Mae'r adroddiad hwn yn canolbwyntio ar ddarparu asesiad cynnar o effeithiau'r Ddeddf, ac asesiad parhaus o'r broses o weithredu'r Ddeddf.
Y cyhoeddiad diweddaraf
Mae'r adroddiad Cam 2 hwn yn cyflwyno canfyddiadau o waith maes a wnaed rhwng Hydref 2023 a Gorffennaf 2024.
Nod cam 2 y gwerthusiad yw:
- asesu cynnydd o ran gweithredu'r Ddeddf
- pennu llwyddiant y Ddeddf o ran cyflawni ei bwriadau
- asesu effeithiau cynnar y Ddeddf ar landlordiaid, deiliaid contractau, a'r sector rhentu yn gyffredinol yng Nghymru
Mae canfyddiadau cam 2 yn canolbwyntio ar:
- ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o'r Ddeddf
- y cyngor, cymorth a'r arweiniad sydd ar gael i landlordiaid a deiliaid contract
- pa mor hawdd neu anodd oedd bodloni gofynion y Ddeddf
- gwell diogelwch deiliadaeth i ddeiliaid contract
- symlrwydd a chysondeb y prosesau
- gwell safonau tai a diogelwch
- unrhyw ganlyniadau anfwriadol posibl i'r Ddeddf
Mae'r adroddiad hefyd yn cynnwys ystyriaethau ar gyfer cam 3 y gwerthusiad.
Adroddiadau
Gwerthusiad o Ddeddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016: adroddiad Cam 2 , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 2 MB
PDF
2 MB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.
