Neidio i'r prif gynnwy

Ken Skates AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru

Cyhoeddwyd gyntaf:
21 Mai 2025
Diweddarwyd ddiwethaf:

Fel rhan o ymrwymiad Llywodraeth Cymru i wella pa mor hygyrch yw trafnidiaeth drwy ein hagenda Teithio i Bawb, rydym yn gweithio'n barhaus i sicrhau bod ein systemau trafnidiaeth yn diwallu anghenion pob unigolyn. Mae rhwystrau i drafnidiaeth yn cael effaith sylweddol ar fywydau pobl; colli hyder, eu hannibyniaeth a'u gallu i gael mynediad at gyflogaeth, addysg a gwasanaethau cyhoeddus hanfodol. Rwy'n falch o roi'r wybodaeth ddiweddaraf ichi am hynt Cynllun y Bathodyn Glas, sy'n adlewyrchu ein hymrwymiad parhaus i wella hygyrchedd a chynhwysiant.

Yn 2019, cynhaliodd Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau'r Senedd "Ymchwiliad i Gynllun y Bathodyn Glas yng Nghymru: Cymhwystra a Gweithredu" yn 2019 a gwnaeth argymhellion ar wella’r ffordd y caiff y cynllun ei reoli. 

Un o brif argymhellion yr ymchwiliad oedd i Lywodraeth Cymru adolygu'r meini prawf cymhwystra ar gyfer y Cynllun. Mewn ymateb, fe wnaethom gomisiynu ein Rhaglen Ymchwil Fewnol i gynnal adolygiad cynhwysfawr. 

Ceisiodd yr ymchwil hon:

  • ddeall pa mor gadarn yw prosesau asesu Cynllun y Bathodyn Glas.
  • deall y llenyddiaeth ynghylch meini prawf cymhwystra presennol y Cynllun i ganiatáu ar gyfer ymchwil yn y dyfodol i ehangu'r meini prawf. 
  • archwilio'r ffactorau sy'n arwain at geisiadau llwyddiannus ac aflwyddiannus am fathodyn glas.

Mae'n bleser gennyf gyhoeddi bod y gwaith bellach wedi'i gwblhau a'i gyhoeddi heddiw, gan gynnwys argymhellion, sydd i gyd wedi'u derbyn gan Lywodraeth Cymru. Rwy'n parhau i fod yn ymrwymedig i gymryd y camau angenrheidiol i sicrhau llwyddiant parhaus y Cynllun. 

Ers ymchwiliad 2019, mae fy swyddogion wedi gwneud camau sylweddol wrth wella gweithrediad Cynllun y Bathodyn Glas, gan weithio ar y cyd ag awdurdodau lleol a rhanddeiliaid eraill gan gynnwys Disability Motoring UK a Chymdeithas Parcio Prydain. 

Mae'r gwelliannau hyn yn cynnwys:

  • Hyfforddiant ychwanegol i holl staff awdurdodau lleol ar y meini prawf cymhwystra yng Nghymru, ynghyd â darparu ystod ehangach o wybodaeth gan y Gwasanaeth Cynghori Annibynnol a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol i helpu staff awdurdodau lleol i ddeall cyflyrau a symptomau yn well a'u heffaith ar symudedd.
  • Cyflwynwyd gweithdy ar y model cymdeithasol o anabledd i staff bathodyn glas awdurdodau lleol a rhanddeiliaid o Weithgor y Bathodyn Glas, dan arweiniad hyfforddwr â phrofiad byw o amhariadau a oedd yn ddeiliad bathodyn glas.
  • Pwysleisiwyd pwysigrwydd cysondeb asesiadau awdurdodau lleol a'r dull o rannu arferion gorau drwy gyfarfodydd, grwpiau ffocws a gwell offer asesu.
  • Hyfforddiant gorfodi i bob awdurdod lleol yng Nghymru i ddiogelu'r cynllun a helpu deiliaid bathodynnau glas i gael mynediad at fannau parcio. 

Mae gwaith yn mynd rhagddo ar annog awdurdodau lleol i ddilyn proses symlach ar gyfer deiliaid bathodynnau â chyflyrau dirywiol sydd eisiau ailgyflwyno ceisiadau yn y dyfodol .  Bydd gweithgor gyda Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC) ym mis Mehefin hefyd yn rhoi cyfle i ystyried datblygu arferion da gydag awdurdodau lleol ynghylch sut mae'r rhai y mae angen help a chymorth arnynt i wneud cais yn cael eu cynorthwyo.

Rwyf hefyd wedi ymrwymo i gynnull grŵp arbenigol a fydd yn gweithio gydag awdurdodau lleol a CLlLC i archwilio sut y gallwn rannu data yn well a lleihau'r baich ar unigolion sy’n gwneud cais am fathodynnau. Mae Adran Drafnidiaeth y DU hefyd yn darparu System Ddigidol y Bathodyn Glas, sy'n helpu i symleiddio'r broses ymgeisio ac yn cynorthwyo awdurdodau lleol i weinyddu'r cynllun. 

Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i fod yn gwbl ymrwymedig i sicrhau bod pobl sydd â'r rhwystrau mwyaf i symudedd yn gallu cael mynediad at y consesiynau parcio ar y stryd sy'n hanfodol i'w cynhwysiant cymdeithasol a'u hansawdd bywyd. Ein nod yw gwneud y broses o gael bathodyn glas mor effeithlon, effeithiol a di-straen â phosibl, gan gynnal uniondeb y cynllun a sicrhau ei fod yn parhau i gyflawni ei bwrpas hanfodol.