfran y menywod heb unrhyw gymwysterau (14.4%) yn uwch na chyfran y dynion (11.9%) yn y grŵp oedran hwn. Roedd menywod yn fwy tebygol o ddal cymhwyster lefel 2. Roedd dynion yn fwy tebygol o ddal cymhwyster lefel 3. Roedd cyfran y dynion a'r menywod yn debyg ar gyfer cymwysterau lefel 4 ac uwch.
O'r holl oedolion oedran gweithio yng Nghymru, y grŵp oedran 60 i 64 oed oedd y gyfran uchaf heb gymwysterau. Y grŵp hwn hefyd oedd â'r gyfran isaf a chanddynt gymwysterau lefel 3 o leiaf, a'r gyfran ail isaf a chanddynt gymwysterau lefel 4 o leiaf (ar ôl y rhai 18 i 24 oed).
Anabledd
Ffigur 4: Lefel y cymhwyster uchaf a ddelir gan oedolion oedran gweithio yn ôl anabledd, Cymru, 2024
Disgrifiad o Ffigur 4: Roedd pobl anabl yn fwy tebygol o beidio â meddu ar unrhyw gymwysterau (14.6%) na phobl nad ydynt yn anabl (5.2%), ac roeddent yn llai tebygol o feddu ar gymwysterau ar lefel 3 neu uwch yn 2024.
Roedd cyfran yr oedolion anabl oedran gweithio yng Nghymru heb unrhyw gymwysterau yn 14.6% yn 2024, cynnydd o 0.7 pwynt canran o'i gymharu â 2023. Mae hyn yn cymharu â 5.2% o bobl nad ydynt yn anabl yng Nghymru heb gymwysterau, gostyngiad o 0.3 pwynt canran dros y flwyddyn.
Cyfran yr oedolion anabl oedran gweithio yng Nghymru sydd wedi’u cymhwyso i lefel 3 neu uwch oedd 56.8% yn 2024, cynnydd o 2.1 pwynt canran o'i gymharu â 2023. Mae hyn yn cymharu â 73.3% o bobl nad ydynt yn anabl yng Nghymru sydd wedi’u cymhwyso i lefel 3 neu uwch, cynnydd o 1.1 pwynt canran dros y flwyddyn.
Ethnigrwydd
Mae'r arolwg yn gofyn i ymatebwyr beth maent yn barnu yw eu tarddiad ethnig. Mae’r categori Gwyn yn cynnwys Gwyn – Cymreig/Seisnig/Albanaidd/Gwyddelig Gogledd Iwerddon/Prydeinig ac unrhyw gefndir Gwyn arall gan gynnwys Sipsiwn a Theithwyr Gwyddelig.
Nid yw'r data a gyflwynir yn yr adran hon yn cynnwys pobl mewn addysg amser llawn er mwyn hepgor myfyrwyr tramor sy'n astudio yng Nghymru dros dro o'r dadansoddiad. Gweler yr adran ‘Nodiadau a Diffiniadau’ am ragor o wybodaeth.
Ffigur 5: Lefel y cymhwyster uchaf a ddelir gan oedolion oedran gweithio, yn ôl ethnigrwydd, Cymru, 2024
Disgrifiad o Ffigur 5: Roedd oedolion Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol oedran gweithio yn fwy tebygol o feddu ar gymwysterau ar lefelau 4 ac uwch (63.3%) (r) nag oedolion Gwyn oedran gweithio (46.3%) (r) yn 2024, ac roeddent hefyd yn fwy tebygol o feddu ar gymwysterau is na lefel 2.
(r) Diwygiedig ar 6 Awst 2025.
Roedd cyfran yr oedolion Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol oedran gweithio yng Nghymru heb unrhyw gymwysterau yn 6.1% yn 2024, gostyngiad o 1.7 pwynt canran o'i gymharu â 2023. Mae hyn yn cymharu ag 8.4% o oedolion Gwyn oedran gweithio yng Nghymru heb unrhyw gymwysterau, cynnydd o 0.3 pwynt canran dros y flwyddyn.
Cyfran yr oedolion Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol oedran gweithio yng Nghymru a oedd wedi’u cymhwyso i lefel 3 neu uwch oedd 77.5% yn 2024, cynnydd o 6.2 pwynt canran o'i gymharu â 2023. Mae hyn yn cymharu â 67.4% o oedolion Gwyn oedran gweithio yng Nghymru a oedd wedi’u cymhwyso i lefel 3 neu uwch, cynnydd o 1.1 pwynt canran dros y flwyddyn.
Y Gymraeg
Cofnodwyd lefelau cymwysterau uwch ymhlith siaradwyr Cymraeg na'u cymheiriaid nad oeddent yn siarad Cymraeg. Mae gan 79.9% o siaradwyr Cymraeg gymhwyster ar lefel 3 neu uwch, o'i gymharu â 65.1% o bobl nad ydynt yn siaradwyr Cymraeg. Cyfran y siaradwyr nad ydynt yn siaradwyr Cymraeg heb gymwysterau oedd 9.5% o'i chymharu â 2.9% o siaradwyr Cymraeg.
Statws cyflogaeth
Ffigur 6: Lefel y cymhwyster uchaf a ddelir gan oedolion oedran gweithio, yn ôl statws cyflogaeth
Disgrifiad o Ffigur 6: Yn 2024, dywedodd 20.1% o'r rhai a oedd naill ai'n ddi-waith neu'n economaidd anweithgar nad oedd ganddynt unrhyw gymwysterau. Mae hyn yn cymharu â 4.8% ar gyfer y rhai mewn cyflogaeth (ac eithrio'r rhai a oedd mewn addysg amser llawn). Roedd gan 52.2% o'r rhai mewn cyflogaeth gymwysterau ar lefel 4 neu'n uwch o'i gymharu â 29.7% o'r rhai a oedd naill ai'n ddi-waith neu'n economaidd anweithgar.
Galwedigaeth
Mae unigolion a gyflogir mewn galwedigaethau proffesiynol yn fwy tebygol o feddu ar gymwysterau ar lefel 4 o leiaf na'r rhai mewn swyddi eraill, ac roedd 85.4% o bobl wedi’u cymhwyso i'r lefel hon yn 2024. Y rhai lleiaf tebygol o fod wedi’u cymhwyso i lefel 4 o leiaf oedd y rheini a gyflogir fel gweithredwyr prosesau, peiriannau a pheiriannau (17.4%). Fodd bynnag, roedd gan 82.2% gymhwyster lefel 2 o leiaf.
Nodiadau
Polisi a'r cyd-destun gweithredol
Mae'r datganiad ystadegol hwn yn cyflwyno cipolwg blynyddol o lefelau cymwysterau'r boblogaeth oedran gweithio yng Nghymru.
Mae Llywodraeth Cymru yn defnyddio'r ystadegau i fonitro tueddiadau mewn lefelau cymwysterau. Mae'r datganiad hwn yn cynnwys data ar gyfer un o'r dangosyddion cenedlaethol (8 – canran yr oedolion â chymwysterau ar wahanol lefelau'r Fframwaith Cymwysterau Cenedlaethol) a dwy garreg filltir genedlaethol gysylltiedig.
Mae'r ystadegau hyn, ynghyd â'r dangosydd cenedlaethol a'r cerrig milltir cenedlaethol, wedi'u cynnwys yn benodol yn Cymru gryfach, decach, a gwyrddach: cynllun cyflogadwyedd a sgiliau.
Cefndir yr Arolwg o'r Llafurlu/yr Arolwg Blynyddol o'r Boblogaeth
Mae'r ystadegau a gyflwynir yn y datganiad hwn yn seiliedig ar ganlyniadau'r Arolwg Blynyddol o'r Boblogaeth) ar gyfer 2023. Cyflwynir rhagor o wybodaeth am y data a ddefnyddir yn yr adran gwybodaeth am ansawdd. Mae data o'r Arolwg Blynyddol o'r Boblogaeth, arolwg o aelwydydd a gynhaliwyd gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol ar gael o 2004 ymlaen, a chyn hynny mae data cymaradwy ar gael o'r Arolwg blynyddol lleol o'r Llafurlu yng Nghymru ar gyfer 2001-2003.
Mae achrediad yr amcangyfrifon hyn gan y Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau wedi'i atal dros dro, ac felly maent bellach yn cael eu dosbarthu'n ystadegau swyddogol yn hytrach nag ystadegau swyddogol achrededig. Gweler y nodyn yn yr adran Gwybodaeth am Ansawdd isod.
Cyflwynir data yn y datganiad hwn ar gyfer oedolion oedran gweithio 18 i 64 oed yn ôl eu hoedran ar ddechrau'r flwyddyn academaidd. Rhwng Ebrill 2010 a Thachwedd 2018, cynyddodd oedran pensiwn y wladwriaeth i fenywod yn raddol o 60 i 65 oed. Yn unol â hyn, diwygiwyd diffiniad y gyfres ar gyfer oedran gweithio dynion a menywod i 18 i 64 oed, yn hytrach na'r diffiniad cynharach o 18 i 64 oed ar gyfer dynion a 18 i 59 ar gyfer menywod.
Dim ond o 2008 ymlaen y mae amcangyfrifon ar y sail hon ar gael, ac felly nid yw'r ffigurau yn y datganiad hwn yn cymharu’n uniongyrchol â'r rhai sy'n seiliedig ar y diffiniad a ddefnyddiwyd yn flaenorol.
Diffiniadau
Ethnigrwydd
Er mwyn dadansoddi cymwysterau yn ôl ethnigrwydd, mae pobl mewn addysg amser llawn wedi cael eu heithrio. Cafodd y newid hwn ei wneud er mwyn cael gwared ar effaith myfyrwyr rhyngwladol sy’n cael addysg uwch yng Nghymru ac sydd felly’n cynyddu’r gyfran sydd â chymwysterau Lefel 3+.
Anabledd
Mae Llywodraeth Cymru yn derbyn y diffiniad cymdeithasol o anabledd, sy'n cydnabod bod rhwystrau mewn cymdeithas yn gallu anablu pobl sydd ag amhariad neu gyflwr iechyd, neu sy'n defnyddio Iaith Arwyddion Prydain.
Mae'r Arolwg Blynyddol o'r Boblogaeth, sef ffynhonnell y data ar gyfer y datganiad hwn, yn casglu data gan ddefnyddio'r diffiniad meddygol o anabledd a ddefnyddir yn Neddf Cydraddoldeb 2010 ('amhariad corfforol neu feddyliol sy’n cael effaith sylweddol a hirdymor ar allu person i wneud gweithgareddau o ddydd i ddydd'). Ni ellir cymharu'r ffigurau yn y datganiad hwn â ffigurau datganiadau cyn 2015, a adroddodd am y rhai a nododd anabledd cyfredol neu anabledd sy'n cyfyngu ar waith ar sail Deddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd 2005.
Fframwaith cymwysterau
O fis Ionawr 2022 ymlaen, diweddarwyd y cwestiynau ar gymwysterau yn yr Arolwg Llafurlu/Arolwg Blynyddol o'r Boblogaeth i fod yn seiliedig ar y Fframwaith Cymwysterau Rheoleiddiedig (RQF) (Ofqual), gan ddisodli'r cwestiynau blaenorol a oedd yn seiliedig ar y Fframwaith Cymwysterau Cenedlaethol (NQF). Mae effaith y newid hwn ar gymaroldeb a chysondeb yr ystadegau hyn yn cael ei hesbonio yn yr adran gwybodaeth am ansawdd.
Mae'r ddogfen 'Mapio'r cymhwyster uchaf i lefelau RQF ar gyfer dadansoddi ystadegol' yn rhestru'r cymwysterau a gynhwysir yn benodol yn holiadur yr Arolwg o'r Llafurlu/Arolwg Blynyddol o'r Boblogaeth ac yn darparu manylion am y lefelau RQF y maent wedi'u neilltuo iddynt at ddibenion dadansoddi ystadegol.
Mae gan yr RQF dair lefel mynediad ac yna lefelau 1 i 8. Yng Nghymru, y fframwaith perthnasol yw Fframwaith Credydau a Chymwysterau Cymru (CQFW); meta-fframwaith sydd wedi'i gynllunio i ddarparu mwy o eglurder am y system gymwysterau yng Nghymru. Mae'r CQFW yn cynnal cysylltiadau â fframweithiau cymwysterau cenhedloedd eraill y DU. Mae lefelau CQFW yn cyd-fynd yn uniongyrchol â'r rhai a ddefnyddir yn yr RQF ar gyfer Lloegr a Gogledd Iwerddon. Mae cydweddiad CQFW â fframweithiau eraill yn sicrhau y gellir cymharu a chydnabod cymwysterau, sy'n golygu eu bod yn gludadwy a bod modd eu trosglwyddo ar draws wahanol rolau er budd dysgwyr a gweithwyr.
Gwybodaeth am ansawdd
Perthnasedd
Mae defnyddwyr allweddol yr ystadegau hyn yn cynnwys:
- ysgrifenyddion y Cabinet, Gweinidogion a swyddogion Llywodraeth Cymru
- aelodau o'r Senedd ac ymchwilwyr yn y Senedd
- adrannau eraill y Llywodraeth
- myfyrwyr, academyddion a phrifysgolion
Cywirdeb
Mae'r data a gyflwynir yn y datganiad hwn yn seiliedig ar arolygon sampl, felly
gall amrywio yn ôl y samplau hynny. Mae’r ‘amrywioldeb samplu’ felly yn golygu bod y gwir werth ar gyfer unrhyw fesur mewn ystod amrywiol o bobtu’r gwerth a amcangyfrifir. Mae’r ystod neu’r amrywioldeb samplu dan sylw yn cynyddu wrth i’r manylion yn y data gynyddu, er enghraifft mae data awdurdodau lleol unigol yn amrywio mwy na data Cymru.
Mae'r Arolwg Blynyddol o'r Boblogaeth yn cyfuno samplau wedi'u hatgyfnerthu o'r Arolwg o'r Llafurlu. Mae'n darparu data pedwar chwarter treigl ar gyfer gwledydd a rhanbarthau'r DU a hefyd ar gyfer ardaloedd lleol. Mae sampl fwy o faint yr Arolwg Blynyddol o'r Boblogaeth yn golygu bod modd llunio amcangyfrifon ar lefel awdurdod lleol ac ar gyfer is-grwpiau o'r boblogaeth.
Roedd yr amcangyfrifon hyn yn cael eu dosbarthu'n ystadegau swyddogol achrededig yn flaenorol. Bu lleihad ym maint y samplau a ddefnyddiwyd yn yr Arolwg Blynyddol o'r Boblogaeth yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Oherwydd hyn a'r ffaith nad yw'r arolwg wedi'i ailbwysoli i'r amcangyfrifon diweddaraf o'r boblogaeth, cytunodd y Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau y dylid atal yr achrediad hwn dros dro ac y dylai'r amcangyfrifon gael eu hailddynodi'n ystadegau swyddogol (y Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau).
Mae'n dal i fod yn briodol defnyddio'r ystadegau hyn. Fodd bynnag, dylai defnyddwyr nodi'r ansicrwydd cynyddol ynghylch amcangyfrifon sy'n deillio o'r Arolwg Blynyddol o'r Boblogaeth. Ar lefel genedlaethol, mae amcangyfrifon yn parhau i ddarparu arwydd rhesymol o dueddiadau ar gyfer Cymru. Ond, mae amcangyfrifon ar gyfer ardaloedd daearyddol llai neu is-grwpiau o'r boblogaeth yn llai dibynadwy.
Ymateb drwy ddirprwy
Os nad yw'r ymatebydd ar gael ar adeg y cyfweliad, mae'n bosibl i gwestiynau gael eu hateb drwy ddirprwy, hynny yw gan rywun arall ar yr aelwyd. Er gwybodaeth o ran lefelau'r cymwysterau uchaf, mae tua 61.8% o'r ymatebion wedi deillio o atebion gan yr ymatebwyr eu hunain. Cafwyd 25.9% gan briod neu bartner, a chafwyd 12.3% gan ddirprwy arall.
Mae Adran 11 o Gyfrol 1 o Ganllaw Defnyddiwr yr Arolwg o'r Llafurlu (SYG) yn cyflwyno canfyddiadau o astudiaeth ddilynol i brofi cywirdeb canlyniadau gan ddirprwyon.
Mae’r canlyniadau ar gyfer y math uchaf o gymhwyster sydd gan bobl yn dangos bod bron dwy ran o dair o'r canlyniadau yn cyfateb, a bod gwall net sylweddol oherwydd i ddirprwyon tanddatgan cymwysterau. Fodd bynnag, roedd amrywiaeth eang yn safon yr ymatebion oddi wrth ddirprwyon. Gwelwyd yr amrywiad hwn yn sgil perthynas y dirprwy â'r ymatebydd (roedd rhieni yn llawer gwell na phriod/partner neu blant) ac yn sgil y lefel a'r math o gymwysterau a ddelir. Roedd yr ymatebion drwy ddirprwy yn llawer gwell mewn perthynas ag adrodd am ymatebwyr a oedd yn meddu ar radd (80% yn cyfateb) nag oeddent ar gyfer ymatebwyr a oedd yn meddu ar gymwysterau is neu rai galwedigaethol (30% yn cyfateb).
Diffyg ymateb
Mae gwybodaeth am y cymhwyster uchaf yn deillio o sawl cwestiwn yn yr arolwg. Yn gyffredinol, roedd y cymhwyster uchaf yn anhysbys neu nid oedd modd ei ganfod ar gyfer 2.2% o'r ymatebwyr. Mae'r ymatebwyr hyn wedi'u heithrio o'r dadansoddiad yn y datganiad hwn.
Dyrannu cymwysterau 'eraill'
Er y defnyddir cwestiynau yn yr arolwg i ddyrannu cymwysterau i lefelau’r RQF i’r graddau y bo hynny’n bosibl, ar gyfer rhai cymwysterau ‘eraill’ (y rhai nad ydynt yn cael eu nodi a’u mapio’n benodol i lefel yn yr arolwg) mae’r ymatebion wedi’u dosrannu i lefelau gan ddefnyddio cyfrannau sydd wedi’u sefydlu ers blynyddoedd lawer. Mae’r cymwysterau hyn wedi’u dosrannu ar draws lefelau RQF Islaw Lefel 2, Lefel 2 a Lefel 3 yn ôl y gymhareb 55:35:10. Mae hyn yn barhad o agwedd ar y fethodoleg a ddefnyddiwyd cyn 2022, pryd y cafodd nifer o fathau eraill o gymwysterau heb lefel hysbys hefyd eu dosrannu ar draws gwahanol lefelau.
Amseroldeb a phrydlondeb
Mae'r datganiad ystadegol hwn yn cael ei gyhoeddi'n flynyddol ym mis Ebrill ac mae'n cwmpasu'r flwyddyn flaenorol a ddaeth i ben ar 31 Rhagfyr.
Hygyrchedd ac eglurder
Mae'r datganiad ystadegol hwn yn cael ei gyhoeddi ymlaen llaw ac yna'n cael ei gyhoeddi yn yr adran Ystadegau ac Ymchwil ar wefan Llywodraeth Cymru. Mae'r holl ddata sylfaenol ar gyfer y datganiad hwn yn ogystal â datganiadau blynyddoedd eraill ar gael ar StatsCymru.
Cymaroldeb a chysondeb
Nid oes modd cymharu'r ystadegau a gyflwynir yma o 2022 ymlaen â blynyddoedd blaenorol oherwydd y newidiadau i'r cwestiynau am gymwysterau yn yr Arolwg o'r Llafurlu/Arolwg Blynyddol o'r Boblogaeth yn 2022. Mae'r cwestiynau wedi'u diweddaru i adlewyrchu'r newid o'r Fframwaith Cymwysterau Cenedlaethol (NQF) blaenorol i'r Fframwaith Cymwysterau Rheoleiddiedig (RQF) presennol yn Lloegr a Gogledd Iwerddon, a'r mathau newydd o gymwysterau na chafodd eu casglu o'r blaen. Gwnaeth y Swyddfa Ystadegau Gwladol newidiadau i'r cwestiynau hyn trwy ymgynghori â'r gweinyddiaethau datganoledig ac adrannau eraill o'r llywodraeth trwy Grŵp Llywio yr Arolwg o'r Llafurlu.
Gallai'r newidiadau arwain at nodi cymhwyster uchaf gwahanol ar gyfer unigolyn na phe byddai'r hen gwestiynau wedi'u gofyn. Mae newidiadau i'r broses o fapio cymwysterau hefyd wedi effeithio ar yr ystadegau hyn. Er enghraifft, o dan y cwestiynau a oedd wedi'u seilio ar yr NQF, byddai un Safon Uwch neu 2-3 Safon UG wedi'u categoreiddio fel lefel 2. O dan y cwestiynau presennol sydd wedi’u seilio ar yr RQF, mae'r rhain bellach yn cael eu categoreiddio fel lefel 3. Mae'r newidiadau hyn wedi arwain at wahaniaeth amlwg yng nghyfran yr ymatebwyr sydd â chymhwyster uchaf ar lefelau 2 a 3, yn arbennig.
Mae'n bosibl bod ystadegau a gyflwynir yn y datganiad hwn, yn enwedig ar gyfer 2020 a 2021, wedi cael eu heffeithio gan y pandemig coronafeirws (COVID-19). Roedd y pandemig wedi effeithio ar drefniadau arholi ac asesu, ac felly yn sgil hynny ar ddyfarnu rhai cymwysterau o Haf 2020 ymlaen. Mae'r ystadegau a gyflwynir yma yn ymwneud ag oedolion oedran gweithio rhwng 18 a 64 oed, ac mae’n bosibl nad oedd llawer ohonynt yn gweithio tuag at ennill cymwysterau yn ystod y pandemig. Mae unrhyw effaith yn debygol o fod yn fwy ar gyfer grwpiau oedran iau.
Gallai'r ffigurau hyn fod yn wahanol i’r rhai a gyhoeddir o gyhoeddiadau ystadegol gan adrannau llywodraethol eraill oherwydd mân wahaniaeth yn y ffynhonnell a/neu fethodolegau wrth ganfod lefelau cymwysterau. Hefyd, gallai tablau eraill fod yn seiliedig ar bob unigolyn oedran gweithio (16 i 64 oed), tra bo'r datganiad hwn wedi'i gyfyngu i bobl 18 i 64 oed (sef oedolion oedran gweithio).
Mae data ar y lefelau cymhwyster uchaf hefyd ar gael o’r Cyfrifiad Poblogaeth. Rydym wedi cyhoeddi crynodeb o’r data ar gyfer Cymru o’r Cyfrifiad diweddar yn Addysg yng Nghymru (Cyfrifiad 2021). Nid oes modd cymharu’r ystadegau a gyhoeddir yn y datganiad hwn yn uniongyrchol â’r rhai o’r Cyfrifiad. Yn ogystal â’r gwahanol ddulliau casglu data, mae’r ystadegau hyn yn seiliedig ar oedolion oedran gweithio (18 i 64 oed), ac mae’r rheini o’r Cyfrifiad yn seiliedig ar yr holl breswylwyr arferol 16 oed a hŷn.
Mantais fwyaf data'r Cyfrifiad o'u cymharu â'r ystadegau hyn yw nad yw'n seiliedig ar arolwg sampl. Mae hyn yn ei gwneud yn bosibl i ddadansoddi data awdurdod lleol, ar lefel cymunedau, ac i groesdablu is-grwpiau bach o’r boblogaeth nad yw’n bosibl drwy’r Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth.
Mae data a dadansoddiad mwy manwl o addysg ar gael trwy create a custom dataset tool y SYG, a chynlluniau ar gyfer rhyddhau data a dadansoddiadau Cyfrifiad 2021 (SYG).
Datganiad cydymffurfiaeth â'r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau
Mae ein harfer ystadegol yn cael ei reoleiddio gan y Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau. Y Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau sy'n gosod y safonau o ran dibynadwyedd, ansawdd a gwerth yn y Cod y dylai pob cynhyrchydd ystadegau swyddogol gydymffurfio â nhw.
Caiff ein holl ystadegau eu cynhyrchu a'u cyhoeddi yn unol â nifer o ddatganiadau a phrotocolau er mwyn gwella dibynadwyedd, ansawdd a gwerth. Mae'r rhain wedi'u nodi yn Natganiad Cydymffurfiaeth Llywodraeth Cymru.
Mae'r ystadegau swyddogol hyn yn dangos y safonau a ddisgwylir o ran dibynadwyedd, ansawdd a gwerth cyhoeddus.
Mae croeso ichi gysylltu â ni yn uniongyrchol os oes gennych unrhyw sylwadau ynghylch sut rydym yn bodloni'r safonau hyn. Fel arall, gallwch gysylltu â'r Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau drwy e-bostio regulation@statistics.gov.uk neu drwy fynd i'w gwefan.
Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol
Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015 yn ymwneud â gwella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru. Mae’r Ddeddf yn cyflwyno saith nod llesiant ar gyfer Cymru. Amcanion y nodau hyn yw creu Cymru sy’n fwy cyfartal, llewyrchus, cydnerth, iachach a chyfrifol ar lefel fyd-eang, ac sy'n cynnwys cymunedau cydlynus a diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn ffynnu. O dan adran (10)(1) o'r Ddeddf, mae’n rhaid i Weinidogion Cymru (a) gyhoeddi dangosyddion (“dangosyddion cenedlaethol”) y mae’n rhaid eu cymhwyso at ddibenion mesur cynnydd tuag at gyflawni nodau Llesiant, a (b) gosod copi o'r dangosyddion cenedlaethol gerbron Senedd Cymru. O dan adran 10(8) o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol, pan fo Gweinidogion Cymru yn diwygio'r dangosyddion cenedlaethol, rhaid iddynt, cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol (a) gyhoeddi'r dangosyddion fel y'u diwygiwyd a (b) gosod copi ohonynt gerbron y Senedd. Cafodd y dangosyddion cenedlaethol hyn eu gosod gerbron y Senedd yn 2021. Mae’r dangosyddion a osodwyd ar 14 Rhagfyr 2021 yn cymryd lle’r set a osodwyd ar 16 Mawrth 2016, ac mae'r datganiad hwn yn cynnwys un o'r dangosyddion cenedlaethol, sef:
- (8) Canran yr oedolion sydd â chymwysterau ar wahanol lefelau'r Fframwaith Cymwysterau Cenedlaethol.
Mae gwybodaeth am y dangosyddion, ynghyd â naratif ar gyfer pob un o’r nodau llesiant a’r wybodaeth dechnegol gysylltiedig ar gael yn adroddiad Llesiant Cymru.
Fel dangosydd cenedlaethol o dan y Ddeddf, mae'n rhaid cyfeirio atynt yn y dadansoddiadau o lesiant lleol sy'n cael eu paratoi gan fyrddau gwasanaethau cyhoeddus pan fyddant yn dadansoddi cyflwr llesiant economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol yn eu hardaloedd.
Mae'r Ddeddf yn datgan bod rhaid gosod cerrig milltir “...y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried y byddent yn cynorthwyo i fesur a oes cynnydd yn cael ei wneud tuag at gyrraedd y nodau llesiant”. Wrth wneud hynny, rhaid i Weinidogion Cymru bennu sut y byddwn yn gwybod bod carreg filltir genedlaethol wedi'i chyflawni ac erbyn pryd y mae angen ei chyflawni.
Nid yw cerrig milltir cenedlaethol yn dargedau perfformiad ar gyfer unrhyw sefydliad unigol ond, yn hytrach, maent yn fesurau llwyddiant ar y cyd i Gymru.
Yn y datganiad hwn mae dangosydd 8 – canran yr oedolion sydd â chymwysterau ar wahanol lefelau'r Fframwaith Cymwysterau Cenedlaethol – yn cyfateb i ddwy garreg filltir:
- Bydd gan 75% o'r oedolion oedran gweithio yng Nghymru gymhwyster Lefel 3 neu uwch erbyn 2050.
- Canran yr oedolion oedran gweithio sydd heb unrhyw gymwysterau fydd 5% neu lai ym mhob awdurdod lleol yng Nghymru erbyn 2050.
Rhagor o wybodaeth am Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.
Gallai'r ystadegau a gynhwysir yn y datganiad hwn hefyd ddarparu naratif ategol i'r dangosyddion cenedlaethol a ellid eu defnyddio gan fyrddau gwasanaethau cyhoeddus mewn perthynas â'u hasesiadau llesiant a chynlluniau llesiant lleol.
Rydym am gael eich adborth
Rydym yn croesawu unrhyw adborth ar unrhyw agwedd ar yr ystadegau hyn. Gallwch ei anfon mewn e-bost i Ystadegau.MarchnadLafur@llyw.cymru
Y Drwydded Llywodraeth Agored
Mae'r holl gynnwys ar gael o dan Drwydded Llywodraeth Agored v3.0, oni nodir yn wahanol.
Manylion cyswllt
Ystadegydd: Marcela Beck
E-bost: Ystadegau.MarchnadLafur@llyw.cymru
Cyfryngau: 0300 025 8099
SFR 35/2025

