Ymchwil yn edrych ar ffyrdd o wella’r Cynllun Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd yng Nghymru - Dull cydgynhyrchiol
Bu cydweithio rhyngom â’r Tasglu Hawliau Pobl Anabl i gynnal ymchwil i’r Cynllun Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd. Roeddem am brofi sut oeddem yn cydgreu yng Nghymru.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Nodau cydgynhyrchu
Cynhyrchodd y tîm cydgynhyrchu weledigaeth gyffredinol ar gyfer y prosiect ymchwil, y dull cydgynhyrchu a'r gwerthusiad. Cytunwyd ar gydgynhyrchu fel 'dull o weithio gyda'n gilydd mewn partneriaeth gyfartal er budd cyfartal' a chytunwyd ar ystod o egwyddorion i helpu cydweithio ymhlith aelodau'r tîm.
Yr uchelgeisiau a rennir oedd dysgu sut i gynhyrchu ymchwil GSR gyda'i gilydd, lle byddai'r dysgu’n cael ei ddefnyddio i wella ansawdd a defnydd tystiolaeth i lywio penderfyniadau sy'n effeithio ar bobl anabl yn y dyfodol. Roedd yn arbrawf oedd yn creu prototeip i brofi'r terfynau wrth gydgynhyrchu adroddiad GSR. Bydd y graddau y cyflawnwyd uchelgeisiau yn destun adroddiad gwerthuso ar wahân ac nid ydynt wedi'u cynnwys yn yr adroddiad hwn.
Y tîm cydgynhyrchu ymchwil
Cyfunodd y tîm cydgynhyrchu brofiad bywyd o anablu gan rwystrau ag arbenigedd mewn hawliau anabledd ac ymchwil gymdeithasol (academaidd a Llywodraeth) a daeth â 7 o Gadeiryddion Gweithgorau’r THA a swyddogion Llywodraeth Cymru at ei glydd:
- roedd y Cadeiryddion yn cynrychioli cyfoeth o brofiad bywyd o gael eu hanablu gan rwystrau, gwybodaeth ac arbenigedd (gan gynnwys arbenigedd academaidd mewn anghydraddoldebau cyflogaeth ac anabledd) ac roeddent wedi cadeirio Gweithgorau’r THA yn ymdrin â phynciau Cyflogaeth ac Incwm, Byw'n Annibynnol ac Iechyd, Byw'n Annibynnol a Gofal Cymdeithasol, Tai, Mynediad at Wasanaethau, Mynediad at Gyfiawnder a Theithio
- ymunodd Myfyriwr PhD a oedd yn gysylltiedig â Chadeirydd Gweithgor Cyflogaeth ac Incwm y THA ac yn ymchwilio'n annibynnol i'r un pwnc hefyd â'r tîm
- arweinydd Polisi’r THA a gynhaliodd gysylltiadau rhwng prosiectau ymchwil a'r Cynllun Hawliau Pobl Anabl
- roedd o leiaf tri o ymchwilwyr cymdeithasol Llywodraeth Cymru yn ymroddedig i'r tîm cydgynhyrchu drwy’r prosiect, gan gynnwys rhai â phrofiad bywyd o gael eu hanablu gan rwystrau
- bu Prif Ymchwilydd yn cefnogi’r cydgynhyrchu trwy’r cyfnod ac yn gyfrifol am y gwerthusiad terfynol
- roedd gan Bennaeth yr Unedau Tystiolaeth Cydraddoldeb, Hil ac Anabledd oruchwyliaeth ers cychwyn y prosiect ac roedd yn rhan lawn o'r cydgynhyrchu o'r adeg y cytunwyd ar y ffocws ymchwil
Nodau’r ymchwil
Nod yr ymchwil oedd cydgynhyrchu tystiolaeth sylfaenol yn ailadroddol a'i defnyddio i archwilio argymhelliad Gweithgor y THA, trwy gynnwys:
- y tîm cydgynhyrchu a'i drafodaethau cwmpasu cychwynnol
- cynrychiolwyr pobl anabl (gan gynnwys Sefydliadau Pobl Anabl a Grwpiau Amhariad)
- cynrychiolwyr cyflogwyr
- swyddogion polisi Llywodraeth Cymru
- cynrychiolwyr undebau llafur
Sut cynhyrchwyd yr ymchwil
Aeth y tîm cydgynhyrchu ati i weithio mor gydgynhyrchiol â phosibl i gwmpasu, cyd-ddylunio a chydgynllunio'r ymchwil, datblygu offer ymchwil a chyd-ddadansoddi'r data. Bu ymchwilwyr Llywodraeth Cymru yn drafftio’r adroddiadau ac yn sicrhau ansawdd y rhain i safonau GSR cyn eu cynnig i'w hadolygu gan y tîm cydgynhyrchu.
Roedd y graddau y cydgynhyrchwyd penderfyniadau yn amrywio yn ystod gwahanol gamau'r prosiect. Cafodd rhai penderfyniadau eu cadw gan Lywodraeth Cymru lle roedd ganddi gyfrifoldebau i'w cynnal. Er enghraifft, cyfrifoldebau diogelu data statudol neu safonau GSR proffesiynol fel cyfrifoldebau moesegol sy'n ymwneud â chyfrinachedd canfyddiadau cyn eu cyhoeddi.
Mae cydgynhyrchu yn broses ailadroddol. Roedd y cydgynhyrchu’n cynnwys dau ddarn o ymchwil ac roedd penderfyniadau a wnaed ynglŷn â'r dyluniad gwaith maes yn effeithio ar yr adnoddau a oedd ar gael i gyflawni amcanion ymchwil eraill yn ddigonol. Eglurir hyn yn fanylach yn yr adran fethodoleg a bydd yn cael ei archwilio ymhellach trwy werthusiad y prosiect. Bydd y gwerthusiad yn ystyried i ba raddau y cydgynhyrchwyd yr ymchwil ar draws gwahanol gamau'r ddau brosiect o greu prototeip ymchwil.
Roedd cydweithio fel tîm o arbenigwyr trwy brofiad ac ymchwilwyr cymdeithasol academaidd neu Lywodraeth (a rhai’n perthyn i’r ddau gategori) yn ychwanegu at ansawdd yr ymchwil, er enghraifft:
- cyfunwyd gwybodaeth am y pwnc ymchwil ac roedd yr ymchwil yn adeiladu ar wybodaeth a gronnwyd yng Ngweithgor y THA ac ymchwil annibynnol y Myfyriwr PhD
- cymhwyswyd lens profiad bywyd wrth ddatblygu'r adnoddau ymchwil, cydhwyluso grwpiau ffocws a dadansoddi data’r grwpiau ffocws
- heriwyd rhagdybiaethau am bobl anabl a thynnwyd sylw at gyfleoedd i wneud pethau'n wahanol
- cydgynlluniwyd ymchwil ac adroddiadau wrth geisio cyflawni yn unol ag egwyddorion y model cymdeithasol o anabledd
- gwnaed ymdrechion ar y cyd i ddewis a recriwtio cyfranogwyr mewn grwpiau ffocws
Manylion cyswllt
Awdur yr adroddiad: Yr Unedau Tystiolaeth Cydraddoldeb, Hil ac Anabledd
Safbwyntiau’r ymchwilwyr ac nid o reidrwydd rhai Llywodraeth Cymru yw’r safbwyntiau a fynegir yn yr adroddiad hwn.
I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch ag:
Yr Unedau Tystiolaeth Cydraddoldeb, Hil ac Anabledd
Gwasanaethau Gwybodaeth a Dadansoddi
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ
E-bost: YrUnedTystiolaethCydraddoldeb@llyw.cymru
Rhif ymchwil gymdeithasol: 57/2025
ISBN Digidol: 978-1-83715-745-7

